Cadw'n ddiogel wrth yrru ar yr iâ a'r eira
Gyrrwch yn ofalus y Gaeaf hwn - Cyn Dechrau'r Daith
AR YR HEOL
Pecyn Argyfwng:
Gwnewch becyn argyfwng ar gyfer teithiau hir, yn enwedig mewn tywydd gaeafol.
Ewch â bwyd a diod dwym mewn fflasg pan fyddwch yn teithio mewn tywydd gaeafol.
Os byddwch mewn trafferthion
Os oes ffôn symudol gyda chi, peidiwch â'i defnyddio tra'r ydych yn gyrru. Sefwch mewn lle diogel neu gofynnwch i deithiwr arall wneud yr alwad.
Mae cerbydau wedi'u gadael yn gallu bod yn drafferth i gerbydau achub ac i'r aradr eira. Er mwyn sicrhau y bydd yr heol wedi ei chlirio cyn gynted ag y bo modd sefwch gyda'ch cerbyd hyd nes daw cymorth atoch. Os bydd rhaid i chi adael eich cerbyd i fynd am gymorth, gofalwch bod modd i gerbydau eraill eich gweld.
Cyflwr y cerbyd
Yn y gaeaf mae'n fwy pwysig fyth eich bod yn gofalu bod eich cerbyd wedi ei gynnal a'i gadw ac mewn cyflwr da. .
Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf
Mae Gwasanaeth y Gaeaf yn rhan bwysig o waith cynnal a chadw'r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys dodi halen ar y prif ffyrdd pan yw rhew yn debygol, clirio'r eira ac ymateb i lifogydd a choed sydd wedi cwympo.
Mae halen yn cael ei ddefnyddio i iselhau pwynt rhewi'r dŵr pan yw'r tywydd yn rhewi. Mae hyn yn lleihau'r iâ sy'n ffurfio a'r perygl o lithro neu ddamweiniau mwy difrifol ar yr heol. Wedi ei storio mewn ysguborion halen o amgylch Sir Benfro, mae'r Cyngor yn gallu mynd ag e' mas yn glou pan yw rhagolygon y tywydd yn dweud ei bod yn mynd i rewi.
Pa heolydd maen nhw'n dodi halen arnyn nhw?
I weld yr heolydd maen nhw'n dodi halen arnyn nhw yn Sir Benfro, cliciwch yma: Mapiau Rhwydwaith Halltu.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddan nhw'n halltu heolydd ychwanegol, fodd bynnag, fyddan nhw ddim yn gwneud hyn oni bai fod y rhwydwaith uchod y mae blaenoriaeth iddo wedi ei gwblhau, a bydd yn dibynnu ar y tywydd.
Yn y prif drefi yn Sir Benfro, efallai y bydd llwybrau cerdded prysur yn cael eu trin, pan yw'n debygol iawn y bydd hi'n rhewi am gyfnodau hir drwy'r dydd.
Mae dewis yr heolydd sydd i'w halltu o flaen llaw fel mater o drefn yn dibynnu ar faint o draffig sydd arnyn nhw, faint o werth strategol sydd iddyn nhw o ran symud o gwmpas y Sir, cost-effeithiolrwydd a blaenoriaethau penodol lleol, e.e. ysbytai. Yr egwyddor yn gyffredinol yw gofalu y bydd y gwaith halltu o flaen llaw o les i gymaint ag y bo modd o ddefnyddwyr yr heolydd, a'i fod yn ddigon hyblyg i weld anghenion lleol pwysig. Mae'r holl heolydd yn y Sir sy'n cael eu halltu o flaen llaw yn ymestyn dros 592 cilometr o heol, sef 23% o holl rwydwaith y Sir.
Cofiwch: nid yw'r rhan fwyaf o'r heolydd yn cael eu trin fel mater o drefn. Mae angen mwy na dwy awr i halltu ein rhwydwaith o heolydd - peidiwch byth â chymryd bod heol wedi ei halltu eisoes.
Mae gweithwyr Cyngor Sir Penfro yn cadw llygad ar y tywydd drwy'r dydd a'r nos, gan gadw cysylltiad agos â'r daroganwyr y mae'r Cyngor yn eu cyflogi'n arbennig i wneud y gwaith hwn. Ar ben hynny, mae cryn nifer o synwyryddion ar ymyl heolydd yr ardal sy'n mesur tymheredd yr heol a ffactorau pwysig eraill, ac yn anfon yr wybodaeth hon yn ôl i gyfrifiaduron y mae'r daroganwyr a gweithwyr y priffyrdd yn eu defnyddio.
Mae penderfynu halltu yn dibynnu, lle bo hynny'n briodol, ar ffactorau fel daearyddiaeth yr ardal, mesuriadau lleithder a chyflymder y gwyntoedd. Mae'r penderfyniad yn cael ei wneud gan swyddogion profiadol mewn gwaith cynnal a chadw gaeaf yn y Cyngor.
