Beth yw Cynllunio rhag Argyfyngau?
Mae damweiniau dynol a naturiol yn digwydd o dro i dro, a gallant ddigwydd ar raddfa fechan neu fawr. Fe allant gael eu hachosi gan neu gallant gynnwys tywydd garw, afiechydon heintus cyffredin i laweroedd o bobl neu anifeiliaid, argyfwng trafnidiaeth, digwyddiad llygredd, llifogydd ar yr arfordir, digwyddiadau sy'n tarfu ar y gwasanaethau hanfodol neu ymosodiad gan derfysgwyr.
Nod yr Uned Cynllunio rhag Argyfyngau yw pwyso a mesur y bygythiadau a'r peryglon i Sir Benfro a gwneud cynlluniau i ymateb ac ymadfer, pe ceid digwyddiad. Yr amcan yn y pen draw yw lleihau hyd yr eithaf effaith y trychineb ar fywydau beunyddiol y gymuned, yn enwedig felly'r bobl sydd fwyaf agored i niwed a'r amgylchedd, a chynorthwyo pawb a phopeth i ddychwelyd i'w cyflwr arferol.
Er mwyn paratoi ar gyfer argyfyngau bydd yr Uned Cynllunio rhag Argyfyngau yn gwneud hyn:
Wrth ymateb i argyfyngau bydd Cyngor Sir Penfro'n gwneud hyn:
Pwy yw pwy a sut i gysylltu â ni
Richard Brown
Pennaeth yr Amgylchedd a'r Argyfyngau Sifil Posibl
Steve Jones
Uwch Swyddog Cynllunio rhag Argyfyngau
Pauline Louchart
Swyddog Cynllunio rhag Argyfyngau
Uned Cynllunio rhag Argyfyngau
Cyngor Sir Penfro
Uned 23 Parc Busnes Thornton
Aberdaugleddau
Sir Benfro
SA73 2RR
Emergency.planning.unit@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn 01437 775661
Ffacs 01437 775704