Cyngor Sir Penfro yw'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer Sir Benfro. Mae hyn ar ben dyletswyddau'r Cyngor fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol.
Rydym yn cyflawni swyddogaeth statudol i sicrhau y caiff cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd sy'n cynnwys mwy nag un eiddo, neu lle mae goblygiadau draenio sy'n fwy na 100m2 ar gyfer yr ardal adeiladu, eu cynllunio a'u hadeiladu yn unol â'r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.
Sefydlwyd y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy er mwyn:
Fe wnaeth Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, a ddaeth i rym ar y 7fed o Ionawr 2019, sefydlu Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (CCSDC) yn yr awdurdodau unedol yng Nghymru. Mae gan y cyrff hyn gyfrifoldeb statudol i werthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd, lle mae goblygiadau draenio i waith adeiladu, ac i fabwysiadu a chynnal cynlluniau SDCau, yn ddibynnol ar amodau ac esemptiadau.
Cyngor Sir Penfro yw'r Corff Cymeradwyo SDCau (CCSDC) ar gyfer Sir Benfro ochr yn ochr â'i ddyletswyddau fel yr Awdurdod Arweiniol ar gyfer Llifogydd Lleol (AALlLl).
Mae Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud yn ofynnol bod draenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd yn cydymffurfio â’r Safonau Cenedlaethol gorfodol ar gyfer systemau draenio cynaliadwy (SDCau).
Yn dilyn Cychwyn Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru yr Offerynnau Statudol ar y 15fed o Hydref 2018. Mae’r Offerynnau a gyhoeddwyd yn cynnwys:
1. Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) 2018
2. Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) 2018
3. Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gorchymyn Cymeradwyo a Mabwysiadu) 2018
4. Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apeliadau) 2018
5. Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gorfodaeth) 2018
Amcan polisi Llywodraeth Cymru yw sicrhau systemau draenio cynaliadwy (SDCau) amlbwrpas, effeithiol mewn datblygiadau newydd, fydd yn cael eu cynnal a’u cadw drwy gydol oes y datblygiad y maent yn ei wasanaethu.
Mae cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (CCSDC) ar wahân i gymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl). Efallai y bydd yn ofynnol cael cymeradwyaeth CCSDC a’r ACLl ar gyfer gwaith adeiladu sy’n cwrdd â’r meini prawf uchod.
Mae'r Safonau SDCau statudol yn darparu fframwaith ar ffurf egwyddorion a safonau, ynghyd â chanllawiau ar gyfer sicrhau SDCau o ansawdd da, fydd yn sefyll prawf amser, ar ddatblygiadau newydd.
Wrth ystyried cais am gymeradwyaeth, mae'n rhaid i'r CCSDC:
Am fwy o wybodaeth: Mae Canllawiau Statudol Systemau Draenio Cynaliadwy i awdurdodau lleol, ar gyfer gweithredu Atodlen 3
Pam mae SDCau a CCSDC yn bwysig?
Pryd fydd angen cymeradwyaeth CCSDC?
Pryd fydd dim angen cymeradwyaeth CCSDC?
Cymeradwyaeth CCSDC a Chynllunio
Beth ddylai ddylanwadu ar y broses ddylunio?
Cynnal a Chadw i’r Dyfodol ac Ariannu
Beth yw'r goblygiadau o ran cost i Ddatblygwyr?
Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?
Mae llifogydd dŵr wyneb yn creu bygythiad, sy’n cynyddu o hyd, i eiddo a chartrefi ac fe'i nodwyd fel un o'r tair prif ffynhonnell o berygl llifogydd ynghyd â moroedd ac afonydd.
Mae llifogydd oherwydd y newid yn yr hinsawdd, datblygiad trefol a gorlwytho’r systemau draenio dŵr wyneb sydd mewn bodolaeth, gan gynnwys carthffosydd dŵr wyneb/dŵr budr cyfunedig, yn risg sy’n cynyddu’n barhaus. Mae hyn wedi arwain at fwy o lygredd yn ein hafonydd, tirweddau naturiol gwael a dirywiad mewn bioamrywiaeth.
