Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ddigwyddiadau, yn cynnwys:
mae'n rhaid i'r sawl sy'n gyfrifol roi gwybod i'r awdurdod gorfodi heb oedi, yn unol â'r weithdrefn adrodd (Atodlen 1). Y dull mwyaf rhwydd o wneud hyn yw adrodd ar-lein [1]. Yn lle hynny, ar gyfer damweiniau marwol neu ddamweiniau sy'n peri anafiadau penodedig i weithwyr yn unig, 0845 300 9923.
D.S.: Mae'n rhaid derbyn adroddiad o fewn 10 diwrnod wedi'r digwyddiad.
Ar gyfer damweiniau sy'n gwneud gweithiwr yn analluog am fwy na saith diwrnod, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r awdurdod gorfodi o fewn 15 diwrnod wedi'r digwyddiad, gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein briodol.
Achosion o glefyd galwedigaethol [2] , yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â bod mewn cysylltiad â charsinogenau, mwtagenau neu asiantau biolegol [3], cyn gynted ag y bydd y sawl sy'n gyfrifol wedi derbyn diagnosis, gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein briodol [4].