Yn ystod y Tymor Ysgol: Gallwch ddewis hyd at 2 leoliad gofal plant cofrestredig isod + lleoliad y Cyfnod Sylfaen mewn unrhyw ddiwrnod penodol.
Yn ystod y Gwyliau: Gallwch ddewis hyd at 2 leoliad gofal plant cofrestredig isod mewn unrhyw ddiwrnod penodol.
Isod mae rhestr o'r holl ddarparwyr gofal plant CIW (Arolygiaeth Gofal Cymru) sy'n cynnig Cynnig Gofal Plant Cymru yn Sir Benfro:
Bydd y Cynnig Gofal Plant yn cynnig 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg cyfnod sylfaen wedi’i ariannu i rieni sy’n gweithio a chyda phlant 3 - 4 oed, hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd yr amser tymor yn cael ei ystyried fel 39 wythnos, gan olygu y bydd y 9 wythnos arall o’r cynnig yn cael ei ystyried fel amser tu allan i’r tymor neu ‘ddarpariaeth gwyliau’. Yn ystod y ddarpariaeth gwyliau 9 wythnos bydd plant cymwys yn derbyn 30 awr o ofal plant yn unig bob wythnos.
Ni fydd Llywodraeth Cymru yn nodi pa rai o’r 13 wythnos heb fod yn amser y tymor bydd yn cael eu dynodi fel y 9 wythnos o ddarpariaeth gwyliau er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i rieni mewn gwahanol swyddi, fel yr unigolyn hynny sy’n gorfod gweithio dros yr haf ac yn ystod gwyliau’r Nadolig. Fodd bynnag ni fydd rhieni yn gallu ‘ymestyn’ eu hawl ar draws wythnosau neu drosglwyddo unrhyw oriau heb eu gweithio ar draws wythnosau.
Bydd y ddarpariaeth adeg gwyliau’n cael ei ddyrannu ar ddechrau pob tymor y mae plentyn yn gymwys i gael y cynnig. Bydd plant yn cael 3 wythnos o ddarpariaeth gwyliau fesul tymor. Bydd modd cario ymlaen dyraniad heb ei ddefnyddio a’i ddefnyddio yn y tymor nesaf os yw’r plentyn yn gymwys i gael y cynnig o hyd. Bydd plant sy’n gymwys am un neu ddau dymor yn unig yn cael 3 wythnos o ddarpariaeth adeg gwyliau ar ddechrau pob tymor, yn yr un modd â phob plentyn arall.
Hawl i 9 wythnos o wyliau (pro rata):
Plant pedwar blwydd oed:
Lle mae plentyn yn cael cynnig lle Addysg llawn amser cyn y mis Medi yn dilyn ei bedwerydd pen-blwydd (e.e. y tymor ar ôl ei bedwerydd pen-blwydd, neu’r tymor yn troi pedair oed), mae’r plentyn hwnnw’n dal yn gymwys i gael y 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth adeg gwyliau tan y mis Medi ar ôl ei bedwerydd pen-blwydd.
Mae plant wedi’u geni yn nhymhorau’r hydref a’r gwanwyn o bosib yn gymwys i dderbyn y cynnig am fwy na blwyddyn. Mewn achosion o’r fath, ar ddechrau’r ail flwyddynbydd dyraniad newydd o ddarpariaeth gwyliau yn cael ei roi am weddill yr amser os ydyn nhw dal yn gymwys i dderbyn y cynnig.
Noder, unwaith y bydd plentyn yn cychwyn addysg llawn amser nid oes ganddynt yr hawl i’r cynnig gofal plant.
Bydd angen gwneud cais am yr hawl gwyliau o leiaf 4 wythnos cyn y dyddiad y mae arnoch chi angen yr elfen gwyliau. Bydd y rhain yn cael eu gwirio o fewn y mis sy'n arwain at y gwyliau gan yr Uned Gofal Plant. Os yw'ch cais yn llwyddiannus, fe'ch hysbysir trwy e-bost.
Ceir llawer o ddryswch a gwybodaeth anghywir ynghylch Cynnig Gofal Plant Cymru. Mae Cyngor Sir Penfro wedi llunio’r canllawiau isod er mwyn helpu chwalu rhai o’r mythau mwyaf cyffredin ynghylch Cynnig Gofal Plant Cymru.
