Coronafeirws (Covid-19)
Gofal Ysbyty Derbyn
Derbyn
Pa un a ydych yn cael eich derbyn i’r ysbyty drwy apwyntiad neu yn dilyn damwain neu achos brys, gall fod yn brofid brawychus, ond mae’r staff clinigol yno i sicrhau eich bod yn cael gofal da a’ch bod yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnoch.
Rhaid i staff yr ysbyty:
- barchu eich preifatrwydd, eich urddas a’ch daliadau crefyddol a diwylliannol
- parchu cyfrinachedd wrth ymdrin â’ch triniaeth
- gofalu amdanoch mewn amgylchedd glân a diogel
- darparu nyrs enwebedig sy’n gyfrifol am eich gofal.
Gall arhosiad hir mewn ysbyty effeithio ar y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Gweler Cymorth a chyngor ariannol.
ID: 2124, adolygwyd 09/09/2021