Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014
A fydd hyn yn effeithio ar fy ngofal a chefnogaeth?
Deddf newydd ydy Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) a fydd yn caniatáu ichi fwy o lais yn y gofal a'r gefnogaeth rydych yn ei gael.
I'ch helpu i gadw cystal ag sydd bosib, chi fydd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'ch gofal mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol. Fe gewch fynediad rhwydd i wybodaeth a chyngor ynglŷn â'r hyn sydd ar gael yn eich ardal.
Bydd gan ofalwyr a'r bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw yr hawl cyfartal i gael eu hasesu am gymorth ac fe fydd gan fwy o bobl yr hawl i Daliadau Uniongyrchol.
Fe gaiff proses newydd ar gyfer gofal a chefnogaeth ei seilio ar yr hyn sydd o bwys i chi fel unigolyn. Fe fydd yn rhoi ystyriaeth eich cryfderau personol a'r gefnogaeth sydd ar gael ichi gan eich teulu, ffrindiau ac eraill yn y gymuned.
Bydd yr asesu'n symlach a dim ond un person fydd yn ei gynnal ar ran nifer o fudiadau.
Fe fydd mwy o wasanaethau i atal problemau rhag gwaethygu, fel bod y cymorth cywir ar gael ichi pan fo angen.
Caiff pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth neu esgeulustod eu cyflwyno.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2016. Fe fyddwch yn cymryd rhan yn y broses newydd ar eich dyddiad asesu nesaf.
Mae'r ffilm fer hon yn cyflwyno'r ddeddf mewn dull hawdd ei wylio.
Bydd y ddogfen hon yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall cynnwys y Ddeddf ac mae hefyd yn darparu trosolwg da.
Mae'r ddogfen Hawdd ei Ddeall hon hefyd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc
arweiniad ynglŷn â mentrau cymdeithasol.
taflen a fideo defnyddiol ynglŷn â'r trydydd sector.