Cynllunio Argyfwng
Tywydd Mawr
Oeddech chi'n gwybod y gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am statws y bont drwy'r e-bost neu drwy decstio ‘BRIDGE' i 80039?
I dderbyn e-bost, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:-
2. Mewngofnodwch i'ch cyfrif a dewis eicon 'Fy Nghyfrif'.
3. Yna dewis, ‘Hysbysiadau o Gau'r Bont'
SYLWER: Os byddwch yn dewis anfon neges destun ‘pont' i 80039, byddwch yn talu pris arferol y rhwydwaith.
Yn Sir Benfro rydym wedi cael nifer o ddigwyddiadau/argyfyngau sydd y tu hwnt i reolaeth pobl, yn bennaf oherwydd tywydd garw. Ni allwn wneud unrhyw beth i atal tywydd garw ond gallwn ymbaratoi ato.
Ar brydiau fe allem wynebu'r pethau hyn:
- Gwyntoedd cryfion a stormydd - difrod i adeiladau a choed, perygl i gerbydau ag ochrau uchel iddynt a thraffig arall, gwrthdrawiadau rhwng cerbydau, y cyfleustodau a'r ffonau'n pallu
- Eira trwm - heolydd a strydoedd yn gaead, siwrneiau'n cymryd yn hirach i'w cwpla, tarfu ar ddanfon gwasanaethau a chyflenwadau hanfodol, cerbydau gadawedig, gwrthdrawiadau rhwng cerbydau, y cyfleustodau a'r ffonau'n pallu
- Glaw trwm - llifogydd, cyflwr y tywydd ar gyfer gyrru, hyrddiau o drydan
- Niwl - siwrneiau'n cymryd yn hirach i'w cwpla, gwrthdrawiadau rhwng cerbydau
- Tymereddau isel, iâ - ffyrdd a phalmentydd peryglus, gwrthdrawiadau rhwng cerbydau, y cyfleustodau a'r ffonau'n pallu, rhagor o berygl i bobl sy'n agored i niwed
- Gwres mawr - lludded a thrawiad gwres, rhagor o berygl i bobl sy'n agored i niwed
Pan ceir cyfnodau o dywydd garw bydd Cyngor Sir Penfro yn gwneud popeth o fewn ei allu i wella'r sefyllfa. Er enghraifft, rhoi gwybodaeth a chyngor, graeanu a chlirio eira, ymateb i lifogydd, ymdrin ag adeiladau peryglus, agor canolfannau gorffwys o bosibl, parhau i gynnal gofal cartref, cau ysgolion os bydd rhaid, archwilio a chlirio draeniau a chwlferi, yn ogystal â pharhau i ddarparu, hyd y bo modd yn ymarferol, ei wasanaethau beunyddiol eraill.
Fodd bynnag, y rhagofalon a'r camau gweithredu y byddwn ni, yr unigolion, yn eu cymryd cyn ac yn ystod tywydd garw, a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar ba mor dda y byddwn ni'n ymdopi â hynny, neu ar ba mor ddrwg y mae e'n effeithio arnom, er enghraifft trwy:
- Cadw'r eiddo mewn cyflwr da, wedi eu hinswleiddio a'u lagio yn ddigonol
- Sicrhau nad oes dim, fel dail ac ati, yn tagu draeniau a chwteri
- Sicrhau bod gyda chi yswiriant digonol
- Mynd ati i weld a gwrando ar ragolygon a rhybuddion tywydd
- Cadw cyflenwad o rai nwyddau sylfaenol, gan gynnwys flachlamp ac ati
- Os oes modd, peidio â defnyddio ceir ac ati, pan mae cyflwr y ffyrdd yn hynod beryglus
- Bod yn ‘gymydog da' a chadw llygad ar bobl sy'n agored i niwed yn eich cymdogaeth
- Defnyddio ‘synnwyr cyffredin'
Llifogydd
Mae tri math o lifogydd yn effeithio ar Sir Benfro
- Llanwol - sy'n effeithio ar ardaloedd yr arfordir, aberoedd a hydoedd llanwol afonydd
- Afonol - lefelau afonydd yn codi i'r fath raddau eu bod yn uwch na phen cloddiau neu amddiffynfeydd
- Dŵr Arwyneb - glaw trwm ynghyd â chwlferi wedi eu tagu a draeniau gorlawn o bosibl
Er y gallwn ni ragweld llifogydd llanwol ac afonol, mae curlaw sydyn sy'n achosi llifogydd yn gallu effeithio ar y rhan fwyaf o eiddo.
