Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau fel maint a math y digwyddiad, cymhareb dynion i fenywod ac ati.
Mae'r tabl canlynol yn dangos y canllawiau cyffredinol ar gyfer darparu cyfleusterau lles:
Ar gyfer digwyddiadau gydag amser agor y giatiau o 6 awr neu fwy |
Ar gyfer digwyddiadau gydag amser agor y giatiau o lai na 6 awr |
||
Benyw |
Gwryw |
Benyw |
Gwryw |
1 toiled ar gyfer pob 100 o fenywod. |
1 toiled ar gyfer pob 500 o ddynion, ynghyd ag 1 wrinal ar gyfer pob 150 o ddynion.
|
1 toiled ar gyfer pob 150 o fenywod. |
1 toiled ar gyfer pob 600 o ddynion, ynghyd ag 1 wrinal ar gyfer pob 175 o ddynion.
|
Lle bo hynny'n bosibl, lleolwch y toiledau ar wahanol bwyntiau o gwmpas y lleoliad yn hytrach na dim ond mewn dim ond un ardal i leihau problemau gorlenwi a chiwio.
Dylid darparu toiledau hefyd gyda chyfleusterau golchi dwylo, gan gynnwys dŵr poeth a sebon a thywelion, yn enwedig unrhyw gyfleusterau a ddarperir ar gyfer trinwyr bwyd.
Am ragor o fanylion am ddarpariaethau cyfleusterau glanweithdra, cyfeiriwch at BS 6465: Rhan 1 2006 neu'r Purple Guide