Diet
Bwyta diet cytbwys yw un o’r ffyrdd gorau i gynnal eich iechyd. Mae bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd yn gallu:
- lleihau’r risg o broblemau iechyd difrifol fel gordewdra, diabetes math 2, clefyd y galon, strôc a rhai cancrau
- lleihau’r risg o gancr y coluddyn oherwydd eich bod yn bwyta mwy o ffibr
- cyfrannu at ddiet iach a chytbwys, eich helpu i gadw pwysau iachus a chadw eich calon yn iach
Yn ogystal â digon o ffrwythau a llysiau, dylem hefyd fod yn bwyta:
- digon o fwyd gyda startsh, fel bara, reis, tatws a phasta
- peth cig, pysgod, wyau, ffa a ffynonellau eraill o brotein heblaw am gynnyrch llaeth
- peth llaeth a chynnyrch llaeth
- ychydig bach o fwyd a diodydd sy’n uchel mewn braster a/neu siwgr
- yfed 8-10 gwydryn 200ml o ddŵr y dydd (neu fwy wrth ymarfer neu mewn tywydd poeth)
Am ragor o wybodaeth:
Mae canllaw bwyta’n iach Sefydliad y Galon Prydain ar gael yn rhad ac am ddim:
Ffôn: 0870 600 6566 www.bhf.org.uk/publications/healthy-eating/eating-well
Newid Am Oes e-bost: newidamoes@cymru.gsi.gov.uk
www.newidamoes.org.uk
British Dietetic Association Ffôn: 0121 200 8080
www.bda.uk.com/foodfacts/FruitVeg