Fe all modurwyr profiadol 65 oed a hŷn loywi eu sgiliau gyrru ar gwrs gloywi undydd am ddim.
Bwriadu Gyrru am Oes yw rhoi’r diweddaraf at ei gilydd ar bob agwedd ar yrru’n ddiogel i yrwyr profiadol sy’n gyrru’n rheolaidd.
Caiff y diwrnod ei rannu’n ddwy ran, y rhan gyntaf yn sesiwn theori yn y dosbarth cyn cael cinio ysgafn a sesiwn ymarferol gyda hyfforddwr gyrru cymeradwy.
Mae’r sesiwn theori’n cwmpasu pynciau fel:
Mae’r sesiwn ymarferol yn golygu rhannu cerbyd yr hyfforddwyr gydag ymgeisydd arall ac mae'n cynnwys agweddau ar yrru y maent am eu hadfywio, fel parcio cyfochrog neu gylchfannau a thechnegau cyffredinol gyrru’n ddiogelach.
“Mae’r ymateb a gawn yn dangos bod gyrwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs yn fwy ymwybodol a llygadog (hunan-hysbysu) ar amgylchedd y ffordd ac yn fwy parod i ddelio â pheryglon a gwahanol sefyllfaoedd gyrru” Kirstie - Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd
I gael rhagor o wybodaeth am y Cwrs Gyrru am Oes neu i gadw lle, cysylltwch â’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01437 775144 neu e-bostio road.safety@pembrokeshire.gov.uk.