Gwybodaeth 10 awr mewn Meithrinfa Cyfnod Sylfaen
Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i addysg ran-amser, rad ac am ddim mewn Meithrinfa Cyfnod Sylfaen mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, a hynny o'r tymor sy'n dilyn ei ben-blwydd yn dair oed a chyn iddo ddechrau mewn ysgol yn llawn-amser.
Mae Cyngor Sir Penfro yn cytuno i ddarparu'r cyllid a ddaw i law gan Lywodraeth Cymru i gynnig o leiaf 10 awr o addysg ran-amser wedi'i hariannu i bob plentyn sy'n gymwys, a hynny mewn lleoliad cymeradwy yn ystod y tymor ysgol. Gall rhieni ddewis derbyn yr hyn sy'n ddyledus i'r plentyn naill ai mewn lleoliad a gynhelir neu mewn lleoliad nas cynhelir:
Lleoliad a gynhelir – dosbarth meithrin mewn ysgol sy'n cynnig 10 awr neu ragor yr wythnos mewn Meithrinfa Cyfnod Sylfaen wedi'i hariannu.
NEU
Lleoliad nas cynhelir – a allai fod yn feithrinfa ddydd breifat, grŵp chwarae neu Gylch Meithrin â statws cymeradwy sy'n cynnig 10 awr yr wythnos mewn Meithrinfa Cyfnod Sylfaen, a hynny am o leiaf dri diwrnod. Gellir cael mynediad at hyn mewn dau leoliad.
Mae pob lleoliad cymeradwy nas cynhelir sy'n cael y cyllid:
Isod, ceir rhestr o'r holl leoliadau cymeradwy nas cynhelir sy'n darparu Meithrinfa Cyfnod Sylfaen yn Sir Benfro:
Noder: Siaradwch â lleoliad y Feithrinfa Cyfnod Sylfaen o'ch dewis a chytuno ar le i'ch plentyn cyn i chi gyflwyno cais. Gellir cael mynediad at le wedi'i ariannu mewn dau leoliad.
Er nad yw'n statudol bod eich plentyn yn mynychu Meithrinfa Cyfnod Sylfaen cyn cael lle llawn-amser mewn ysgol, mae hwn yn gyfnod pwysig iawn ym mywyd eich plentyn gan ei fod yn gosod y sylfaen ar gyfer dysgu yn y dyfodol, ac mae'n rhan o'r cwricwlwm cyfredol a chwricwlwm y dyfodol. Mae Meithrinfa Cyfnod Sylfaen yn derm cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio'r cyfnod y bydd eich plentyn yn ei dreulio yn y Cyfnod Sylfaen pan fydd yn dair ac yn bedair oed.
Mae'r Cyfnod Sylfaen yn cael ei gynnal o dan do ac yn yr awyr agored, ac mae'n galluogi plant i ddysgu trwy chwarae. Mae'r cwricwlwm yn rhoi cyfle i bob plentyn fod wrth galon ei ddysgu. Bydd diddordebau eich plentyn yn cael eu hystyried, a chaiff ei annog i wneud dewisiadau ynghylch ei ddysgu. Bydd staff cymwysedig yn arsylwi ar y plant, ac yn gweithio gydag unigolion, grwpiau bach neu, weithiau, y grŵp cyfan, i ehangu a datblygu eu dysgu. Mae hyn yn arwain at brofiad dysgu sy'n ymarferol ac yn llawn hwyl, ac sy'n cynnwys gweithgareddau ymarferol sy'n gwneud y canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth am y Cyfnod Sylfaen, ewch i'r ddolen isod: Y Cyfnod Sylfaen Canllaw i Rieni Gofalwyr
Gall pob plentyn yng Nghymru gael mynediad ar Feithrinfa Cyfnod Sylfaen o ddechrau'r tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn dair oed a chyn cael ei dderbyn i'r ysgol yn llawn-amser. Cyfeiriwch at y ddolen yma i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am le llawn-amser mewn ysgol. (Mynediad i Ysgolion)
Dyddiad Geni'r Plentyn |
Pryd y gall fy mhlentyn gael mynediad i Feithrinfa Cyfnod Sylfaen? |
1 Ionawr 2018 – 31 Mawrth 2018 |
Haf 2021 |
1 Ebrill 2018 – 31 Awst 2018 |
Hydref 2021 |
1 Medi 2018 – 31 Rhagfyr 2018 |
Gwanwyn 2022 |
|
Bydd angen i chi siarad â'r darparwr gofal plant yr ydych yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd (neu yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio) ar gyfer Meithrinfa Cyfnod Sylfaen a ariennir i'ch plentyn.
Bydd y darparwr gofal plant yn gwirio pa bryd y bydd eich plentyn yn gymwys. Os yw eich plentyn yn gymwys, gofynnir i chi lenwi ffurflen gais ar-lein i rieni:
1. Siaradwch â lleoliad y Feithrinfa Cyfnod Sylfaen o'ch dewis er mwyn cytuno ar le i'ch plentyn
2. Llenwch y cais ar-lein yma
3. Bydd rhaid i chi ddarparu cadarnhad o ddyddiad geni eich plentyn ar gyfer eich lleoliad dewisol (tystysgrif geni/pasbort/cofnodion iechyd meddygol)
4. Pan fydd eich lleoliad dewisol wedi cadarnhau dyddiad geni eich plentyn, bydd y lleoliad yn cysylltu â Chyngor Sir Penfro i gymeradwyo eich cais
5. Bydd Cyngor Sir Penfro yn rhoi gwybod i chi trwy e-bost a yw eich cais wedi cael ei gymeradwyo
6. Bydd y cyllid yn cael ei ryddhau'n uniongyrchol i'r lleoliad o'ch dewis wedi i'r cais gael ei gymeradwyo
Noder: Bydd y cais ar-lein i rieni- Grant y Cyfnod Sylfaen yn cael eu cyhoeddi yma maes o law
Os byddwch yn cael unrhyw broblem wrth lenwi'r ffurflen gais ar-lein, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Ffôn: 01437 770014
E-bost: 1FoundationPhaseLinkTeachers@pembrokeshire.gov.uk
Cynnig Gofal Plant Cymru
Yn ychwanegol at yr hawl i 10 awr yr wythnos o addysg blynyddoedd cynnar rad ac am ddim (sydd ar gael i bob plentyn), efallai y byddwch hefyd yn gallu elwa ar 20 awr yn rhagor o ofal plant wedi'i ariannu. I gael rhagor o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant, ewch i https://www.pembrokeshire.gov.uk/the-childcare-offer-wales.