Mae Cynlluniau Cymdogion Da’n cael eu sefydlu ledled Sir Benfro ar hyn o bryd. Mae’r cynlluniau ar gael i gynnig cymorth ar yr adegau hynny y gall unrhyw un yn y gymuned fod ei angen.
Cynigir cymorth gan aelodau o’r gymuned a gall y tasgau amrywio o newid bwlb golau i ddarllen mesurydd, cynnig liff neu nôl neges o’r siop.
I gael gwybodaeth ar Gynlluniau Cymdogion Da, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551.