Ffaith: Nid oes gan gymhwystra ar gyfer y 30 awr unrhyw beth i’w wneud â nifer yr oriau a weithir; mae cymhwystra yn seiliedig ar enillion. Rhaid i rieni ennill yr hyn sy’n gyfwerth ag 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol (yn dibynnu ar eu hoedran). Ar hyn o bryd, mae hyn tua £115 yr wythnos (yr un, mewn cartref â dau riant) yn achos y sawl sy’n ennill y ‘cyflog byw cenedlaethol’ h.y. yn 25 oed neu’n hŷn, a thua £111 yr wythnos yn achos y sawl sy’n ennill yr isafswm cyflog cenedlaethol. Mae hyn yn golygu, os yw rhiant yn ennill, dyweder, £120 yr wythnos ond yn gweithio chwe awr yn unig, byddant yn dal yn gymwys ar gyfer y cynnig 30 awr. Mae’r terfyn enillion uchaf (£100,000) yn berthnasol i’r naill a’r llall o’r ddau riant, felly byddai cartref ag incwm deuol o £199,995 yn dal yn gymwys ar gyfer y cynnig o 30 awr. Mae rhagor o wybodaeth am gymhwystra ar gael yn ein canllaw sydd am ddim.
Ffaith: Os bydd amgylchiadau’n newid ac yr hoffech newid eich oriau neu newid/ychwanegu darparwyr gofal plant, gellir newid hynny’n hawdd. Cysylltwch â Cheredigion (sef yr awdurdod gweithredu) ar 01545 570881 gyda’ch cyfeirnod wrth law a’ch newidiadau, a bydd y tîm yn gallu diweddaru’ch cais.
Ffaith: Pan fydd plentyn yn cael cynnig lle addysg amser llawn cyn y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed (e.e. y diwrnod neu’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed), mae’r plentyn hwnnw’n dal yn gymwys i dderbyn 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth wyliau hyd at y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pob rhiant cymwys yn derbyn yr un cynnig, ac er mwyn osgoi cosbi rhieni sy’n manteisio ar le addysg amser llawn ar gyfer eu plentyn cyn y mis Medi ar ôl iddynt droi’n 4 oed.
Ffaith: Bwriad y cynnig yw cefnogi rhieni sy’n gweithio ac annog rhieni i ddychwelyd i’r gwaith neu i gynyddu eu horiau. Weithiau, gall teuluoedd golli eu cymhwystra ar gyfer y cynnig. Mae’n debygol mai un o’r rhesymau mwyaf cyffredin yn hyn o beth yw pan fydd un neu’r ddau riant yn colli eu swydd neu pan fydd eu horiau’n cael eu gostwng yn is na’r gofyniad sylfaenol. Er mwyn darparu sefydlogrwydd i blant ac i ddarparwyr gofal plant, a rhoi cyfle i rieni ddod yn gymwys unwaith eto, bydd teuluoedd sy’n colli eu cymhwystra yn parhau i allu cael mynediad i’r cynnig am gyfnod cyfyngedig o amser. Os bydd rhiant yn colli cymhwystra, rhoddir cyfnod eithrio dros dro o 8 wythnos pryd y gallant barhau i gael mynediad i’r cynnig.
Ffaith: Ni fydd derbyn y Cynnig yn effeithio ar hawl eich teulu i dderbyn credydau treth gwaith, a gallwch gael mynediad i’r Cynnig ac i gredydau treth ar yr un pryd.
Mae credydau treth gwaith yn cael eu cyfrif yn ôl incwm ac amcangyfrif o gostau gofal plant. Gall derbyn y Cynnig arwain at gynnydd yn eich incwm (os gallwch weithio rhagor o oriau, er enghraifft) neu ostyngiad yn eich costau gofal plant, sy’n golygu y gallai fod gostyngiad yn swm y credydau treth a dderbyniwch.
Ffaith: Nid yw’n ofynnol i rieni ddefnyddio eu hawl i addysg gynnar er mwyn cael mynediad i elfen gofal plant y cynnig. Fodd bynnag, bydd eu hawl yn cynnwys yr oriau hyn p’un a ydynt yn eu defnyddio ai peidio. Er enghraifft, yn Sir Benfro, bydd gennych hawl i 20 awr o ofal plant wedi’i ariannu.
Ffaith: Gall rhieni ddefnyddio talebau di-dreth ar gyfer unrhyw oriau gofal plant ychwanegol yn unig.
Ffaith: Daw eich plentyn yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant o’r tymor yn dilyn pen-blwydd eich plentyn yn dair oed. Er enghraifft, os bydd eich plentyn yn dair oed ym mis Gorffennaf, byddwch chi’n gymwys o fis Medi.
Cyngor Sir Ceredigion yw’r Awdurdod Gweithredu ar ran Sir Benfro ar gyfer y Cynnig Gofal Plant. Bydd angen i’r awdurdod cyflawni (Cyngor Sir Ceredigion) wirio cymhwyster pob ymgeisydd.
Er y bydd ymgeiswyr yn llofnodi ymwadiad i gadarnhau eu bod yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer cymhwyster, disgwylir bod pob cais yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth ddogfennol o gymhwyster hefyd.
Isod, ceir rhestr wirio o’r dogfennau (copïau) sydd eu hangen i gefnogi’ch cais:
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyn dechrau eich cais, bydd angen y manylion canlynol wrth law arnoch hefyd:
Os byddwch yn cael unrhyw broblemau â darparu tystiolaeth o’r dogfennau uchod, cysylltwch â:
Clic Ceredigion ar 01545 570881 neu anfonwch neges e-bost: clic@ceredigion.gov.uk
neu
Ffion Jones ar e-bost: ffion.jones@pembrokeshire.gov.uk.
Wedi i chi lenwi’ch cais ar-lein a chyflwyno’r holl dystiolaeth angenrheidiol, bydd eich cais yn cael ei phrosesu gan yr Uned Gofal Plant o fewn 10 diwrnod gwaith. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich hysbysu trwy’r e-bost.
Bydd oedi wrth gyflwyno tystiolaeth berthnasol neu fethiant i’w chyflwyno yn arwain at oedi yn y broses gwirio cymhwyster.
Ni allwch arbed eich cais, felly gwnewch yn siŵr fod gennych y dogfennau perthnasol cyn dechrau’r cais.
Canllaw Cam wrth Gam: i Rieni/gwarcheidwaid
Ffurflen Cofrestru i Ddarparwyr Gofal Plant
Ar yr amod eich bod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru gallech dderbyn cyllid ar gyfer plant cymwys sy'n manteisio ar y cynnig yn eich lleoliad. Bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor Sir Ceredigion (Awdurdod Gweithredu ar ran Cyngor Sir Penfro) er mwyn darparu’r Cynnig i blant cymwys yn Sir Benfro.
Beth fydd y gyfradd tâl?
Bydd pob darparwr yn derbyn tâl o £4.50 yr awr am bob plentyn sy'n derbyn elfen gofal plant y cynnig.
Sut bydda i'n cael fy nhalu?
Fe'ch telir yn fisol hanner ffordd drwy'r mis. Er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael eich talu bob mis, bydd RHAID ichi gwblhau hawliadau misol o fewn y pedwar diwrnod gwaith cyntaf o bob mis. Bydd methu â chwblhau'r hawliadau ar amser yn golygu na fyddwch yn cael eich talu!
Cwestiynau ac atebion i ddarparwyr
Ffurflen cofrestru i Ddarparwyr Gofal Plant
Canllawiau Cam wrth Gam i Ddarparwyr Gofal Plant
Wedi i chi lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein, byddwch yn derbyn contract y bydd angen i chi ei lofnodi a’i ddychwelyd i Clic Ceredigion.
Os oes gennych unrhyw broblemau â’r broses gofrestru, cysylltwch â:
Clic Ceredigion ar 01545 570881 neu anfonwch neges ebost: clic@ceredigion.gov.uk
neu
Ffion Jones trwy e-bost: Ffion.jones@pembrokeshire.gov.uk
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gofal plant yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu teuluoedd sy’n gweithio yng Nghymru. Mae cynorthwyo teuluoedd trwy gynnig gofal plant hyblyg, fforddiadwy ac o ansawdd da yn cefnogi adfywiad economaidd, gall leihau pwysau ar incwm teuluol a helpu rhieni i gymryd rhan mewn gwaith, gan felly leihau risg teulu o dlodi. Mae hefyd yn cefnogi lles plant trwy brofiadau cadarnhaol a chyfoethog o ran gofal plant.
Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a ariennir gan y llywodraeth a gofal plant ar gyfer rhieni plant 3 a 4 oed sy’n gweithio ac sy’n gymwys, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Mae’r Cynnig eisoes wedi helpu rhieni ledled Cymru i ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg. Mae eraill yn achub ar gyfleoedd hyfforddi i ddatblygu eu sgiliau, newid eu swydd neu ddechrau eu busnes eu hunain hyd yn oed.
Y nod yw rhoi ychydig bach mwy o arian bob mis i rieni sy’n gweithio, i’w wario ar bethau sy’n bwysig i’w teulu.
