Cynnal a Chadw Ffyrdd

Torri Ymylon Priffyrdd

Dim ond un prif doriad sydd, ac mae’n cychwyn ar ddydd Llun cyntaf mis Gorffennaf. Bydd yn parhau am oddeutu 6-8 wythnos yn ddibynnol ar y tyfiant. O boptu’r prif doriad, bydd toriadau diogelwch yn cael eu gwneud ar gyffyrdd, ymlediadau gwelededd, troeon cas, ac ar leoliadau eraill pan fydd y tyfiant yn ymyrryd ar welededd defnyddwyr y ffordd. Bydd y toriad diogelwch cyn y prif doriad yn cael ei wneud yng nghanol Mai, unwaith eto’n ddibynnol ar y tyfiant.

Mae’r polisi wedi’i sefydlu ers 2011 er mwyn lleihau’r nifer o doriadau a oedd yn cael eu gwneud, ac er mwyn caniatáu i flodau gwylltion ffynnu ar ymylon ein priffyrdd trwy gychwyn y prif doriad yn hwyrach yn y tymor.

Caiff y ffactorau canlynol eu hystyried hefyd:

  •  Gwarchodfeydd Natur ar ymyl y ffordd - Bydd y rhain yn cael eu hadnabod o fewn yr amserlen torri, a’u marcio gan ddefnyddio pyst gwyn ar ymyl y ffordd. Bydd y torwyr yn cael eu hysbysu i beidio â thorri’r ardaloedd. Bydd ambell i ardal yn cael eu torri’n hwyrach yn y flwyddyn, ym mis Medi/Hydref. Ar y funud, mae oddeutu 20 safle hyd a lled y rhwydwaith i’w harolygu cyn y flwyddyn nesaf.
  • Bydd y torwyr hefyd yn cael eu hysbysu i osgoi gwrychoedd sy’n amlwg yn cael eu cynnal gan dirfeddianwyr. Ni fyddant ychwaith yn torri ardaloedd sydd ag amrywiaeth o flodau gwylltion, oni bai y byddai hynny’n peri peryglon i ddefnyddwyr y ffyrdd.
  • Bydd y torwyr yn cael eu hysbysu i beidio â thorri clymog Japan, nac unrhyw rywogaethau ymledol anfrodorol eraill. Caiff yr ardaloedd eu nodi, a bydd y torwyr yn hysbysu’r rheolwyr fel bo’r ardaloedd yn cael eu rhestru fel ardaloedd i’w trin gyda chwynladdwyr.

Hysbysu Torri Ymylon    

 

ID: 3720, adolygwyd 25/03/2022

Gallwch ddisgwyl

  • i bob ffordd gerbyd a llwybr troed gael eu harchwilio yn rheolaidd i chwilio am ddiffygion (fel yn y tabl isod);
  • bydd diffygion brys, fel cloriau tyllau caead coll, yn cael eu gwneud yn ddiogel o fewn 4 awr;
  • bydd diffygion eraill yn cael eu hunioni yn unol ag adnoddau ac yn ôl blaenoriaeth;
  • archwiliadau diogelwch i gael eu cynnal fel yn y tablau isod:

Ffyrdd cerbyd

Harchwilio yn rheolaidd i chwilio am ddiffygion

Ffyrdd cerbyd

mis

Dosbarth A 6 mis      
Dosbarth B 6 mis
Ffyrdd llai 6 mis
Ystadau (heb ffyrdd drwyddynt) 12 mis

Llwybrau troed

Harchwilio yn rheolaidd i chwilio am ddiffygion

Llwybrau troed 

mis

Prif ardal siopa            3 mis
Trefol prysur 3 mis
Trefol arall 6 mis
Ystadau 12 mis
  • Bydd ochrau ffyrdd y tu allan i ardaloedd trefol yn cael eu torri unwaith y flwyddyn, ym mis Gorffennaf/Awst. Cyn ac ar ôl yr amser hwn byddwn yn gwneud toriadau ychwanegol am resymau diogelwch yn ôl yr angen.
  • Bydd ysgubo brys yn cael ei wneud ar ôl damweiniau, stormydd ac yn ystod cwymp dail yr Hydref yn unig;
  • Bydd systemau draenio’r priffyrdd yn cael eu cynnal i sicrhau bod y dŵr yn cael ei gludo’n effeithiol o wynebau’r priffyrdd;
  • Bydd cafnau a phibelli cysylltiedig yn cael eu gwacáu a’u golchi unwaith y flwyddyn. Bydd ffosydd yn cael eu clirio fel bo angen. Bydd llifogydd ar y priffyrdd yn cael eu lleddfu cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl, a blaenoriaeth yn dibynnu ar ddifrifoldeb a pherygl arfaethedig i eiddo;
  • Bydd arwyddion a marciau ffyrdd newydd yn cael eu gosod a’r rhai presennol yn cael eu glanhau fel bo angen, a blaenoriaeth yn dibynnu ar leoliad a math (p’un ai’n statudol, yn rhoi gwybodaeth neu’n cyfeirio);
  • Bydd gosod halen o flaen llaw ar ffyrdd sydd â blaenoriaeth yn cael ei wneud pan fydd rhew, iâ neu eira yn cael eu rhagweld, ynghyd â gosod halen ar ôl hynny neu glirio ffyrdd yr effeithir arnynt fel bo angen gan ddibynnu ar ddifrifoldeb yr amgylchiadau;
  • Bydd gosod halen o flaen llaw ar Briffyrdd yn cael ei gwblhau o fewn 2 awr a Ffyrdd Sirol o fewn 3 awr o’r dechrau. Mae ymateb i alwad Frys yn un awr cyn dechrau gosod halen.
ID: 753, adolygwyd 25/03/2022

Sut gallwch chi ein helpu ni

P’un ai ydych chi am roi galwad neu ysgrifennu atom, byddwch yn benodol ynghylch y diffyg neu broblem ac, os yw’n briodol, ei leoliad. Mae braslun yn ddefnyddiol a gall arbed amser i staff a galluogi i’r broblem gael ei chydnabod yn gyflymach. Rhowch wybod am unrhyw beryglon i gerddwyr ar lwybrau troed fel cloriau sydd wedi torri neu sydd ar goll, neu rwystrau. Rhowch wybod am dyfiant ar ymylon sy’n amharu ar welededd.

Hefyd, rhowch wybod am unrhyw broblemau o ganlyniad i ddŵr neu dyllau ar y ffordd.

 phwy ddylwn i gysylltu?

Cynnal a Chadw Priffyrdd
Ffôn: 01437 764551

ID: 755, adolygwyd 25/03/2022

Gwaith Ffordd yn Nhrefn Dyddiad Cychwyn

Cyfredol Cyfredol
Dyfodol Dyfodol
Goleuadau Traffig Goleuadau Traffig
Ffordd ar Gau Ffordd ar Gau

25/04/2022 - 06/07/2022
SAUNDERSFOOT
Cyngor Sir Penfro
Ffordd ar Gau
SANDY HILL ROAD
Gwelliannau Priffordd

16/05/2022 - 18/05/2022
HAVERFORDWEST
British Telecom
Goleuadau Traffig
B4330 JCT C3165 LADIES CROSS TO HAYSCASTLE CROSS
Mân waith gan BT

16/05/2022 - 20/05/2022
HAVERFORDWEST
British Telecom
Goleuadau Traffig
A487 HIGH STREET TO NINE WELLS
Mân waith gan BT

ID: 751, adolygwyd 15/03/2022

Adroddiad Ffordd Gwaith yn Nhrefn Tref

Cyfredol Cyfredol
Dyfodol Dyfodol
Goleuadau Traffig Goleuadau Traffig
Ffordd ar Gau Ffordd ar Gau

25/04/2022 - 06/07/2022
SAUNDERSFOOT
Cyngor Sir Penfro
Ffordd ar Gau
SANDY HILL ROAD
Gwelliannau Priffordd

16/05/2022 - 18/05/2022
HAVERFORDWEST
British Telecom
Goleuadau Traffig
B4330 JCT C3165 LADIES CROSS TO HAYSCASTLE CROSS
Mân waith gan BT

16/05/2022 - 20/05/2022
HAVERFORDWEST
British Telecom
Goleuadau Traffig
A487 HIGH STREET TO NINE WELLS
Mân waith gan BT

ID: 752, adolygwyd 27/09/2021

Goleuadau Stryd - Atgyweirio

I roi gwybod am olau stryd sydd wedi torri Fy Nghyfrif.  

Os bydd rhaid ichi ffonio er mwyn rhoi gwybod am y diffyg, byddwch cystal â ffonio 01437 764551 a rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallwch am leoliad y golau stryd.

Mae gan bob uned golau stryd ei rhif adnabod ei hunan, ac mae hyn yn cynnwys rhifau du ar gefndir gwyn, 3 neu 4 rhif ar wastad a 3 neu 4 rhif yn unionsyth fel hyn.

Trwy ddefnyddio'r Rhif Adnabod hwn gallwn ni ddweud yn union lle mae'r golau stryd, a bwrw golwg ar holl hanes yr uned ddiffygiol.

Bydd y rhan fwyaf o alwadau ffôn a gawn yn ymwneud â goleuadau stryd, fodd bynnag mae gan bob un o'r arwyddion a'r bolardiau yr un math o Rif Adnabod.

Os yw'r Rhif Adnabod wedi cael ei dynnu bant neu os yw'r rhif wedi mynd yn rhy aneglur i'w ddarllen, gyda threigl amser, bydd yn rhaid inni gael cymaint o wybodaeth ag y bo modd er mwyn inni allu lleoli'r uned golau stryd ddiffygiol, er enghraifft

  • cyfeiriad y tŷ agosaf at yr uned ddiffygiol
  • cod post
  • rhif ffôn y person sy'n ffonio
  • os yw'r uned ar gornel y stryd, bydd angen inni gael gwybod beth yw enw'r 2 stryd ac yn y blaen.

Rhoddir trefn flaenoriaeth ar y galwadau, fel hyn:

Blaenoriaeth 1 - bydd galwadau Blaenoriaeth 1 yn cael eu hystyried yn adran wedi diffodd (stryd gyfan), unrhyw oleuadau traffig neu groesfannau ‘pelican', colofnau goleuadau stryd sy'n ansad, neu unrhyw golofnau goleuadau stryd sydd wedi cael eu bwrw i lawr. Byddwn yn rhoi sylw, ar yr un diwrnod, i ddiffygion Blaenoriaeth 1.

Blaenoriaeth 3 - dyma oleuadau stryd unigol sydd wedi diffodd. Byddwn yn rhoi dyddiad targed o 7 diwrnod gwaith ynghylch diffygion Blaenoriaeth 3.

Cwtogi Oriau'r Goleuadau Stryd

Mae Cyngor Sir Penfro yn cwtogi oriau'r goleuadau stryd, mewn ymdrech i geisio lleihau allyriadau carbon ac arbed arian.

Byddwn yn troi bant oddeutu 14,000 o oleuadau stryd rhwng hanner nos a 5.30 y bore.

Ni fydd yr un o'r 16,250 golau stryd yn y Sir yn cael eu troi bant yn barhaol, ac oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch ni fydd y camau uchod yn cynnwys ardaloedd lle mae llawer o fynd a dod, gyda'r nos, ymysg pobl sy'n cerdded o amgylch (fel canolau trefi), na llwybrau traffig prysur chwaith.

Dodwyd band melyn adlewyrchol ar y goleuadau stryd a fydd yn goleuo'r strydoedd am ran o'r noson.

Am ragor o wybodaeth mae croeso ichi ffonio 01437 764551

 

ID: 215, adolygwyd 25/03/2022

Cynnal a Chadw Ffyrdd

Gallwch ddisgwyl:

  • i bob ffordd gerbyd a llwybr troed gael eu harchwilio yn rheolaidd i chwilio am ddiffygion (fel yn y tabl isod);
  • bydd diffygion brys, fel cloriau tyllau caead coll, yn cael eu gwneud yn ddiogel o fewn 4 awr;
  • bydd diffygion eraill yn cael eu hunioni yn unol ag adnoddau ac yn ôl blaenoriaeth;
  • archwiliadau diogelwch i gael eu cynnal fel yn y tablau isod

Ffyrdd cerbyd

Harchwilio yn rheolaidd i chwilio am ddiffygion

Ffyrdd cerbyd

mis

Dosbarth A 6 mis      
Dosbarth B 6 mis
Ffyrdd llai 6 mis
Ystadau (heb ffyrdd drwyddynt) 12 mis

Llwybrau troed

Harchwilio yn rheolaidd i chwilio am ddiffygion

Llwybrau troed

mis

Prif ardal siopa          3 mis
Trefol prysur 3 mis
Trefol arall 6 mis
Ystadau 12 mis

 

  • Bydd ochrau ffyrdd y tu allan i ardaloedd trefol yn cael eu torri unwaith y flwyddyn, ym mis Gorffennaf/Awst. Cyn ac ar ôl yr amser hwn byddwn yn gwneud toriadau ychwanegol am resymau diogelwch yn ôl yr angen.
  • Bydd ysgubo brys yn cael ei wneud ar ôl damweiniau, stormydd ac yn ystod cwymp dail yr Hydref yn unig;
  • Bydd systemau draenio’r priffyrdd yn cael eu cynnal i sicrhau bod y dŵr yn cael ei gludo’n effeithiol o wynebau’r priffyrdd;
  • Bydd cafnau a phibelli cysylltiedig yn cael eu gwacáu a’u golchi unwaith y flwyddyn. Bydd ffosydd yn cael eu clirio fel bo angen. Bydd llifogydd ar y priffyrdd yn cael eu lleddfu cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl, a blaenoriaeth yn dibynnu ar ddifrifoldeb a pherygl arfaethedig i eiddo;
  • Bydd arwyddion a marciau ffyrdd newydd yn cael eu gosod a’r rhai presennol yn cael eu glanhau fel bo angen, a blaenoriaeth yn dibynnu ar leoliad a math (p’un ai’n statudol, yn rhoi gwybodaeth neu’n cyfeirio);
  • Bydd gosod halen o flaen llaw ar ffyrdd sydd â blaenoriaeth yn cael ei wneud pan fydd rhew, iâ neu eira yn cael eu rhagweld, ynghyd â gosod halen ar ôl hynny neu glirio ffyrdd yr effeithir arnynt fel bo angen gan ddibynnu ar ddifrifoldeb yr amgylchiadau;
  • Bydd gosod halen o flaen llaw ar Briffyrdd yn cael ei gwblhau o fewn 2 awr a Ffyrdd Sirol o fewn 3 awr o’r dechrau. Mae ymateb i alwad Frys yn un awr cyn dechrau gosod halen.

A wyddech chi?

  • Ein prif swyddogaeth yw cynnal a chadw isadeiledd y Priffyrdd Sirol fel ei fod yn gadarn ac yn darparu llwybr diogel ar gyfer ei holl ddefnyddwyr.
  • Rydym yn gyfrifol am y 2,431 cilomedr o Ffyrdd Sirol, y mae 495 km yn drefol a 1956 km yn wledig. Mae yna hefyd 120 km o briffyrdd yn Sir Benfro, ac mae’r rhain yn cael eu cynnal gan Asiantaeth Priffyrdd De Cymru (SWTRA) ac Asiantaeth Priffyrdd Canolbarth Cymru (MWTRA) ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.
  • Pe bai’r holl ffyrdd sirol yn cael eu gosod ben wrth ben byddent yn ymestyn o Hwlffordd i St Petersburg yn Rwsia. 
  • Mae dros 4000 tunnell o halen yn cael ei storio yn y sir ar gyfer ei ddefnyddio ar ffyrdd a phalmentydd yn ystod y tywydd oer.
  • Mae system swyddog wrth gefn yn gweithredu tu allan i oriau rhwng canol mis Hydref a chanol Ebrill i sicrhau ymateb cyflym i newidiadau yn y rhagolygon.

Sut gallwch chi ein helpu ni

P’un ai ydych chi am roi galwad neu ysgrifennu atom, byddwch yn benodol ynghylch y diffyg neu broblem ac, os yw’n briodol, ei leoliad. Mae braslun yn ddefnyddiol a gall arbed amser i staff a galluogi i’r broblem gael ei chydnabod yn gyflymach. Rhowch wybod am unrhyw beryglon i gerddwyr ar lwybrau troed fel cloriau sydd wedi torri neu sydd ar goll, neu rwystrau. Rhowch wybod am dyfiant ar ymylon sy’n amharu ar welededd.

Hefyd, rhowch wybod am unrhyw broblemau o ganlyniad i ddŵr neu dyllau ar y ffordd.

 phwy dylwn i gysylltu?

Cynnal a Chadw Priffyrdd
Ffôn:  01437 764551

ID: 194, adolygwyd 25/03/2022

Glanhau Stydoedd

Mae gan Gyngor Sir Penfro ddyletswydd statudol i gadw'r strydoedd, y ffyrdd a'r meysydd parcio yn lân a heb unrhyw ysgyrion, pethau dieithr a sbwriel, os oes modd yn y byd, yn unol â Deddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990 a'r Cod Ymarfer ar gyfer Sbwriel a Gwastraff 1991. 

Mae’r gwaith o lanhau’r strydoedd yn cael ei wneud gyda llaw a gyda pheiriannau er mwyn rhoi gwasanaeth economaidd, effeithlon ac o safon uchel. 

Mae'n cael ei wneud gyda mynychder penodol mewn pedwar parth fel y mae'r Cod Ymarfer ar gyfer Sbwriel a Gwastraff  yn Neddf Gwarchod yr Amgylchedd yn eu diffinio.

Y pedwar parth y cyfeirir atynt yw -

  • Parth 1  -  Defnyddio ar raddfa uchel (mannau cyhoeddus prysur)
  • Parth 2  -  Defnyddio ar raddfa ganolig (mannau ‘pob dydd', sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'r mannau hynny y bydd pobl ynddynt y rhan fwyaf o'r amser)
  • Parth 3  -  Defnyddio ar raddfa isel (mannau nad oes fawr ddim tramwyo arnynt nad ydynt yn effeithio ar fywydau'r rhan fwyaf o bobl y rhan fwyaf o'r amser)
  • Parth 4  -  Mannau ag amgylchiadau arbennig (sefyllfaoedd lle taw materion iechyd a diogelwch a rhesymoldeb ac ymarferoldeb yw'r ystyriaethau mwyaf blaenllaw pan fydd gwaith cynnal a chadw amgylcheddol yn cael ei wneud)

Eich cyswllt yw

Cyngor Sir Benfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

Ffôn: 01437 764551

Ebost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

 

ID: 212, adolygwyd 25/03/2022

Cynllunio rhag Argyfyngau

Beth yw Cynllunio rhag Argyfyngau?

Mae damweiniau dynol a naturiol yn digwydd o dro i dro, a gallant ddigwydd ar raddfa fechan neu fawr.  Fe allant gael eu hachosi gan neu gallant gynnwys tywydd garw, afiechydon heintus cyffredin i laweroedd o bobl neu anifeiliaid, argyfwng trafnidiaeth, digwyddiad llygredd, llifogydd ar yr arfordir, digwyddiadau sy'n tarfu ar y gwasanaethau hanfodol neu ymosodiad gan derfysgwyr.

Nod yr Uned Cynllunio rhag Argyfyngau yw pwyso a mesur y bygythiadau a'r peryglon i Sir Benfro a gwneud cynlluniau i ymateb ac ymadfer, pe ceid digwyddiad.  Yr amcan yn y pen draw yw lleihau hyd yr eithaf effaith y trychineb ar fywydau beunyddiol y gymuned, yn enwedig felly'r bobl sydd fwyaf agored i niwed a'r amgylchedd, a chynorthwyo pawb a phopeth i ddychwelyd i'w cyflwr arferol.