Er mwyn gwybod beth yw'r sefyllfa bresennol ynghylch llifogydd yng Nghymru a Lloegr
- Dylech fwrw golwg ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (sy'n cael ei diweddaru bob 15 munud, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos).
- Ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymr ar 0345 988 1188 Rhoi gwybod am Ffyrdd neu Lwybrau sydd Dan Ddŵr
Cofiwch ymbaratoi ar gyfer llifogydd
Mae gan y canllawiau canlynol bŵer o wybodaeth a chyngor ymarferol ynghylch beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd. Rydym am i chi fod yn barod ar gyfer llifogydd, gwybod sut i ddiogelu chi'ch hun a'ch eiddo, a chadw'n ddiogel os digwydd llifogydd
Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd wybodaeth ynghylch sut i ddiogelu eich eiddo rhag llifogydd a sut i lunio cynllun llifogydd.
Er mwyn rhoi gwybod am ffordd neu lwybr dan ddŵr (e.e. am fod draen wedi'i dagu) Ffoniwch eich Swyddfa Ardal Cynnal a Chadw Priffyrdd ar 01437 764551
Sylwer: pan ceir glaw trwm dros ben, yn ystod storm daranau er enghraifft, gall ffyrdd a llwybrau fod dan ddŵr am y tro. Fel arfer ni fydd rhaid rhoi gwybod am hyn.
Tywydd garw yn y gaeaf
Os cewch eich dala mewn storm o eira fe allai hynny beri perygl ichi. Fodd bynnag, trwy flaengynllunio gallwch chi ddiogelu chi'ch hun, eich car a'ch cartref/teulu rhag y peryglon lawer sy'n perthyn i'r gaeaf.
Gyrru yn y gaeaf
- Bob gaeaf bydd y Cyngor yn cynllunio pa ffyrdd fydd yn cael eu graeanu os byddwn yn disgwyl eira ac iâ
- Cyn cychwyn ar eich siwrnai, cofiwch weld a gwrando ar ragolygon y tywydd
- Gofynnwch y cwestiwn hwn - ‘A yw'r siwrnai hon yn angenrheidiol?', os nad yw, yna peidiwch â mentro mas. Os ydyw'n angenrheidiol, defnyddiwch rwydwaith ffyrdd y prif ffyrdd i gynllunio eich siwrnai
- Holwch er mwyn gweld a allwch ddefnyddio cludiant cyhoeddus
- Cofiwch ganiatáu rhagor o amser ar gyfer eich siwrnai
- Cliriwch y ffenestri cyn cychwyn ar eich siwrnai
- Cofiwch sicrhau bod gwrthrewydd addas wedi cael ei ddodi yn rheiddiadur eich cerbyd a bod hylif sy'n rhewi ar dymheredd isel wedi cael ei ddodi ym mhotel golchi'r sgrîn wynt
- Dylech sicrhau bod eich cerbyd yn gweithio'n iawn - golchi bob golau a chyfeirydd yn aml
- Pan mae hi'n oer cofiwch yrru gan bwyll ychwanegol a pheidiwch byth â chymryd yn ganiataol y bydd ffordd wedi cael ei graeanu.
- Gwrandewch ar eich gorsaf radio leol er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf un am deithio
- Wrth yrru mewn glaw, niwl neu eira cofiwch roi'ch prif oleuadau ymlaen ac yna'u gostwng
- Cofiwch gael digonedd o danwydd yn eich tanc bob amser
Dylech gadw pecyn nwyddau yn eich car, sy'n cynnwys:
- Dillad ac esgidiau addas i'w gwisgo yn y gaeaf a blanced neu sach cysgu
- Ffôn symudol, radio, fflachlamp a batris ychwanegol
- Pâl a theclyn crafu sgrîn wynt
- Dŵr a byrbrydau
- Cadwyn neu raff i halio'r car
- Gwifrau cyswllt
Os cewch eich dala mewn storm yn y gaeaf mewn man diarffordd dylech wneud hyn:
- Trowch oddi ar y ffordd fawr. Rhowch y goleuadau perygl ymlaen a dodwch faner cyfyngder i chwifio ar erial y car neu'r ffenestr
- Arhoswch yn eich cerbyd. Dylech ond gadael y car os oes adeiladau gerllaw y gwyddoch y gallwch chi gael lloches ynddynt. Mae eira sy'n lluwchio yn gallu rhoi camargraff ynghylch pellteroedd - fe allai adeilad edrych fel petai'n agosach nad ydyw mewn gwirionedd ac efallai bod yr adeilad yn rhy bell i gerdded ato mewn eira trwchus
- Rhowch y peiriant a'r gwresogydd ymlaen am oddeutu 10 munud bob awr er mwyn cadw'n dwym. Pan fydd y peiriant ar fynd, agorwch un o'r ffenestri dipyn bach er mwyn ichi beidio â chael gwenwyn carbon monocsid. Cliriwch yr eira o'r beipen ecsôst o dro i dro
- Symudwch o gwmpas er mwyn cadw gwres y corff yn gyson, ond peidiwch â'i gorwneud hi
- Dylai cyd-weithwyr wasgu at ei gilydd
- Cofiwch sicrhau bod rhywun yn y car yn aros ar ddi-hun er mwyn cadw llygaid ar agor am y timau achub
- Yfwch ddiodydd er mwyn ichi beidio â dysychu
- Peidiwch â gwastraffu batris
Cofiwch sicrhau bod eich cartref yn ddiogel ar gyfer y gaeaf
Dylech ymbaratoi i bara'n fyw yn eich cartref eich hun, heb gymorth o'r tu fas, am o leiaf tridiau. Os digwydd hyn bydd pecyn nwyddau argyfwng i'r cartref o gymorth mawr ichi. Os yw eich tŷ mewn man diarffordd dylech wneud hyn:
- Sicrhau bod gyda chi danwydd gwresogi digonol i'ch tŷ. Cofiwch wneud trefniadau i gael offer gwresogi amgen yn ogystal â thanwydd digonol ar ei gyfer rhag ofn y cewch chi doriad trydan
- Daliwch ati i awyru'r cartref pan ydych yn defnyddio gwresogyddion cerosin er mwyn peidio â chael mygdarthau gwenwynig. Cofiwch gadw'r offer diffodd tân wrth law a sicrhau bod pawb yn y tŷ yn gwybod sut i'w defnyddio
- Gwrandewch ar yr orsaf radio leol neu'r teledu er mwyn cael rhagolygon y tywydd a gwybodaeth argyfwng
- Cofiwch fwyta ac yfed digonedd o ddiodydd yn rheolaidd (ceisiwch beidio ag yfed alcohol a chaffein)
- Gwisgwch yn briodol. Mae sawl haen o ddillad ysgafn, llac yn well nag un haen drwchus. Dylai'r haen allanol fod yn wrth-ddŵr. Mae dyrnfolau yn fwy twym na menig. Dylech wisgo het, bob amser gan fod y rhan fwyaf o wres y corff yn cael ei golli trwy'r pen.
- Gan bwyll os ydych chi'n sylwi ar arwyddion ewinrhew: dim teimlad yn y traed a'r dwylo sydd a lliw gwyn neu lwydwyn arnynt. Os gwelwch chi'r symptomau ewch i gael cymorth meddygol ar unwaith
- Cadwch eich llygaid ar agor am arwyddion oerfel; methu stopio crynu, methu cofio pethau, dryswch, bratiogrwydd, lleferydd yn aneglur, syrthni a lludded i bob golwg. Os gwelwch chi'r symptomau hyn, symudwch y person i fan twym, tynnu unrhyw ddillad gwlyb oddi amdano/amdani, twymo'r corff o'r tu mewn yn gyntaf trwy roi iddynt ddiod boeth ddi-alcohol (os yw'r person yn ymwybodol). Ewch i mo'yn cymorth meddygol ar unwaith.
- Os oes gyda chi deulu a ffrindiau sy'n agored i niwed, fel yr henoed, cofiwch gysylltu â hwy/fynd i'w gweld yn rheolaidd