Ceir llawer o ddryswch a gwybodaeth anghywir ynghylch Cynnig Gofal Plant Cymru. Mae Cyngor Sir Penfro wedi llunio’r canllawiau isod er mwyn helpu chwalu rhai o’r mythau mwyaf cyffredin ynghylch Cynnig Gofal Plant Cymru.
Ffaith: Nid oes gan gymhwystra ar gyfer y 30 awr unrhyw beth i’w wneud â nifer yr oriau a weithir; mae cymhwystra yn seiliedig ar enillion. Rhaid i rieni ennill yr hyn sy’n gyfwerth ag 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol (yn dibynnu ar eu hoedran). Ar hyn o bryd, mae hyn tua £115 yr wythnos (yr un, mewn cartref â dau riant) yn achos y sawl sy’n ennill y ‘cyflog byw cenedlaethol’ h.y. yn 25 oed neu’n hŷn, a thua £111 yr wythnos yn achos y sawl sy’n ennill yr isafswm cyflog cenedlaethol. Mae hyn yn golygu, os yw rhiant yn ennill, dyweder, £120 yr wythnos ond yn gweithio chwe awr yn unig, byddant yn dal yn gymwys ar gyfer y cynnig 30 awr. Mae’r terfyn enillion uchaf (£100,000) yn berthnasol i’r naill a’r llall o’r ddau riant, felly byddai cartref ag incwm deuol o £199,995 yn dal yn gymwys ar gyfer y cynnig o 30 awr. Mae rhagor o wybodaeth am gymhwystra ar gael yn ein canllaw sydd am ddim.
Ffaith: Os bydd amgylchiadau’n newid ac yr hoffech newid eich oriau neu newid/ychwanegu darparwyr gofal plant, gellir newid hynny’n hawdd. Cysylltwch â Cheredigion (sef yr awdurdod gweithredu) ar 01545 570881 gyda’ch cyfeirnod wrth law a’ch newidiadau, a bydd y tîm yn gallu diweddaru’ch cais.
Ffaith: Pan fydd plentyn yn cael cynnig lle addysg amser llawn cyn y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed (e.e. y diwrnod neu’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed), mae’r plentyn hwnnw’n dal yn gymwys i dderbyn 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth wyliau hyd at y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pob rhiant cymwys yn derbyn yr un cynnig, ac er mwyn osgoi cosbi rhieni sy’n manteisio ar le addysg amser llawn ar gyfer eu plentyn cyn y mis Medi ar ôl iddynt droi’n 4 oed.
Ffaith: Bwriad y cynnig yw cefnogi rhieni sy’n gweithio ac annog rhieni i ddychwelyd i’r gwaith neu i gynyddu eu horiau. Weithiau, gall teuluoedd golli eu cymhwystra ar gyfer y cynnig. Mae’n debygol mai un o’r rhesymau mwyaf cyffredin yn hyn o beth yw pan fydd un neu’r ddau riant yn colli eu swydd neu pan fydd eu horiau’n cael eu gostwng yn is na’r gofyniad sylfaenol. Er mwyn darparu sefydlogrwydd i blant ac i ddarparwyr gofal plant, a rhoi cyfle i rieni ddod yn gymwys unwaith eto, bydd teuluoedd sy’n colli eu cymhwystra yn parhau i allu cael mynediad i’r cynnig am gyfnod cyfyngedig o amser. Os bydd rhiant yn colli cymhwystra, rhoddir cyfnod eithrio dros dro o 8 wythnos pryd y gallant barhau i gael mynediad i’r cynnig.
Ffaith: Ni fydd derbyn y Cynnig yn effeithio ar hawl eich teulu i dderbyn credydau treth gwaith, a gallwch gael mynediad i’r Cynnig ac i gredydau treth ar yr un pryd.
Mae credydau treth gwaith yn cael eu cyfrif yn ôl incwm ac amcangyfrif o gostau gofal plant. Gall derbyn y Cynnig arwain at gynnydd yn eich incwm (os gallwch weithio rhagor o oriau, er enghraifft) neu ostyngiad yn eich costau gofal plant, sy’n golygu y gallai fod gostyngiad yn swm y credydau treth a dderbyniwch.
Ffaith: Nid yw’n ofynnol i rieni ddefnyddio eu hawl i addysg gynnar er mwyn cael mynediad i elfen gofal plant y cynnig. Fodd bynnag, bydd eu hawl yn cynnwys yr oriau hyn p’un a ydynt yn eu defnyddio ai peidio. Er enghraifft, yn Sir Benfro, bydd gennych hawl i 20 awr o ofal plant wedi’i ariannu.
Ffaith: Gall rhieni ddefnyddio talebau di-dreth ar gyfer unrhyw oriau gofal plant ychwanegol yn unig.
Ffaith: Daw eich plentyn yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant o’r tymor yn dilyn pen-blwydd eich plentyn yn dair oed. Er enghraifft, os bydd eich plentyn yn dair oed ym mis Gorffennaf, byddwch chi’n gymwys o fis Medi.