Dewiswch yn Ofalus
I’ch helpu i benderfynu pa wasanaeth i’w ddefnyddio, os oes gennych unrhyw amheuaeth ffoniwch Galw Iechyd Cymruar 0845 46 47 www.nhsdirect.wales.nhs.uk
Meddyliwch yn ofalus cyn mynd yn syth i’r adran damweiniau ac achosion brys.
Dewiswch yn ofalus er mwyn sicrhau:
Byddwch yn barod drwy gael moddion hanfodol gartref mewn cwpwrdd sydd allan o gyrraedd plant (gweler gofalu amdanoch eich hun uchod).
Gyda phwy y dylwn i gysylltu:
ARGYFYNGAU |
Ffoniwch 999 a gofynnwch |
Pryd a pham? Mae’r gwasanaethau brys yn brysur iawn. Dim ond mewn sefyllfaoedd difrifol iawn y dylid eu defnyddio, neu lle mae bywyd mewn perygl. |
GOFAL BRYS |
Os oes arnoch angen gofal iechyd brys ar gyfer eich iechyd corfforol a meddyliol, ffoniwch eich Meddygfa neu Wasanaeth y Tu Allan i Oriau y Feddygfa. Os oes arnoch angen triniaeth na all aros cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47. Ar gyfer gofal deintyddol brys ffoniwch Linell Gymorth Galw Iechyd Cymru: 0845 46 47. |
Pryd a pham? Ni ddylech fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys oni bai fod gennych argyfwng difrifol. Os byddwch yn mynd yno, mae’n bosibl y byddwch yn gorfod aros am dipyn o amser gan fod achosion brys bob amser yn cael blaenoriaeth. |
GOFAL RHEOLAIDD |
Eich meddygfa leol yw’r lle cyntaf i fynd iddo ar gyfer unrhyw ofal iechyd. Gallwch drefnu apwyntiad i gael eich gweld cyn pen 2 ddiwrnod, ymhen mwy o amser neu o bosibl yr un diwrnod. Bydd eich meddyg teulu’n eich cyfeirio at yr ysbyty neu at wasanaethau eraill os oes arnoch angen gofal pellach. |
Pryd a pham? Gwnewch |
CEFNOGAETH |
Gall eich Fferyllydd lleol roi cyngor a chefnogaeth arbenigol i chi ynglŷn ag anhwylderau cyffredin ac unrhyw foddion sydd eu hangen arnoch heb drefnu apwyntiad. |
Pryd a pham? Ewch i’ch fferyllfa leol i gael cyngor a thriniaeth. |
CYNGOR |
Mae Galw Iechyd Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol ynglŷn ag iechyd a gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael 24 awr y diwrnod.
|
Pryd a pham? Cysylltwch â Galw Iechyd Cymru os ydych yn wael ac os oes gennych gwestiynau ynglŷn â’ch iechyd, neu iechyd eich teulu. Gallant helpu i ddod o hyd i |
GOFALU |
Cadwch becyn cymorth cyntaf a moddion syml gartref rhag ofn y bydd arnoch chi neu eich teulu eu hangen. Gallwch gael rhagor o gyngor gan Galw Iechyd Cymru. |
Pryd a Pham? Gofalu |
Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser
Cysylltiadau Defnyddiol
Dewis Cymru y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall