Gwneir ymchwiliadau yn unol â'r meini prawf ymchwilio sydd wedi eu nodi yn y
Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar y digwyddiadau mwyaf difrifol, y rhai sy'n peri marwolaeth neu anafiadau o bwys, a'r rhai sy'n ymgysylltu â'n blaenoriaethau ar gyfer gwelliannau iechyd a diogelwch cenedlaethol. Bydd yr arolygwr yn ceisio darganfod yr hyn aeth o'i le a dysgu'r wers i'ch busnes ac i eraill sy'n ymwneud â mathau tebyg o waith.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r:
Tîm Iechyd a Diogelwch,
Adran Diogelwch y Cyhoedd,
Cyngor Sir Penfro,
Neuadd y Sir,
Hwlffordd,
Sir Benfro,
SA61 1TP.
Ffôn: 01437 775179
E-bost: health&safety@pembrokeshire.gov.uk