Beth bynnag mae’r Cynnig yn ei olygu i chi a’ch teulu, peidiwch â cholli eich rhan chi o gymorth y llywodraeth gyda gofal plant.
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn agored i unrhyw deulu sy’n byw yn Sir Benfro, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyster canlynol:
Os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwyster uchod, byddwch yn gallu gwirio’ch cymhwyster a gwneud cais ar-lein am y Cynnig Gofal Plant i Gymru trwy gwblhau cais ar-lein
Ni fydd teuluoedd sydd â dau riant yn derbyn y budd-daliadau isod yn gallu manteisio ar y cynnig:
Os na fydd rhiant yn gymwys mwyach, rhoddir cyfnod eithrio o 8 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, byddant yn gallu parhau i fanteisio ar y cynnig.
Disgwyliadau o ran cymhwyster:
Pan fydd un rhiant yn bodloni’r meini prawf cymhwyster a’r rhiant arall yn derbyn un o’r budd-daliadau uchod, bydd y plentyn yn gallu manteisio ar y cynnig o hyd.
Mae yna rai eithriadau i gymhwyster rhieni. I wirio’r rhain, ffoniwch 01545 570881 i siarad â Thîm y Cynnig Gofal Plant yng Ngheredigion.
e.e.
Bydd nifer yr oriau o ofal plant a ariennir yn dibynnu ar nifer yr oriau o addysg gynnar y mae’r plentyn yn eu derbyn. Ni ddylai unrhyw gyfanswm cyfunol fod yn fwy na 30 awr. Caiff addysg gynnar ei hadnabod fel ‘Addysg Feithrin y Cyfnod Sylfaen’ hefyd.
Mae gan bob plentyn hawl i gael addysg gynnar (Addysg Feithrin y Cyfnod Sylfaen) o’r tymor ar ôl ei 3ydd pen-blwydd. Mae pob awdurdod lleol yn darparu isafswm o 10 awr yr wythnos o addysg gynnar, naill ai yn yr ysgol leol neu mewn lleoliad fel cylch chwarae, meithrinfa ddydd neu gylch meithrin. Yn ystod y tymor, bydd yr addysg gynnar hon yn rhan o’r Cynnig Gofal Plant, sef 30 awr. Mae ysgolion yn cynnig amrywiaeth o oriau a sesiynau gwahanol ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar yn y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3 oed. Mae hyn yn amrywio o 10 awr yr wythnos hyd at 17 awr yr wythnos.
Mae’r cais yma ar gyfer y Cynnig Gofal Plant – ORIAU GOFAL PLANT YN UNIG – Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar sut i wneud cais am le addysg feithrin (FPN) yn Sir Benfro ar Grant ar Gyfer 10 awr mewn meithrinfa cyfnod sylfaen
Nifer yr oriau addysg gynnar y mae’r plentyn yn eu derbyn yr wythnos = 10 awr
Mae’r plentyn yn gymwys am 20 awr o ofal plant a ariennir trwy’r Cynnig Gofal Plant.
Nifer yr oriau addysg gynnar y mae’r plentyn yn eu derbyn yr wythnos = 12 awr
Mae’r plentyn yn gymwys am 18awr o ofal plant a ariennir trwy’r Cynnig Gofal Plant.
Mae’r Cynnig yn ariannu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru bob wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae’r cyllid gan y llywodraeth ar gyfer yr addysg a’r gofal a ddarperir gan y gweithwyr proffesiynol yn y lleoliad. Nid yw’n cynnwys bwyd, trafnidiaeth na gweithgareddau oddi ar y safle y codir tâl ychwanegol amdanynt, a bydd darparwyr yn gallu codi tâl arnoch am y rhain.
Bydd cost trafnidiaeth yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a pha mor bell fydd yn rhaid iddynt deithio. Ni ddylai darparwyr godi mwy na £7.50 y dydd am fwyd neu £4.75 am hanner diwrnod (gan gynnwys cinio).
Bydd y cynnig yn dechrau o’r tymor ar ôl trydydd pen-blwydd plentyn, hyd nes cynigir lle mewn addysg amser llawn iddo. Sylwer y bydd y cynnig yn dechrau o ddiwrnod cyntaf y tymor ysgol a osodwyd gan yr Awdurdod Lleol.
Dyddiad Amerslen: Pa pryd gallaf wneud cais am y cynnig Gofal Plant?
Gwybodaeth 10 awr mewn Meithrinfa Cyfnod Sylfaen
Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i addysg ran-amser, rad ac am ddim mewn Meithrinfa Cyfnod Sylfaen mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, a hynny o'r tymor sy'n dilyn ei ben-blwydd yn dair oed a chyn iddo ddechrau mewn ysgol yn llawn-amser.
Mae Cyngor Sir Penfro yn cytuno i ddarparu'r cyllid a ddaw i law gan Lywodraeth Cymru i gynnig o leiaf 10 awr o addysg ran-amser wedi'i hariannu i bob plentyn sy'n gymwys, a hynny mewn lleoliad cymeradwy yn ystod y tymor ysgol. Gall rhieni ddewis derbyn yr hyn sy'n ddyledus i'r plentyn naill ai mewn lleoliad a gynhelir neu mewn lleoliad nas cynhelir:
Lleoliad a gynhelir – dosbarth meithrin mewn ysgol sy'n cynnig 10 awr neu ragor yr wythnos mewn Meithrinfa Cyfnod Sylfaen wedi'i hariannu.
NEU
Lleoliad nas cynhelir – a allai fod yn feithrinfa ddydd breifat, grŵp chwarae neu Gylch Meithrin â statws cymeradwy sy'n cynnig 10 awr yr wythnos mewn Meithrinfa Cyfnod Sylfaen, a hynny am o leiaf dri diwrnod. Gellir cael mynediad at hyn mewn dau leoliad.
Mae pob lleoliad cymeradwy nas cynhelir sy'n cael y cyllid:
Isod, ceir rhestr o'r holl leoliadau cymeradwy nas cynhelir sy'n darparu Meithrinfa Cyfnod Sylfaen yn Sir Benfro:
· Meithrinfa Bright Start – Coleg Sir Benfro, Hwlffordd, SA61 1SZ
· Grŵp Chwarae Aberllydan – Neuadd y Pentref, Marine Road, Aberllydan, SA62 3JS
· Grŵp Chwarae Camros a'r Garn – Canolfan Gymunedol Pelcomb, Hwlffordd, SA62 6AA
· Cylch Meithrin Abergwaun – Canolfan Hamdden Abergwaun, Abergwaun, SA65 9DT
· Cylch Meithrin Arberth – Canolfan Gymunedol Bloomfield, Heol Redstone, Arberth, SA67 7EP
· Cylch Meithrin Bwlchygroes – Yr Hen Ysgol, Neuadd Bwlchygroes, SA35 0DP
· Cylch Meithrin Cas-mael – Ysgol Cas-mael, Hwlffordd, SA62 5RL
· Cylch Meithrin Crymych – Caban, Ysgol y Frenni, SA41 3QH
· Cylch Meithrin Eglwyswrw – Yr Hen Ysgol, Eglwyswrw, SA41 3SN
· Cylch Meithrin Hermon – Canolfan Hermon, Hermon, SA36 0DT
· Cylch Meithrin Maenclochog – Neuadd Gymunedol, Maenclochog, SA66 7LB
· Gofal Plant Arch Noa – Lôn Tabernacl, Arberth, SA67 7DE
· Playdays Abergwaun – Adeilad Crowne, Lôn Brodog, Abergwaun, SA65 9NT
· Redhill Montessori – Y Garth, Heol Dewi Sant, Hwlffordd SA61 2UR
· Grŵp Chwarae Spittal – Neuadd yr Eglwys, Y Grîn, Spittal, SA62 5QT
· Stepping Stones – 18A Bush Row, Hwlffordd SA61 1RJ
· Kindergarten Tabernacl – Ysgoldy Eglwys Tabernacl, 93 Y Stryd Fawr, Sir Benfro, SA71 4DE
· Grŵp Chwarae Tafarn-sbeit – Neuadd Bentref Tafarn-sbeit, Tafarn-sbeit, SA34 0NL
· Grŵp Chwarae Templetots – Ysgol Tredemel, Tredemel, SA67 8RS
Noder: Siaradwch â lleoliad y Feithrinfa Cyfnod Sylfaen o'ch dewis a chytuno ar le i'ch plentyn cyn i chi gyflwyno cais. Gellir cael mynediad at le wedi'i ariannu mewn dau leoliad.
Er nad yw'n statudol bod eich plentyn yn mynychu Meithrinfa Cyfnod Sylfaen cyn cael lle llawn-amser mewn ysgol, mae hwn yn gyfnod pwysig iawn ym mywyd eich plentyn gan ei fod yn gosod y sylfaen ar gyfer dysgu yn y dyfodol, ac mae'n rhan o'r cwricwlwm cyfredol a chwricwlwm y dyfodol. Mae Meithrinfa Cyfnod Sylfaen yn derm cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio'r cyfnod y bydd eich plentyn yn ei dreulio yn y Cyfnod Sylfaen pan fydd yn dair ac yn bedair oed.
Mae'r Cyfnod Sylfaen yn cael ei gynnal o dan do ac yn yr awyr agored, ac mae'n galluogi plant i ddysgu trwy chwarae. Mae'r cwricwlwm yn rhoi cyfle i bob plentyn fod wrth galon ei ddysgu. Bydd diddordebau eich plentyn yn cael eu hystyried, a chaiff ei annog i wneud dewisiadau ynghylch ei ddysgu. Bydd staff cymwysedig yn arsylwi ar y plant, ac yn gweithio gydag unigolion, grwpiau bach neu, weithiau, y grŵp cyfan, i ehangu a datblygu eu dysgu. Mae hyn yn arwain at brofiad dysgu sy'n ymarferol ac yn llawn hwyl, ac sy'n cynnwys gweithgareddau ymarferol sy'n gwneud y canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth am y Cyfnod Sylfaen, ewch i'r ddolen isod: Y Cyfnod Sylfaen Canllaw i Rieni Gofalwyr
Gall pob plentyn yng Nghymru gael mynediad ar Feithrinfa Cyfnod Sylfaen o ddechrau'r tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn dair oed a chyn cael ei dderbyn i'r ysgol yn llawn-amser. Cyfeiriwch at y ddolen yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am le llawn-amser mewn ysgol. (Mynediad i Ysgolion)
Dyddiad Geni'r Plentyn |
Pryd y gall fy mhlentyn gael mynediad i Feithrinfa Cyfnod Sylfaen? |
1 Medi 2016 – 31 Rhagfyr 2016 |
Gwanwyn 2020: 6 Ionawr 2020 |
1 Ionawr 2017 – 31Mawrth 2017 |
Haf 2020: 20 Ebrill 2020 |
1 Ebrill 2017 – 31 Awst 2017 |
Hydref 2020: 2 Medi 2020 |
1 Medi 2017 – 31 Rhagfyr 2017 |
Gwanwyn 2021: 4 Ionawr 2021 |
Bydd angen i chi siarad â'r darparwr gofal plant yr ydych yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd (neu yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio) ar gyfer Meithrinfa Cyfnod Sylfaen a ariennir i'ch plentyn.
Bydd y darparwr gofal plant yn gwirio pa bryd y bydd eich plentyn yn gymwys. Os yw eich plentyn yn gymwys, gofynnir i chi lenwi ffurflen gais ar-lein i rieni:
1. Siaradwch â lleoliad y Feithrinfa Cyfnod Sylfaen o'ch dewis er mwyn cytuno ar le i'ch plentyn
2. Llenwch y cais ar-lein yma
3. Bydd rhaid i chi ddarparu cadarnhad o ddyddiad geni eich plentyn ar gyfer eich lleoliad dewisol (tystysgrif geni/pasbort/cofnodion iechyd meddygol)
4. Pan fydd eich lleoliad dewisol wedi cadarnhau dyddiad geni eich plentyn, bydd y lleoliad yn cysylltu â Chyngor Sir Penfro i gymeradwyo eich cais
5. Bydd Cyngor Sir Penfro yn rhoi gwybod i chi trwy e-bost a yw eich cais wedi cael ei gymeradwyo
6. Bydd y cyllid yn cael ei ryddhau'n uniongyrchol i'r lleoliad o'ch dewis wedi i'r cais gael ei gymeradwyo
Noder: Bydd y cais ar-lein i rieni- Grant y Cyfnod Sylfaen yn cael eu cyhoeddi yma maes o law
Os byddwch yn cael unrhyw broblem wrth lenwi'r ffurflen gais ar-lein, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Ffôn: 01437 770014
E-bost: 1FoundationPhaseLinkTeachers@pembrokeshire.gov.uk
Cynnig Gofal Plant Cymru
Yn ychwanegol at yr hawl i 10 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar rad ac am ddim (sydd ar gael i bob plentyn), efallai y byddwch hefyd yn gallu elwa ar 20 awr yn rhagor o ofal plant wedi'i ariannu. I gael rhagor o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant, ewch i https://www.pembrokeshire.gov.uk/the-childcare-offer-wales.