Mae rhannau uwch o'r heol, yn cynnwys pontydd, a rhannau ar dir isel yn fwy tebygol o rewi ac fel arfer mae angen sylw arbennig ar y rhain.
Mae'r rhwydwaith y maen nhw'n dodi halen arno ‘rhag ofn' yn ymestyn ar hyd 11 o heolydd, sy'n sicrhau mewn amgylchiadau arferol bod y gwaith halltu wedi ei wneud o fewn dwy awr. Mae pob lori halltu wedi ei chynnal a'i chadw'n ofalus i sicrhau ei bod yn lledaenu'r maint iawn o halen ar yr heolydd, ac mae pob gyrrwr wedi ei hyfforddi'n llwyr.
Mae'r halen yn dod o bwll halen yn Sir Gaer. Rydym yn cadw cyflenwadau o halen o dan do i sicrhau nad yw'n mynd yn llai effeithiol o ganlyniad i ddeunyddiau gweithredol yn llifo mas a bod cyn lleied ag y bo modd hefyd o effeithiau amgylcheddol arno.
Yr hen arfer oedd dodi biniau halen ar bwys trofeydd llym a rhiwiau ar briffyrdd. Fodd bynnag, oherwydd y perygl a allai fod i'r cyhoedd sy'n ceisio defnyddio halen mewn mannau peryglus, nid yw'r biniau halen fel arfer wedi'u hadnewyddu ac ni roddwyd rhai newydd yn y blynyddoedd diweddar.
Rydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd am finiau halen a byddwn yn edrych eto ar y rhain yn eu tro. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu darparu biniau halen newydd ar fyr rybudd.
Peidiwch â cheisio croesi os yw'r dŵr i'w weld yn rhy ddwfn.
Gyrrwch yn araf yn y gêr cyntaf ond cadwch yr injan i droi'n gyflym trwy bwyso ar y cydiwr i wneud iddo droi'n fwy clou - bydd hyn yn eich cadw rhag pallu.
Cadwch mas o'r dŵr mwyaf dwfn, ger ymyl y pafin fel arfer.
Cofiwch roi prawf ar eich brêcs pan fyddwch chi wedi dod drwy'r llif cyn i chi yrru ar y cyflymder arferol.
Gofal o amgylch cerbydau cynnal a chadw'r gaeaf
Nod pob asiantaeth sy'n ymwneud â hyn yw bod cyn lleied o oedi a damweiniau ag y bo modd mewn tywydd gaeafol trwy glirio'r heolydd blaenoriaeth cyn gynted ag y bydd y tywydd yn caniatáu. Mae gyrwyr cerbydau cynnal a chadw'r gaeaf yn cymryd pob gofal yn ystod eu gwaith i gadw pawb arall ar yr heolydd yn ddiogel.
Cerbydau halltu - Maen nhw'n garcus iawn wrth ddodi halen ar yr heol i sicrhau eu bod yn taenu'n iawn i'r lled iawn. Mae cerbydau halltu yn bwerus tu hwnt ac yn teithio lan i 40mya gan chwalu halen ar draws pob lôn ar gefnffyrdd. Dylai gyrwyr gadw pellter diogel y tu ôl iddyn nhw. Peidiwch â cheisio achub y blaen.
Aredig yr Eira - Fe ddylech fod yn arbennig o ofalus i wylio am bentyrrau afreolaidd o eira o ganlyniad i waith aredig eira. Peidiwch â chael eich temtio i achub y blaen ar aradr eira trwy wthio i mewn i lonydd sydd wedi eu clirio'n rhannol.
Ynglŷn â Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf
Mae gan Sir Benfro arwynebedd o 616 o filltiroedd sgwâr ac mae ei rhwydwaith o heolydd yn cynnwys cefnffyrdd, priffyrdd, heolydd nad ydyn nhw'n briffyrdd a heolydd di-ddosbarth. Mae'n rhwydwaith gwledig ar y cyfan ond gyda rhan sylweddol ohono mewn trefi hefyd.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am gynnal a chadw'r cefnffyrdd yng Nghymru. Mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (South Wales Trunk Road Agency (SWTRA)) yn gyfrifol am gynnal a chadw'r rhan fwyaf o rwydwaith y cefnffyrdd yn Sir Benfro.
Mae cefnffordd yr A487 o Gapel Newydd i ffin y Sir yn cael ei chynnal a'i chadw gan Asiantaeth Cefnffyrdd y Canolbarth (Mid Wales Trunk Road Agency (MWTRA)). Mae Cyngor Sir Penfro yn is-asiantau ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf o fewn ffiniau'r Sir ar gyfer SWTRA.
Bydd Cyngor Sir Penfro yn gwneud pob ymdrech i ddarparu Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf a fydd, cyn belled ag y bo modd rhesymol, yn fodd i i gerbydau deithio'n ddiogel ar y rhannau o rwydwaith yr heolydd sydd o bwys strategol a sicrhau y bydd cyn lleied ag y bo modd o oedi a damweiniau oherwydd tywydd garw.