Am ba wasanaethau penodol rydych yn chwilio?
Mae yna eithriadau, ond mae’r rhan fwyaf o sefydliadau’n cynnig ‘pecynnau’ gofal yn hytrach na gwasanaethau gofal ar wahân. Efallai y bydd yr Yellow Pages neu’r mân hysbysebion yn y papur lleol yn ddefnyddiol er mwyn dod o hyd i wasanaethau penodol fel gwasanaethau glanhau, gwasanaethau garddio, cludiant neu brydau bwyd.