Er mwyn paratoi ar gyfer argyfyngau bydd yr Uned Cynllunio rhag Argyfyngau yn gwneud hyn:

  • Cynnal asesiadau risg â'r asiantaethau eraill sy'n ymateb
  • Sefydlu cynlluniau a gweithdrefnau er mwyn galluogi Cyngor Sir Penfro i ymateb, mewn modd mor effeithiol ag y bo modd, i argyfwng pe byddai un yn digwydd
  • Sicrhau bod ein cynlluniau a'n gweithdrefnau argyfwng yn cydweddu â'r cynlluniau hynny o eiddo'r holl asiantaethau ymateb eraill, fel y gwasanaethau argyfwng, ysbytai, cwmnïau cyfleustodau, asiantaethau gwirfoddol a'r lluoedd arfog
  • Rhoi hyfforddiant ac ymarferion i'r ymatebwyr ynghylch y cynlluniau a'r gweithdrefnau
  • Cynnal y Gofrestr Risg Gymunedol
  • Cynorthwyo i wneud trefniadau ar gyfer rhybuddio a hysbysu'r cyhoedd ynghylch argyfyngau
  • Cynorthwyo i hybu dilyniant busnesau ymysg y busnesau lleol
  • Cynorthwyo'r Cyngor i wneud trefniadau dilyniant busnes
  • Cyfrannu at a gweithio mewn cyswllt â Fforwm Cydnerthu Lleol Dyfed Powys

Wrth ymateb i argyfyngau bydd Cyngor Sir Penfro'n gwneud hyn:

  • Cynorthwyo'r gwasanaethau argyfwng
  • Rhoi gofal i'r gymuned leol a'r gymuned ehangach
  • Rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd
  • Defnyddio'r adnoddau sydd ar gael er mwyn lleihau effeithiau'r digwyddiad
  • Cydlynu'r modd y bydd yr asiantaethau gwirfoddol a'r asiantaethau cymorth eraill yn ymateb i argyfyngau
  • Cymryd yr awenau pan fydd y gwaith ymadfer yn mynd rhagddo mewn argyfwng

Pwy yw pwy a sut i gysylltu â ni

Richard Brown
Pennaeth yr Amgylchedd a'r Argyfyngau Sifil Posibl

Steve Jones
Uwch Swyddog Cynllunio rhag Argyfyngau

Pauline Louchart
Swyddog Cynllunio rhag Argyfyngau

Uned Cynllunio rhag Argyfyngau
Cyngor Sir Penfro
Uned 23 Parc Busnes Thornton
Aberdaugleddau
Sir Benfro
SA73 2RR

Emergency.planning.unit@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn 01437 775661
Ffacs 01437 775704

ID: 172, adolygwyd 25/03/2022

Gyrru yn y Gaeaf

Cadw'n ddiogel wrth yrru ar yr iâ a'r eira

Gyrrwch yn ofalus y Gaeaf hwn

Cyn dechrau'r daith 

  1. Peidiwch â gyrru os nad oes rhaid  
  2. Rhowch ddigon o amser - ceisiwch beidio â gyrru wrth iddi nosi neu yn y nos
  3. Mae llenwi'r tanc yn hanfodol bwysig  - o injan y car y cewch chi'r rhan fwyaf o'ch gwres os ewch chi'n sownd.  
  4. Gofalwch bod pob golau yn gweithio, pob hylif lan i'r lefel iawn, defnyddiwch olchydd sgrin cryfach rhag ofn i'r sgrin wynt rewi, cadwch bob ffenestr yn lân a defnyddiwch ddadrewydd a theclyn crafu addas.   
  5. Os bydd rhaid i chi adael y cerbyd, gadewch e' yn y lle mwyaf diogel y gallwch chi.  
  6. Peidiwch byth â gadael yr injan yn rhedeg a neb yno gyda'r cerbyd.  Os gwnewch chi hynny, fydd eich yswiriant ddim yn cyfrif os caiff y car ei ddwyn.   
  7. Gwisgwch ar gyfer yr amgylchiadau. Ewch â thermos o ddiod neu gawl twym a bwyd sy'n rhoi llawer o egni fel losin, siocled a thameidiau gyda glwcos ynddyn nhw.   
  8. Ewch â blanced neu sach gysgu a chot neu fest loyw.   
  9. Ewch â rhyw fath o adloniant gyda chi, yn enwedig os byddwch yn cludo plant ifanc.  Ewch â sbectol haul yn erbyn golau llachar isel yr haul, gwefrydd i'r ffôn symudol, rhif ffôn y gwasanaeth torri lawr a rhowch wybod i rywun eich bod ar eich taith yn enwedig os byddwch yn gyrru mewn ardal ddiarffordd.   