Mae’r systemau pibellau traddodiadol, sy'n casglu dŵr ffo oddi ar arwynebau a balmantwyd yn galed megis toeau, ffyrdd a meysydd parcio, yn anghynaladwy ac maent wedi cyfrannu at gynnydd mewn perygl llifogydd a llygredd drwy:
Gellir rheoli'r risg o lifogydd dŵr wyneb yn effeithiol drwy ddefnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau).
Mae'r systemau hyn, sy’n cael gwared ar ddŵr wyneb mewn ffordd wahanol, wedi'u cynllunio i ddynwared draeniad naturiol er mwyn rheoli cyflymder llif a chyfaint y dŵr wyneb sy’n llifo oddi ar safle ac ansawdd y dŵr. Gellir cyflawni hyn drwy arafu, ymdreiddio ac atal ac felly helpu i leihau'r perygl o lifogydd.
Gall nodweddion SDCau gynnwys defnyddio toeau gwyrdd, casgenni dŵr, pantiau, basnau cadw, pyllau teneuo a phalmentydd hydraidd.
Tybed ydych chi erioed wedi meddwl ble mae'r glaw yn mynd?
Animeiddiad draenio cynaliadwy
Swyddogaeth statudol yw'r CCSDC, sy’n cael ei chyflawni gan yr awdurdod lleol gyda'r cyfrifoldeb i wneud y canlynol:
Bydd angen i Gyngor Sir Penfro, fel y Corff Cymeradwyo SDCau (CCSDC) ar gyfer Sir Benfro, ac eithrio ar gyfer eiddo sengl a lle bydd gwaith adeiladu sydd â goblygiadau draenio o lai na 100m2 o ran arwynebedd, gymeradwyo systemau draenio dŵr wyneb cyn i unrhyw waith adeiladu gychwyn.
Rhaid i systemau draenio dŵr wyneb sy'n gwasanaethu datblygiadau newydd gael eu dylunio a'u hadeiladu yn unol â'r safonau draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn rhaid i Gyngor Sir Penfro, fel y Corff Cymeradwyo SDCau ar gyfer y Sir, gymeradwyo'r systemau hyn.
Bydd angen cymeradwyaeth y CCSDC os cafodd y caniatâd cynllunio ei roi yn ddibynnol ar amod o ran mater a gadwyd yn ôl a bod cais am gymeradwyo'r mater a gadwyd yn ôl yn cael ei wneud ar ôl y 7fed o Ionawr 2020.
Cynigir y bydd cefnffyrdd a thraffyrdd, sy'n cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru, prosiectau seilwaith o bwys cenedlaethol a rheilffyrdd a adeiledir yn cael eu heithrio o'r angen i gael eu cymeradwyo gan CCSDC.
Ni fydd angen cymeradwyaeth:
Mae cymeradwyaeth CCSDC ar wahân i’r broses Gynllunio a bydd yn golygu cymeradwyaeth dechnegol i’r holl ddatblygiadau y mae’r meini prawf yn berthnasol iddynt. Bydd yn ofynnol i Geisiadau am gymeradwyaeth systemau draenio cynaliadwy (SDCau) ar ddatblygiadau newydd sy’n cwrdd â’r meini prawf gael eu gwneud i’r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (CCSDC).
Dylid ystyried sut i gael gwared ar ddŵr wyneb yn ystod camau cyntaf dylunio’r safle gan y bydd hyn yn dylanwadu ar osodiad y ffyrdd, yr adeiladau a'r mannau agored.
Dylid cadw cyrsiau dŵr, ffosydd a nodweddion draenio eraill presennol, o fewn y safle a gerllaw, a'u hymgorffori yn y datblygiad a bydd hynny’n gymorth i ddarparu bioamrywiaeth, manteision amwynderau a dyluniad costeffeithiol.
Dylai gosodiad safle fod yn gydnaws â'r dopograffeg a gofynion systemau rheoli dŵr wyneb presennol er mwyn rheoli a thrin dŵr wyneb ffo yn effeithiol tra'n gwella ansawdd y dŵr.
Bydd angen i ddylunwyr y system ddraenio ddangos sut y mae eu cynigion draenio ar gyfer datblygiad newydd yn cydymffurfio â’r Safonau Cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru sy'n cynnwys nifer o egwyddorion a safonau dylunio system ddraenio.
Argymhellwn eich bod yn cyfeirio at Safonau Gweinidogol Anstatudol a CIRIA C753: Llawlyfr y SDCau a Chanllawiau Statudol SDCau
Mae’r Safonau SDCau statudol yn cynnwys cyfres o egwyddorion, y mae’n rhaid eu cymhwyso i ddyluniad cynllun draenio dŵr wyneb er mwyn cael cymeradwyaeth y CCSDC.
S1 - Cyrchfan y dŵr ffo
S2 - Rheolaeth hydrolig
S3 - Ansawdd y dŵr
S4 - Amwynder
S5 - Bioamrywiaeth
S6 - Adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw
Er nad yw'n orfodol, diben y gwasanaeth dewisol hwn, y codir tâl amdano, yw i’r datblygwr gael cyswllt cychwynnol â'r corff cymeradwyo SDCau i esbonio natur y datblygiad, ac iddynt hwy ddod â'r Safonau Cenedlaethol neu faterion sy'n peri pryder i sylw'r datblygwr ac felly leihau’r oedi cyn cael cymeradwyaeth Cynllunio, Rheoliadau Adeiladu a CCSDC.
Rhaid gwneud pob cais am gyngor cyn ymgeisio ar y ffurflen ymholi ragnodedig ar gyfer cyngor cyn ymgeisio. Ni fydd swyddogion mewn sefyllfa ar yr adeg hon i ddatrys problemau na dod i unrhyw gasgliadau terfynol ynglŷn â’r cynllun.
Fe'ch cynghorir hefyd i ymgysylltu'n fuan, ac yn uniongyrchol, â'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'r holl sefydliadau perthnasol eraill a allai fod â diddordeb yn eich cynnig ar gyfer system ddraenio gynaliadwy, gan gynnwys ymgyngoreion statudol y CCSDC a restrir isod:
Er nad oes amserlen wedi ei gosod ar gyfer y cyfnod cyn gwneud cais, mae’n hanfodol mabwysiadu cyfnod digonol o amser, fydd yn cwrdd ag unrhyw derfynau amser a osodir gan yr Awdurdod Cynllunio.
Gall y CCSDC godi tâl am sylwadau, trafodaethau, cyfarfodydd a chyfarfodydd safle cyn i gais gael ei wneud, fel y gwelir wrth ddilyn y ddolen: Ffioedd CCS am Wasanaethau cyn ymgeisio
Ceir canllawiau ar gyfer cwblhau’r Ffurflen Cyn Ymgeisio drwy glicio ar y ddolen gyswllt yma
Darperir y ffurflen gais i gael cyngor cyn ymgeisio:
Bydd yn rhaid cyflwyno gwybodaeth ddigonol i'r CCSDC i'n galluogi i ystyried y cynigion a rhoi cymeradwyaeth. Er nad oes amserlen ar gyfer dilysu Cais CCSDC, ar ôl derbyn yr holl ddogfennau a'r wybodaeth angenrheidiol, caiff y cais ei ddilysu a bydd angen y ffi yn llawn.
Wrth gyflwyno cais llawn i'r CCSDC i'w ddilysu rhaid amgáu'r canlynol:
Ceir canllawiau ar gyfer cwblhau’r ffurflen gais lawn drwy glicio ar y ddolen gyswllt Canllawiau
Os bernir bod eich cais yn ddilys, caiff eich cyflwyniad ei asesu’n dechnegol gan y CCSDC. Unwaith y bydd Cais Llawn ar gyfer Cynllun SDC wedi cael ei dderbyn, bydd y CCSDC yn penderfynu arno yn unig ar sail y wybodaeth dechnegol ysgrifenedig a gwybodaeth arall a gyflwynwyd gyda’r cais llawn.
Yn unol â’r gofynion statudol, bydd y CCSDC yn eich hysbysu am ganlyniad ei asesiad technegol ar eich Cais Llawn ac efallai y caiff y Cais Llawn ei gymeradwyo yn ddibynnol ar amodau neu efallai y caiff ei wrthod, ac os felly hysbysir chi am y rhesymau am hynny.
Gellir cael mynediad at y Ffurflen Gais Lawn drwy:
Mae'r ffurflen hon yn seiliedig ar y gofynion a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i'r unig ddiben o gyflwyno gwybodaeth i'r Corff Cymeradwyo SDCau (CCSDC), yn unol â'r ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yn y Canllawiau ar gyfer Gwneud Ceisiadau am Gymeradwyaeth CCSDC ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy, ac elfennau perthnasol eraill o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth.
O dan Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, yn ddarostyngedig i amodau a osodir, rhaid i'r Awdurdod Lleol fabwysiadu SDC sy'n gwasanaethu 2 eiddo neu fwy.
Nid yw'r ddyletswydd i fabwysiadu SDC yn berthnasol os yw'r system yn gwasanaethu safle sy'n cael ei reoli gan un person neu gan ddau neu fwy o bersonau gyda'i gilydd, fel y diffinnir yn y rheoliadau.
Dyma enghreifftiau nodweddiadol lle na fydd SDCau yn cael eui mabwysiadu:
Wrth fabwysiadu'r SDC, bydd y CCSDC yn cymryd cyfrifoldeb am y system gyfan (a all gynnwys nodweddion fel pibellau a storfeydd tanddaearol yn ogystal â nodweddion gwyrdd fel pantiau) hyd y pwynt lle mae llifau yn gadael y system naill ai i'w hailddefnyddio, neu i fynd i mewn i'r ddaear neu i gorff dŵr wyneb neu rwydwaith yr ymgymerwr carthffosiaeth.
Er mwyn i'r CCSDC ei mabwysiadu rhaid iddo fod yn fodlon bod y system ddraenio wedi ei hadeiladu yn unol â’r gymeradwyaeth gan gynnwys unrhyw amodau a bennwyd yn y gymeradwyaeth.
Bydd y System Draenio Cynaliadwy yn cael ei mabwysiadu gan y CCSDC drwy gytundeb cyfreithiol pwrpasol, a fydd yn gofyn am symiau gohiriedig neu daliadau cynnal a chadw, fydd yn adlewyrchu'r cynllun cynnal/newydd a fydd yn ofynnol yn ystod oes y datblygiad.
Pan gaiff y system ddraenio ei mabwysiadu, y CCSDC sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod y system ddraenio'n cael ei chynnal a’i chadw yn unol â'r Safonau SDCau statudol.
Darperir mecanwaith ffurfiol ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniad CCSDC i Weinidogion Cymru yn yma
Mae'r ddogfen hon hefyd yn cynnwys manylion llawn y weithdrefn ar gyfer apelio, gan gynnwys; sut y gellir gwneud apêl, y wybodaeth sydd i gael ei darparu, dyletswyddau'r CCSDC o ran darparu gwybodaeth, amserlen ar gyfer penderfynu apêl a'r dyletswyddau penodol i Weinidogion Cymru.
Dylid nodi nad yw gwneud apêl yn atal penderfyniad a rhaid i ddatblygwr sy'n apelio yn erbyn amod cymeradwyaeth beidio â dechrau adeiladu.
