O dan y ddeddfwriaeth gall gweithredwr busnes bwyd apelio o fewn 21 diwrnod i dderbyn eu sgôr, ar sail un neu ddau o'r isod:
Rhaid i'r apeliadau gael eu gwneud ar y ffurflen a nodir yn y ddeddfwriaeth. Gellir ei chael trwy gysylltu â'r adran diogelwch bwyd neu gellir ei lawrlwytho isod.
Ar ôl ei derbyn mae gan yr Awdurdod Lleol 21 diwrnod i wneud penderfyniad ar yr apêl. Byddwch yn cael eich hysbysu yn ysgrifenedig o ganlyniad yr apêl.