Cysylltu Bywydau (Lleoli oedolion)
Dod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau
Mae gofalwyr o bob cefndir, a'r hyn sy'n gyffredin rhyngddynt yw eu bod yn barod i roi cymorth ac amser i unigolyn. Gall ein gofalwyr helpu pobl i drawsnewid eu bywydau, magu hyder, hunanwerth, a darparu'r sgiliau i fyw'n annibynnol.
Mae Cysylltu Bywydau yn ymwneud â pherthnasoedd, helpu rhywun i ddatblygu neu gynnal ei hyder, gwneud ffrindiau newydd, neu ddysgu sgiliau newydd. Mae'n ffordd iddynt ffynnu fel person – ac i chi ddod â'ch hunan i'r rôl.
Os ydych yn amyneddgar, yn garedig ac yn angerddol am helpu eraill i fyw'r bywyd gorau posibl ac yn
- Byw mewn cartref sefydlog
- Yn barod i fynychu hyfforddiant 5 diwrnod cyn cael eich cymeradwyo fel gofalwr
- Ar gael i gyfarfod yn rheolaidd ag asesydd
- Gallu darparu tystlythyrau (gan gynnwys un gan eu meddyg teulu) a chynnal Gwiriad Datgelu a Gwahardd.
Efallai mai chi yw'r math o berson yr ydym yn chwilio amdano. Nid oes angen cymwysterau arbennig na phrofiad penodol arnoch. Byddwch yn cael eich cefnogi gan ein Tîm Dysgu a Datblygu profiadol.
Dod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau
Ebost: recruitmentwwsl@pembrokeshire.gov.uk
Dewis Cymru y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall