Dragon Rider Cymru yw’r cwrs newydd hyfforddi beicwyr modur gyda chefnogaeth Cynllun Gwell Beiciwr yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Thunder Road Motorcycles o Dde Cymru.
Mae Timau Diogelwch ar Ffyrdd Sir Benfro, Sir Gâr, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi gweithio fel partneriaid i ddatblygu’r cwrs sgiliau gwell beiciwr hwn sy’n cael ei gyflwyno gan hyfforddwyr beicio modur profiadol a chymwysedig pwy a achredwyd gan Gofrestr DSA Hyfforddwyr Beicio Modur Ôl-brawf.
Caiff y cyrsiau undydd eu cynnal ar benwythnosau. Bydd y cyrsiau yn Sir Benfro’n cynnwys sesiwn fore yn y dosbarth sy’n digwydd ym Mhencadlys Gorsaf Tân ac Achub Hwlffordd; mae cyrsiau eraill yn y rhanbarth yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Bydd y prynhawn ar y ffyrdd, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd ledled y Siroedd i ateb anghenion hyfforddiant beicio modur y beiciwr unigol, ar sail llawlyfr beicwyr uwch yr Heddlu, Roadcraft.
Caiff beicwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs Bikesafe eu hannog i ddod â chopïau o’u ffurflenni asesu ar gyfer sesiwn y prynhawn. Y gymhareb hyfforddi fydd un Hyfforddwr i uchafswm o ddau feiciwr am yr ar elfen ffordd. Bydd hyfforddiant yn cael ei addasu i ddiwallu anghenion unigol y beicwyr.
Ar ddiwedd y diwrnod bydd cyfranogwyr yn cael tystysgrif gymhwysedd sy’n cael ei chydnabod gan amrywiaeth eang o gwmnïau yswiriant ac sy’n gallu gostwng premiwm.
Mae’r cwrs yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru ac mae am ddim i holl drigolion Sir Benfro a Sir Gâr.
Faint yw cost y cwrs?
Diolch i gyllid Grant Diogelwch Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru, mae’r cwrs hwn yn RHAD ac am ddim i drigolion Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Gallwch ymgeisio ar-lein a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi’n fuan er mwyn cadarnhau eich dyddiad dewisedig o fewn 5 diwrnod gwaith.
Ffurflen Archebu Hyfforddiant Beic Modur, Cwrs: Dragon Rider Cymru