Wyddech chi eich bod chi, fel aelod o Lyfrgell Sir Benfro, yn gallu cael mynediad i ystod o safleoedd e-fenthyca ac ymchwilio am ddim, a llawer ohonynt 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos, o gysur eich cartref?
Gallwch fenthyca e-Lyfrau, e-Lyfrau Llafar, e-Gylchgronau a Chomics; cael mynediad i adnoddau dysgu hwyliog i blant; paratoi ar gyfer eich prawf gyrru, a darganfod awduron newydd i'w darllen.
Yn ogystal, fel aelod o Lyfrgelloedd Sir Benfro, rydych chi'n cael mynediad i ddewis llawn o bapurau newydd ar lein, adnoddau cyfeirio, cyfnodolion a chyhoeddiadau eraill ar lein drwy gyfrwng Gwasanaeth Adnoddau Ar Lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Hefyd...
Hefyd yn ein Canghennau Llyfrgell ceir mynediad i Find my Past ac Ancestry.com** er mwyn eich helpu gydag ymchwil leol ac ymchwil i'ch achau, yn ogystal ag Access2Research sy'n rhoi mynediad i chi i ystod o ymchwil, cyfnodolion a chylchgronau academaidd.
**Mwynhewch fynediad AM DDIM i fersiwn llyfrgell Ancestry gartref, am gyfnod cyfyngedig diolch i ProQuest!Os ydych chi wastad wedi bod eisiau ymchwilio eich coeden deuluol, ni fu erioed amser gwell!
1. Ewch i’n catalog ar-lein.
2. Mewngofnodwch drwy ddefnyddio rhif eich cerdyn llyfrgell a’ch cyfrinair, a chliciwch y ddolen ‘Ancestry Library Edition’ i ddechrau arni.