Diogelu Plant
Diogelu Plant
Mae ‘plentyn mewn perygl’ yn blentyn sydd:
- yn profi neu mewn perygl o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu brofi mathau eraill o niwed; ac
- yn unigolyn sydd ag anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio).
Mae plentyn yn cael ei gam-drin a'i esgeuluso pan fydd rhywun yn achosi anaf, neu'n methu â gweithredu i atal niwed. Gall plant gael eu cam-drin mewn teulu, neu mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol, gan y rhai sy'n hysbys iddynt, neu'n fwy anaml, gan ddieithryn. Plentyn yw unrhyw un nad yw eto wedi cyrraedd ei ben-blwydd yn 18 oed. Felly, mae 'plant' yn golygu 'plant a phobl ifanc' drwyddi draw. Nid yw'r ffaith bod plentyn wedi troi yn 16 oed ac efallai ei fod yn byw'n annibynnol yn newid ei statws na'i hawl i wasanaethau neu amddiffyniad o dan Ddeddf Plant, 1989.
Dylai pawb wneud y canlynol:
- bod yn effro i ddangosyddion posibl o gam-drin neu esgeulustod;
- bod yn effro i'r risgiau y gallai'r rhai sy'n cam-drin eu peri i blant;
- rhannu eu pryderon fel y gellir casglu gwybodaeth i gynorthwyo wrth asesu anghenion ac amgylchiadau'r plentyn;
- gweithio gydag asiantaethau i gyfrannu at gamau sydd eu hangen i ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn
- cefnogi'r plentyn a'i deulu.
Y categorïau o gam-drin yw corfforol, rhywiol, emosiynol/seicolegol, ariannol ac esgeulustod fel yr amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014), Cydweithio i Ddiogelu Pobl Cyfrol 5 - Ymdrin ag achosion unigol i amddiffyn plant sydd mewn perygl.
Mae'r canlynol yn rhestr nad yw'n gynhwysfawr o enghreifftiau ar gyfer pob un o'r categorïau cam-drin ac esgeulustod (mae diffiniadau manylach i'w gweld yn adran 2 Gweithdrefnau Diogelu Cymru - Cydnabod bod plentyn mewn perygl o niwed - Awgrymiadau ar gyfer Arwyddion Ymarfer a Dangosyddion)
Cam-drin corfforol
Taro, slapio, gor-ddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, ataliaeth ormodol neu sancsiynau amhriodol
Cam-drin Emosiynol/seicolegol
Bygythiadau o niwed neu gefnu, rheoli gorfodol, cywilyddio, cam-drin geiriol neu hiliol, ynysu neu dynnu'n ôl o wasanaethau neu rwydweithiau cefnogol, yn dyst, i gam-drin eraill
Cam-drin rhywiol
Gorfodi neu ddenu plentyn neu unigolyn ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, p'un a yw'r plentyn yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ai peidio, gan gynnwys: cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddiol neu anhreiddiol; gwiethgareddau digyswllt, megis cynnwys plant yn y broses o greu neu edrych ar ddeunyddiau pornograffig, gwylio gweithgareddau rhywiol neu annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol
Cam-drin ariannol
Bydd y categori hwn yn llai cyffredin i blentyn ond gallai'r dangosyddion fod yn un o'r canlynol:
- Methu â diwallu eu hanghenion am ofal a chymorth a ddarperir trwy daliadau uniongyrchol
- Cwynion bod eiddo personol ar goll
Esgeulustod
Methu â diwallu anghenion corfforol, emosiynol neu seicolegol sylfaenol sy'n debygol o arwain at amhariad ar iechyd a datblygiad
Am wybodaeth, cyngor neu gymorth:
Os oes gennych chi neu eraill bryderon ynghylch llesiant plentyn neu unigolyn ifanc, rhaid i chi roi gwybod amdanynt ar unwaith.
Tim Asesu Gofal Plant: Ymholiadau Adran 47
Cysylltwch â ni
Tîm Asesu Gofal Plant: 01437 776444
Rhif ffôn y Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau: 0300 333 2222
Heddlu
Mewn argyfwng galwch 999
Ddim yn argyfwng: 101
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Dewis Cymru yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall