Pwrpas y fforwm hwn yw helpu i gefnogi Hyrwyddwyr Dementia yn eu rôl drwy rannu gwybodaeth ac arfer da, gan helpu i nodi anghenion hyfforddiant a darparu cyfleoedd dysgu.
Mae croeso i unrhyw y mae ei waith yn ymwneud â rhoi cymorth i bobl sy'n byw â Dementia ddod i'r fforwm.
Rydym yn cwrdd bob dau fis yn Archifau Sir Benfro, Prendergast, Hwlffordd, SA61 2PE. Amser: rhwng 1.30 a 4.00.
Cefndir
Cafodd Fforwm Hyrwyddwyr Dementia Sir Benfro ei sefydlu gan Bartneriaeth Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWDP) er mwyn rhoi cymorth i ddarparwyr gofal lleol fodloni gofynion adolygiad gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar ansawdd bywyd a gofal bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru o'r enw 'Lle i'w Alw'n Gartref?' Roedd yr adolygiad hwn yn cynnwys gofyniad bod yn 'rhaid i bob cartref gofal o leiaf un aelod o'r staff sy'n Hyrwyddwr Dementia.'
Cafodd y fforwm cyntaf ei gynnal ym mis Ebrill 2016 ac roedd 40 o Hyrwyddwyr Dementia a rheolwyr o gartrefi preswyl a nyrsio, ac asiantaethau anableddau dysgu a gofal yn y cartref yn bresennol.
Dyddiadau 2019:
23 Ionawr
28 Mawrth
16 Mai
24 Gorffennaf
19 Medi
27 Tachwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â scwdp@pembrokeshire.gov.uk
Disgrifiad Swydd Hyrwyddwr Dementia