Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gofal plant yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu teuluoedd sy’n gweithio yng Nghymru. Mae cynorthwyo teuluoedd trwy gynnig gofal plant hyblyg, fforddiadwy ac o ansawdd da yn cefnogi adfywiad economaidd, gall leihau pwysau ar incwm teuluol a helpu rhieni i gymryd rhan mewn gwaith, gan felly leihau risg teulu o dlodi. Mae hefyd yn cefnogi lles plant trwy brofiadau cadarnhaol a chyfoethog o ran gofal plant.
Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a ariennir gan y llywodraeth a gofal plant ar gyfer rhieni plant 3 a 4 oed sy’n gweithio ac sy’n gymwys, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Mae’r Cynnig eisoes wedi helpu rhieni ledled Cymru i ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg. Mae eraill yn achub ar gyfleoedd hyfforddi i ddatblygu eu sgiliau, newid eu swydd neu ddechrau eu busnes eu hunain hyd yn oed.
Y nod yw rhoi ychydig bach mwy o arian bob mis i rieni sy’n gweithio, i’w wario ar bethau sy’n bwysig i’w teulu.
Beth bynnag mae’r Cynnig yn ei olygu i chi a’ch teulu, peidiwch â cholli eich rhan chi o gymorth y llywodraeth gyda gofal plant.