Weithiau cyfeirir at loterïau fel raffl, tôt, tynnu enw o het a thombola. Maent yn fodd i gymdeithasau a sefydliadau eraill cymwys godi arian.
Er mwyn cynnal loterïau, rhaid i gymdeithasau gofrestru gyda'r Cyngor yn yr ardal lle mae eu prif swyddfa. Ni allwn gofrestru cymdeithasau heblaw'r rhai a sefydlwyd at un neu fwy o'r dibenion canlynol:
Fodd bynnag, os yw gwerth yr holl docynnau a werthir yn fwy nag £20,000 ar gyfer un gystadleuaeth, neu'n fwy na £250,000 ar gyfer y flwyddyn galendr gyfan, rhaid i'r gymdeithas gofrestru gyda'r Comisiwn Hapchwarae.
Gwneud cais am drwydded
Fe'ch cynghorir i ddarllen y canllawiau a'r dogfennau polisi perthnasol a chysylltu â'r Adran Drwyddedu gydag unrhyw ymholiadau cyn cwblhau cais.
Mae'n ofynnol i gymdeithasau cofrestredig gwblhau a chyflwyno Dychweleb Loteri ar gyfer pob loteri unigol. Rhaid cyflwyno'r ffurflen cyn pen tri mis wedi dyddiad y loteri.
Ffi adnewyddu trwyddedau blynyddol yw £20. Anfonir anfoneb at yr hyrwyddwr cofrestredig am y ffi flynyddol a rhaid ei dalu yn y ddau fis cyn y pen-blwydd. Gall methu â gwneud hynny arwain at ddiddymu'r cofrestriad. Gallwch dalu drwy siec at yr Adran Drwyddedu am y swm cywir a’i gwneud yn daladwy i 'Cyngor Sir Penfro'.
Hawlenni
Mangreoedd
Isod mae’r ffurflenni ar gyfer gwneud cais am drwydded mangre. Byddwch hefyd yn gweld y ffurflenni i’w defnyddio er mwyn hysbysu’r Awdurdodau Cyfrifol a’r cyhoedd o’ch cais. Rhaid ichi roi rhybudd i’r cyhoedd y tu fas i’r fangre ac mewn papur newydd lleol. Am fanylion pellach byddwch cystal â darllen y rheoliadau.
Dylid anfon yr holl ffurflenni, ynghyd â’r ffi briodol, at y Tîm Trwyddedu (Hyperlink cannot be resolved(gaming-fees-2005)).
licensing@pembrokeshire.gov.uk
Yn gorff cyhoeddus, ein dyletswydd yw diogelu'r arian cyhoeddus yr ydym yn ei weinyddu, ac i'r perwyl hwn gallem ddefnyddio'r wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi ar y ffurflen hon er mwyn atal a darganfod twyll. Gallem hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus i'r dibenion hyn.