Ar yr heol

  1. Pan fyddwch yn gyrru, gan bwyll ar y sbardun ac wrth lywio a phwyso'r brêc - gyrru'n bwyllog ac yn gall yw'r ffordd i deithio'n ddiogel.   
  2. Ceisiwch symud bant yn yr ail neu'r trydydd gêr.  Mewn awtomatig dewiswch yr ail gêr.  Mae modd gosod rhai ceir awtomatig ar gyfer y gaeaf.  
  3. Gwyliwch eich cyflymdra a chofiwch am feicwyr a cherddwyr – byddant yn llai gweladwy na cherbydau eraill
  4. Yn yr iâ a'r eira mae eisiau lan i 10 gwaith yn rhagor o le i stopio.  
  5. Peidiwch byth â throi'r injan yn galed. Yr unig beth fydd hynny'n ei wneud yw rhoi sglein ar yr eira a'r iâ. Os bydd y cerbyd yn dechrau llithro, codwch eich troed gan bwyll oddi ar y sbardun a throi i mewn i'r cyfeiriad y mae'n llithro iddo. Ceisiwch beidio â brecio. Defnyddiwch y gêr cyntaf  fel brêc.   
  6. Mae iâ du yn aml mewn mannau wedi eu cysgodi rhag yr haul, yn enwedig ar heolydd sy'n mynd o'r de i'r gogledd, felly byddwch yn garcus.   
  7. Er bod y cerbyd yn  dwym tu mewn, mae hi'n gallu bod yn rhewi tu fas, felly cadwch lygad ar fesurydd tymheredd allanol y cerbyd. Heolydd heb eu graeanu - ceisiwch beidio â gyrru ar olion olwynion eraill.  Mae'n fwy tebygol y byddwch yn llithro ar  eira wedi'i wasgu'n galed nag ar eira sydd heb gael ei symud.
  8. Mae goleuadau wedi'u gostwng yn hanfodol bwysig er mwyn gweld a chael eich gweld. Peidiwch â defnyddio'r goleuadau niwl oni bai eich bod yn gweld llai na 100 metr o'ch blaen - maen nhw'n dallu cerbydau sy'n dod i'ch cwrdd ac mae goleuadau niwl ar y cefn yn gwneud goleuadau'r brêc yn anodd eu gweld.  
  9. Peidiwch â fflachio eich goleuadau blaen i gydnabod gyrwyr eraill.  Mae hyn yn gallu eu dallu. 

Pecyn Argyfwng:

Gwnewch becyn argyfwng ar gyfer teithiau hir, yn enwedig mewn tywydd gaeafol. 

  • Teclyn crafu iâ a dadrewydd
  • Tortsh.
  • Dillad twym a blanced.
  • Pâr o sgidiau mawr.
  • Pecyn cymorth cyntaf.
  • Gwifrau gwefru ar gyfer y batri.
  • Rhaw.

Ewch â bwyd a diod dwym mewn fflasg pan fyddwch yn teithio mewn tywydd gaeafol.   

Os byddwch mewn trafferthion

Os oes ffôn symudol gyda chi, peidiwch â'i defnyddio tra'r ydych yn gyrru. Sefwch mewn lle diogel neu gofynnwch i deithiwr arall wneud yr alwad.  

Mae cerbydau wedi'u gadael yn gallu bod yn drafferth i gerbydau achub ac i'r aradr eira. Er mwyn sicrhau y bydd yr heol wedi ei chlirio cyn gynted ag y bo modd sefwch gyda'ch cerbyd hyd nes daw cymorth atoch. Os bydd rhaid i chi adael eich cerbyd i fynd am gymorth, gofalwch bod modd i gerbydau eraill eich gweld.

Cyflwr y cerbyd

Yn y gaeaf mae'n fwy pwysig fyth eich bod yn gofalu bod eich cerbyd wedi ei gynnal a'i gadw ac mewn cyflwr da.  .

  • Cadwch eich goleuadau, ffenestri a drychau yn lân, heb iâ nac eira arnyn nhw.  
  • Cadwch eich batri wedi ei wefru lan yn llwyr.
  • Ychwanegwch wrthrewydd i'r rheiddiadur ac ychwanegyn gaeaf i boteli golchi'r sgrin wynt. 
  • Gofalwch bod sychwyr a goleuadau yn gweithio'n dda.  
  • Gofalwch bod gwadnau digon dwfn ar eich teiars a bod y pwysedd iawn ynddyn nhw.  

Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf

Mae Gwasanaeth y Gaeaf yn rhan bwysig o waith cynnal a chadw'r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys dodi halen ar y prif ffyrdd pan yw rhew yn debygol, clirio'r eira ac ymateb i lifogydd a choed sydd wedi cwympo.      

Mae halen yn cael ei ddefnyddio i iselhau pwynt rhewi'r dŵr pan yw'r tywydd yn rhewi. Mae hyn yn lleihau'r iâ sy'n ffurfio a'r perygl o lithro neu ddamweiniau mwy difrifol ar yr heol. Wedi ei storio mewn ysguborion halen o amgylch Sir Benfro, mae'r Cyngor yn gallu mynd ag e' mas yn glou pan yw rhagolygon y tywydd yn dweud ei bod yn mynd i rewi. 

Pethau pwysig i'w cofio

  • Efallai y bydd angen amser ar yr halen i weithio'n iawn.  Mae cawodydd neu law yn gallu golchi'r halen oddi ar yr heolydd ac mae perygl iddyn nhw rewi o ganlyniad.   
  • Nid yw'r rhagolygon bob amser yn gywir, ac mae'r tywydd yn gallu newid yn glou.
  • Nid yw 80% o'r heolydd yn cael eu trin yn arferol.  
  • Pan  yw hi'n rhewi neu'n bwrw eira wedi iddi fwrw glaw, efallai na fydd digon o amser i drin y rhwydwaith i gyd cyn iddi rewi.    
  • Mae angen mwy na 2 awr i ddodi halen ar y rhwydwaith

Pa heolydd maen nhw'n dodi halen arnyn nhw?

I weld yr heolydd maen nhw'n dodi halen arnyn nhw yn Sir Benfro: Mapiau Rhwydwaith Halltu

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddan nhw'n halltu heolydd ychwanegol, fodd bynnag, fyddan nhw ddim yn gwneud hyn oni bai fod y rhwydwaith uchod y mae blaenoriaeth iddo wedi ei gwblhau, a bydd yn dibynnu ar y tywydd.   

Yn y prif drefi yn Sir Benfro, efallai y bydd llwybrau cerdded prysur yn cael eu trin, pan yw'n debygol iawn y bydd hi'n rhewi am gyfnodau hir drwy'r dydd.    

Mae dewis yr heolydd sydd i'w halltu o flaen llaw fel mater o drefn yn dibynnu ar faint o draffig sydd arnyn nhw, faint o werth strategol sydd iddyn nhw o ran symud o gwmpas y Sir, cost-effeithiolrwydd a blaenoriaethau penodol lleol, e.e. ysbytai.  Yr egwyddor yn gyffredinol yw gofalu y bydd y gwaith halltu o flaen llaw o les i gymaint ag y bo modd o ddefnyddwyr yr heolydd, a'i fod yn ddigon hyblyg i weld anghenion lleol pwysig.  Mae'r holl heolydd yn y Sir sy'n cael eu halltu o flaen llaw yn ymestyn dros 592 cilometr o heol, sef 23% o holl rwydwaith y Sir.

Cofiwch: nid yw'r rhan fwyaf o'r heolydd yn cael eu trin fel mater o drefn.  Mae angen mwy na dwy awr i halltu ein rhwydwaith o heolydd - peidiwch byth â chymryd bod heol wedi ei halltu eisoes.   

Pryd maen nhw'n dodi halen?

Mae gweithwyr Cyngor Sir Penfro yn cadw llygad ar y tywydd drwy'r dydd a'r nos, gan gadw cysylltiad agos â'r daroganwyr y mae'r Cyngor yn eu cyflogi'n arbennig i wneud y gwaith hwn. Ar ben hynny, mae cryn nifer o synwyryddion ar ymyl heolydd yr ardal sy'n mesur tymheredd yr heol a ffactorau pwysig eraill, ac yn anfon yr wybodaeth hon yn ôl i gyfrifiaduron y mae'r daroganwyr a gweithwyr y priffyrdd yn eu defnyddio.    

Mae penderfynu halltu yn dibynnu, lle bo hynny'n briodol, ar ffactorau fel daearyddiaeth yr ardal, mesuriadau lleithder a chyflymder y gwyntoedd. Mae'r penderfyniad yn cael ei wneud gan swyddogion profiadol mewn gwaith cynnal a chadw gaeaf yn y Cyngor.    

Mae rhannau uwch o'r heol, yn cynnwys pontydd, a rhannau ar dir isel yn fwy tebygol o rewi ac fel arfer mae angen sylw arbennig ar y rhain.

Sut maen nhw'n dodi halen?

Mae'r rhwydwaith y maen nhw'n dodi halen arno ‘rhag ofn' yn ymestyn ar hyd 11 o heolydd, sy'n sicrhau mewn amgylchiadau arferol bod y gwaith halltu wedi ei wneud o fewn dwy awr. Mae pob lori halltu wedi ei chynnal a'i chadw'n ofalus i sicrhau ei bod yn lledaenu'r maint iawn o halen ar yr heolydd, ac  mae pob gyrrwr wedi ei hyfforddi'n llwyr.     

Mae'r halen yn dod o bwll halen yn Sir Gaer. Rydym yn cadw cyflenwadau o halen o dan do i sicrhau nad yw'n mynd yn llai effeithiol o ganlyniad i ddeunyddiau gweithredol yn llifo mas a bod cyn lleied ag y bo modd hefyd o effeithiau amgylcheddol arno.      

Biniau halen

Yr hen arfer oedd dodi biniau halen ar bwys trofeydd llym a rhiwiau ar briffyrdd. Fodd bynnag, oherwydd y perygl a allai fod i'r cyhoedd sy'n ceisio defnyddio halen mewn mannau peryglus, nid yw'r biniau halen fel arfer wedi'u hadnewyddu ac ni roddwyd rhai newydd yn y blynyddoedd diweddar.   

Rydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd am finiau halen a byddwn yn edrych eto ar y rhain yn eu tro. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu darparu biniau halen newydd ar fyr rybudd. 

Heolydd dan ddŵr

  • Peidiwch â cheisio croesi os yw'r dŵr i'w weld yn rhy ddwfn.   
  • Gyrrwch yn araf yn y gêr cyntaf ond cadwch yr injan i droi'n gyflym trwy bwyso ar y cydiwr i wneud iddo droi'n fwy clou - bydd hyn yn eich cadw rhag  pallu. 
  • Cadwch mas o'r dŵr mwyaf dwfn, ger ymyl y pafin fel arfer.
  • Cofiwch roi prawf ar eich brêcs pan fyddwch chi wedi dod drwy'r llif cyn i chi yrru ar y cyflymder arferol.   

Gofal o amgylch cerbydau cynnal a chadw'r gaeaf  

Nod pob asiantaeth sy'n ymwneud â hyn yw bod cyn lleied o oedi a damweiniau ag y bo modd mewn tywydd gaeafol trwy glirio'r heolydd blaenoriaeth cyn gynted ag y bydd y tywydd yn caniatáu. Mae gyrwyr cerbydau cynnal a chadw'r gaeaf yn cymryd pob gofal yn ystod eu gwaith i gadw pawb arall ar yr heolydd yn ddiogel.  

Cerbydau halltu - Maen nhw'n garcus iawn wrth ddodi halen ar yr heol i sicrhau eu bod yn taenu'n iawn i'r lled iawn. Mae cerbydau halltu yn bwerus tu hwnt ac yn teithio lan i 40mya gan chwalu halen ar draws pob lôn ar gefnffyrdd.  Dylai gyrwyr gadw pellter diogel y tu ôl iddyn nhw. Peidiwch â cheisio achub y blaen.    

Aredig yr Eira - Fe ddylech fod yn arbennig o ofalus i wylio am bentyrrau afreolaidd o eira o ganlyniad i waith aredig eira. Peidiwch â chael eich temtio i achub y blaen ar aradr eira trwy wthio i mewn i lonydd sydd wedi eu clirio'n rhannol.   

Ynglŷn â Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf

Mae gan Sir Benfro arwynebedd o 616 o filltiroedd sgwâr ac mae ei rhwydwaith o heolydd yn cynnwys cefnffyrdd, priffyrdd, heolydd nad ydyn nhw'n briffyrdd a heolydd di-ddosbarth. Mae'n rhwydwaith gwledig ar y cyfan ond gyda rhan sylweddol ohono mewn trefi hefyd.    

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am gynnal a chadw'r cefnffyrdd yng Nghymru. Mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (South Wales Trunk Road Agency (SWTRA)) yn gyfrifol am gynnal a chadw'r rhan fwyaf o rwydwaith y cefnffyrdd yn Sir Benfro.  

Mae cefnffordd yr A487 o Gapel Newydd i ffin y Sir yn cael ei chynnal a'i chadw gan Asiantaeth Cefnffyrdd y Canolbarth (Mid Wales Trunk Road Agency (MWTRA)). Mae Cyngor Sir Penfro yn is-asiantau ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf o fewn  ffiniau'r Sir ar gyfer SWTRA.    

Bydd Cyngor Sir Penfro yn gwneud pob ymdrech i ddarparu Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf a fydd, cyn belled ag y bo modd rhesymol, yn fodd i i gerbydau deithio'n ddiogel ar y rhannau o rwydwaith yr heolydd sydd o bwys strategol a sicrhau y bydd cyn lleied ag y bo modd o oedi a damweiniau oherwydd tywydd garw.

ID: 170, adolygwyd 25/03/2022

Cynnal a Chadw'r Ffyrdd - Mapiau Rhwydwaith Halltu

 

Map

Rhwydwaith Halltu

Llanfyrnach 1

Llanfyrnach - Crymych - Blaenffos - Cilgerran - Aberteifi - Eglwyswrw - New Inn - Maenclochog - Glandy Cross - Llanfyrnach

 Llanfyrnach 2 Llanfyrnach - Hermon - Pentregalar - Clunderwen - Tredeml - Cross Hands - Canaston - Boncath - Abercych - Bwlchygroes - Star - Tegryn
 Ffordd 2000 Llanfyrnach Llanfyrnach - Crymych - Glandy Cross - Maenclochog - New Inn - Tufton - Brynberian - Eglwyswrw - Blaenffos - Tegryn - Llanfyrnach
 Tredeml 1

Tredeml - Arberth - Princes Gate - Tafarn Ysbyty - Begeli - Cilgetti - Saundersfoot - Dinbych-y-pysgod - Caeriw - Creseli - Cross Hands - Tredeml

 Tredeml 2 Fingerpost - Penfro - Doc Penfro - Rhoscrowther - Llandyfái - Jameston - Penalun - Gumfreyston - Sageston
 Llwynhelig 1 Hwlffordd- Camros - Treletert - Mathri - Wdig - Scleddau - Abergwaun - Llanychaer - New Inn - Woodstock - Cryndal - Llwynhelig
 Llwynhelig 2 Hwlffordd- Y Garn- Solfach - Ty Ddewi - Mathry - Croesgoch - Croes Castellhaidd - Camros - Y Llwyn Helyg
 Llwynhelig 3 Cryndal - Y Mot - Maenclochog - Bethesda - Llangwathen - Clarbeston Road - Cas-wis - Johnston - Tiers Cross - Pont Fadlen - Aberllydan
 Llwynhelig 4 Freystrop - Llangwm - Hook - Sardis - Burton - Neyland - Waterston - Johnston - Steynton - Aberdaugleddau - Hakin - Tiers Cross
Llwynhelig Gogledd-Ddwyrain Y Llwyn Helyg - Abergwaun - New Inn - Woodstock - Cryndal - Maenclochog - Llanycefn - Bethesda - Llangwathen - Llawhuadain - Cas-wis - Clarbeston Road - Y Llwyn Helyg

Llwybrau eilradd

ID: 171, adolygwyd 25/03/2022