Mae'r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol (OT) cymunedol yn helpu pobl o bob oedran sy'n cael anhawster wrth gwblhau gweithgareddau o ddydd i ddydd oherwydd anabledd, salwch neu henaint i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi ag effeithiau anabledd.
Bydd Therapydd Galwedigaethol yn ymweld â chi yn eich cartref lle y gall arsylwi orau ar y ffordd rydych yn ymdopi ar hyn o bryd a gweithio gyda chi i ddatblygu ffyrdd o addasu technegau, defnyddio cyfarpar neu addasu eich cartref er mwyn gwneud tasgau o ddydd i ddydd yn haws ac yn fwy diogel.
Nod y gwasanaeth OT yw:
· Darparu cyngor a gwybodaeth am arfer diogel ac Atal Cwympiadau
· Darparu cyngor a gwybodaeth am Gymhorthion Byw o Ddydd i Ddydd a all rhoi mwy o reolaeth ac annibyniaeth i chi
· Cyfeirio at dechnoleg, fel monitro o bell a larymau argyfwng i'ch helpu i fyw yn annibynnol
· Cyfeirio at gyfarpar er mwyn gwneud eich cartref yn fwy diogel
· Nodi ffyrdd addas o Addasu Eich Cartref sydd eu hangen er mwyn eich galluogi i aros yn ddiogel yn eich cartref
· Rhoi cymorth i chi gyda symud i lety amgen os yw'r angen yn ymwneud â'ch anabledd ac nad yw'n rhesymol nac yn ymarferol i addasu eich cartref
· Gweithio'n agos gyda gwasanaethau eraill i'ch cefnogi yn 'holistaidd'.