Mae'r ffioedd yn berthnasol i geisiadau a wneir o'r 7fed o Ionawr 2019 ymlaen, ac maent yn seiliedig ar Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, Atodlen 3, Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018.
Rhaid talu’r ffi ar amser cyflwyno’r cais. Os ydych yn ansicr ynghylch y ffi sy’n berthnasol, anfonwch e-bost i: CCSDC@pembrokeshire.gov.uk neu Ffioed CCS
Maint y Datblygiad | Y Ffi a Godir |
0 i 0.099 ha | Wedi ei eithrio o Gymeradwyaeth CCSDC |
0.01 i 0.1 ha | £420.00 |
0.1 i 0.5 ha | £420.00 + £70.00 y 0.1 ha neu ran o hynny |
0.5 i 1.0 ha | £700.00 + £50.00 y 0.1 ha neu ran o hynny |
1.0 i 5.0 ha | £950.00 + £20.00 y 0.1 ha neu ran o hynny |
Mwy na 5.0 ha | £1,750.00 + £10.00 y 0.1 ha neu ran o hynny, yn ddarostyngedig i uchafswm o £7500.00 |
Mae'r CCSDC i godi ffioedd gostyngol mewn amgylchiadau lle:
Gellir cael mynediad at gyfrifiannell ffioedd CCSDC am Gais Llawn drwy yma
Gellir cael mynediad at dablau ffioedd Cais Llawn drwy yma
Gellir gweld y ffioedd cyn ymgeisio drwy yma
Mae'n bwysig nodi y gallai fod angen taliadau eraill yn ychwanegol at y ffi gwneud cais, megis ffioedd arolygu, bondiau dros dro a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau'r gwaith adeiladu, ynghyd â chynllun cynnal a chadw wedi'i ariannu ar gyfer y system ddraenio. Bydd y costau hyn yn dibynnu ar natur a maint y gwaith, gyda'r ymgeisydd yn cael gwybod am y gofynion fel rhan o'r broses gymeradwyo. Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw agwedd ar y ffioedd, cysylltwch â thîm y CCSDC yn uniongyrchol.
Bydd Cyngor Sir Penfro fel y CCSDC yn ystyried defnyddio pwerau gorfodi:
Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol.
Gellwch gael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â'ch CCSDC (manylion isod)
Mae'r canlynol yn adnoddau defnyddiol am wybodaeth ynghylch Draenio Cynaliadwy.
Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010
Cysylltwch â’ch CCSDC am fanylion pellach.
Drwy’r post:
CCSDC
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol
Isadran Seilwaith
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Drwy e-bost: SAB@pembrokeshire.gov.uk
Rhoi Rhybudd ar gyfer eiddo y mae Cyngor Sir Penfro yn berchen arno
Os yw'ch cais cynllunio yn cynnwys tir sy'n berchen i Cyngor Sir Penfro, naill ai fel rhan o'r datblygiad neu er mwyn cael mynediad i'r datblygiad, yna'n gyfreithiol rhaid i chi hysbysu'r Cyngor. Dylid danfon hysbysiadau at:
Rheolwr Gwasanaethau Eiddo
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
E-bost: propertyenquiries@pembrokeshire.gov.uk
01437 775875
Nodwch os gwelwch yn dda, os bydd caniatâd cynllunio'n cael ei roi, bydd dal yn rhaid i chi gael caniatâd ffurfiol gan y Rheolwr Gwasanaethau Eiddo naill ai er mwyn defnyddio tir y Cyngor fel rhan o'r datblygiad neu ar gyfer cael hawl tramwy dros dir y cyngor er mwyn cael mynediad i'ch datblygiad.
Cysylltwch â'r Tîm Cymorth Cynllunio os oes gennych ymholiadau cyffredinol.
