Dechrau’n Deg
Iaith a Chwarae
Rydym wedi ceisio darparu cyfres o gefnogaeth i helpu teuluoedd dysgu gyda’i gilydd o’r fan cychwyn. Ein hamcan yw cynnig cefnogaeth a chyngor a fydd o fudd i'ch plant ac yn helpu eu sgiliau iaith a chyfathrebu a'u sgiliau cymdeithasol trwy amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a chyffrous i bawb eu mwynhau.
Iaith a Chwarae Babanod
Mae hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr gyda phlant rhwng 6 wythnos ac 1 oed, ac fel rheol, mae'n dilyn ymlaen o'r sesiynau Tylino Baban. Mae'r rhaglen yn parhau am 6 wythnos ac yn trafod sut i ddeall datblygiad iaith gynnar yn ogystal â rhannu syniadau i helpu cefnogi eich baban i gyflawni’r cerrig milltir o ran datblygiad.
Mae'r rhaglen yn seiliedig ar y themâu canlynol:
- Siarad â'ch baban
- Basgedi trysor
- Mae babanod yn caru cerddoriaeth
- Rhigymau a Hwiangerddi
- Rhannu llyfrau a straeon
Bob wythnos, bydd cyfle i wneud eitem grefft ac yna mynd â hi adref. Mae'r grŵp hwn yn ffordd wych i gael hwyl gyda'r baban a chwrdd â rhieni newydd yn eich ardal.
Grwpiau Iaith a Chwarae i Rieni a Phlantos Bach
Mynediad Agored (ar agor i bawb)
Mae'r grwpiau hyn yn cael eu cynnal yn holl ardaloedd Dechrau'n Deg, ac maen nhw i rieni a gofalwyr a'u plant rhwng 0 a 3 oed. Mae mynd i'r grwpiau hyn yn rhoi cyfle i chi gwrdd â rhieni a phlant ifanc eraill a rhannu syniadau i gefnogi a hyrwyddo datblygiad eich plentyn mewn awyrgylch anffurfiol.
Yn ein grwpiau rydym yn darparu cyfleoedd i fabanod a phlant chwarae ac archwilio mewn man diogel a sicr, dysgu gweithgaredd crefft gwahanol bob wythnos, amser byrbrydau i'r plant, straeon, cerddoriaeth a chaneuon.
Bydd rhieni a gofalwyr yn aros gyda'u plant trwy gydol bob sesiwn, a nhw fydd yn gyfrifol amdanynt.
Rhaglen Iaith a Chwarae
Dyma raglen fer i rieni a gofalwyr sydd â phlant rhwng 0 - 3 oed. Nod y rhaglen yw rhannu syniadau a gweithgareddau dros chwe sesiwn, ac mae'n canolbwyntio ar gyfathrebu, iaith, llythrennedd a chwarae. Mae'n annog rhieni i sylweddoli pa mor bwysig ydyn nhw i addysg eu plentyn trwy hybu hyder y rhieni i ganu, siarad, rhannu stori a chwarae gyda'u plant bob dydd.
Siarad â mi, Chwarae â mi, Canu â mi, Darllen â mi..... dyna sut fyddai’n deall y byd!
Am wybodaeth bellach, ac i gael gwybod ble mae ein grwpiau yn cael eu cynnal, siaradwch gyda'ch ymwelydd iechyd neu ffoniwch swyddfa Dechrau'n Deg.