Ymarfer Grŵp
Cyfle i Ymuno â Dosbarth
Trwy'r flwyddyn bu Hamdden Sir Benfro yn datblygu amrywiaeth o ddosbarthiadau o fewn eu canolfannau sydd, gobeithio, yn cwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid.
Mae'r dosbarthiadau hyn yn amrywio o lefel yr un sy'n dechrau at lefel yr aelod dosbarth mwyaf ymroddgar.
Mae croeso i bawb ymhob un o'r dosbarthiadau ac wrth i chi gwrdd â'ch Hyfforddwr, fe fyddan nhw yn rhoi brîff i chi o'r hyn sydd i'w ddisgwyl.
Os ydych yn dewis cofrestru ar gyfer ein haelodaeth lawn neu aelodaeth gorfforaethol mae dosbarthiadau yn gynwysedig ac felly mae digon o gyfle i roi cynnig ar gymaint ag y dymunwch hyd nes y dowch o hyd i rywbeth yr ydych yn ei hoffi.
Mae gennym bolisi archebu o fewn Hamdden Sir Benfro lle gallwch chi archebu dosbarthiadau a gweithgareddau 6 diwrnod ymlaen llaw yn unig. Mae hyn yn rhoi cyfle teg i bawb i archebu. Gofynnwn i chi am alw i mewn neu ffonio'r Ganolfan drannoeth y dosbarth er mwyn sicrhau bod gennych le'r wythnos ganlynol.
Mae'r cyrsiau hyn yn benodol i ganolfannau ac felly gwiriwch eich canolfan leol er mwyn gweld beth sy'n digwydd.
Mae Hamdden Sir Benfro yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cyfleusterau ac yn methu aros i chi flasu rhai o'r ystod eang o ddosbarthiadau a gynigir gennym.