Ffoniwch: 01437 764551
neu e-bostiwch: planning.support.team@pembrokeshire.gov.uk
SWYDDOGION CYNLLUNIO
TÎM Y GOGLEDD | TÎM Y DE |
Ceri P Jones (Area Team Leader) E-bost: ceri.pjones@pembrokeshire.gov.uk |
Rachel Elliott |
Sian Husband |
Claire Jenkins E-bost: claire.jenkins@pembrokeshire.gov.uk |
Dave Harries |
Leon Elms E-bost: leon.elms@pembrokeshire.gov.uk |
Emma Gladstone E-bost: emma.gladstone@pembrokeshire.gov.uk |
Emma Sprowell |
|
Alison Mattson |
Trevor Theobald - Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth
Ffôn: 01437 764551
E-bost: Trevor.Theobald@pembrokeshire.gov.uk
Swyddog Cynllunio Ecoleg
Ffôn: 01437 764551
E-bost: ecology@pembrokeshire.gov.uk
Anthony Rogers - Swyddog Gweithredu Bioamrywiaeth
Ffôn: 01437 764551
E-bost: anthony.rogers@pembrokeshire.gov.uk
Jim Dunckley - Swyddog Tir Comin
Ffôn: 01437 764551
E-bost: commonland@pembrokeshire.gov.uk
Bob Smith - Swyddog Cynllunio at y Dyfodol
Ffôn: 01437 764551
E-bost: Bob.Smith@sir-benfro.gov.uk
Sara Morris - Prif Swyddog Cynllunio
Ffôn: 01437 764551
E-bost: Sara.morris2@Pembrokeshire.gov.uk
Matt Pyart - Historic Building Conservation Officer
Ffôn: 01437 764551
Ebost: HistoricEnvironment@pembrokeshire.gov.uk
Hugh Towns - Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff
Regeneration and Leisure
Carmarthenshire County Council
Civic Offices, Crescent Road
Llandeilo
SA19 6HW
Ffôn: 01558 825373
Cyfreithiol Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Matt Cloud - Swyddog Map Swyddogol
Map Swyddogol, Materion Cyfreithiol
Ffôn: 01437 764551
E-bost: Matt.Cloud@pembrokeshire.gov.uk
Swyddogion Mynediad Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Dekker Thomas - Swyddog Mynediad Ardal Cefn Gwlad
Materion Gwellhad, Cynnal a Chadw Ffyrdd
Ffôn: 01437 764551
E-bost: Dekker.Thomas@Pembrokeshire.gov.uk
Sean Tilling - Swyddog Mynediad Ardal Cefn Gwlad
Materion Gwellhad, Cynnal a Chadw Ffyrdd
Ffôn: 01437 764551
E-bost: Sean.Tilling@Pembrokeshire.gov.uk
Sara Morris - Rheolydd Cadwraeth a'r Cynllun Datblygu
Rhif Ffon - 01437 - 775367
E-bost - Sara.Morris2@pembrokeshire.gov.uk
Bob Smith - Prif Swyddog Cynllunio
Rhif Ffon - 01437 - 775364
E-mail - Bob.Smith@pembrokeshire.gov.uk
Sara Morris - Cynllunio at y Dyfodol
Ffôn: 01437 775367
E-bost: sara.morris2@pembrokeshire.gov.uk
Matt Pyart -Historic Building Conservation Officer
Ffôn: 01437 764551
E-bost: Matt.Pyart@Pembrokeshire.gov.uk
Richard Staden - Swyddog Tirwedd
Ffôn: 01437 764551
E-bost: Richard.Staden@Pembrokeshire.gov.uk
Llungopïo / Mapiau Ordnans / Penderfyniadau Cynllunio
Tîm Cefnogi Cynllunio
Ffôn: 01437 764551
E-bost: planning.support.team@Pembrokeshire.gov.uk
1B Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
E-bost: planning.support.team@pembrokeshire.gov.uk