Bydd ymgeiswyr yn mynychu cwrs Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol yr Asiantaeth Safonau Gyrru (CBT) ac yn cwblhau pum modiwl hyfforddiant gyda Chorff Hyfforddi Cymeradwy (ATB).
Bydd beicwyr sy’n cyrraedd y safon ofynnol yn cael tystysgrif DL196 sy’n dilysu eu trwydded amodol moped / beic modur ac yn caniatáu iddynt, yn amodol ar gyfyngiadau oed a thrwydded, fynd ar foped neu feic modur hyd at 125cc gyda phlatiau D, heb neb gyda nhw.
Mae’r dystysgrif hon yn ddilys am ddwy flynedd a bydd angen ei hadnewyddu os na cheir trwydded lawn yn rhinwedd llwyddo prawf theori ac ymarferol yn y categori hwn.