Os ydych wedi symud i fyw neu i weithio yn y Deyrnas Unedig ac yn dymuno gwella eich sgiliau Saesneg, yna mae dosbarthiadau ESOL yn addas ar eich cyfer.
Mae yna ddosbarthiadau ar gael i'ch helpu os oes gennych ychydig o sgiliau Saesneg yn unig, neu ddim o gwbl, yn ogystal â dosbarthiadau i'ch helpu os ydych yn dymuno gwella eich sgiliau Saesneg.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0808 100 3302
Mae'r dosbarthiadau i ddechreuwyr yn RHAD AC AM DDIM. Mae yna ffi ar gyfer y cyrsiau eraill.