Cysylltu Bywydau (Lleoli oedolion)
Pa wasanaethau sy'n cael eu darparu?
Trefniadau Tymor Hir
Rydym yn cynnig cartref i bobl gyda gofalwyr cymeradwy a'r cymorth a'r gofal i ddarparu sylfaen gadarn i ddatblygu annibyniaeth. Mae trefniadau Cysylltu Bywydau fel arfer yn para am nifer o flynyddoedd ac yn caniatáu i bobl fwynhau'r cyfleoedd a'r profiadau sy'n rhan o fywyd teuluol a bywyd yn y cartref.
Trefniadau Tymor Byr
Mae'r trefniadau hyn yn cynnig cymorth â ffocws dros gyfnodau byrrach rhwng 1-6 mis ac maent yn ddelfrydol ar gyfer helpu:
- meithrin hyder a sgiliau pobl i fyw'n annibynnol.
- asesu cryfderau ac anghenion pobl
- caniatáu amser i bobl wella ar ôl newidiadau yn eu hiechyd.
Seibianndau Byr
Gallwn ddarparu seibiannau wedi'u cynllunio i oedolion sydd mewn perygl, eu teuluoedd, a'u gofalwyr. Gallwn drefnu seibiannau byr yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion ac mae rhai o'n gofalwyr cymeradwy yn hapus i ddarparu math o wyliau, a bydd eraill yn darparu cymorth fel y gall pobl barhau â'u harferion arferol.
Trefniadau Brys
Gallwn ddarparu cymorth mewn argyfwng. Weithiau, os bydd salwch neu argyfwng teuluol efallai'n codi, mae'n bosibl y bydd angen llety, cymorth a gofal ar berson ar fyr rybudd.
Cymorth Sesiynol
Gallwn ddarparu cymorth a gofal bob awr. Mae'r gefnogaeth yn dechrau ac yn gorffen o'r cartref gofalwyr cymeradwy a gall fod yn ystod y dydd neu gyda'r nos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau
Dod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau
ebost: recruitmentwwsl@pembrokeshire.gov.uk
Dewis Cymru y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall