Gwasanaeth Bartneriaeth Rhieni
CADY a rolau proffesiynol eraill
Mae gan bob ysgol (ac eithrio ysgolion arbennig) aelod dynodedig o staff i weithredu fel Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (neu CADY yn fyr).
Mae’r CADY mewn ysgol yn gyfrifol am gyflawni’r tasgau canlynol neu wneud yn siŵr bod y tasgau canlynol yn cael eu cyflawni:
- adnabod anghenion dysgu ychwanegol (ADY) disgybl a chydlynu’r broses o wneud Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY)
- sicrhau gwasanaethau perthnasol i gefnogi Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol y disgybl
- cadw cofnodion o benderfyniadau ynghylch ADY a Chynlluniau Datblygu Unigol (CDUiau)
- cynnal cyswllt â’r disgybl a rhieni/gofalwyr y disgybl a darparu gwybodaeth ar eu cyfer
- hybu cynhwysiant yn yr ysgol a mynediad at gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol
- cynghori, goruchwylio a hyfforddi staff yr ysgol mewn perthynas â dulliau addysgu gwahaniaethol sy’n briodol i ddisgyblion unigol ag ADY, a chyfrannu at hyfforddiant mewn swydd
- monitro effeithiolrwydd unrhyw Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol a wneir
- paratoi ac adolygu’r wybodaeth y mae’n ofynnol i gorff llywodraethu’r ysgol ei chyhoeddi
Mae CADY mewn coleg yn gyfrifol am gyflawni’r tasgau canlynol neu wneud yn siŵr bod y tasgau canlynol yn cael eu cyflawni:
- adnabod ADY sydd gan fyfyriwr a chydlynu’r broses o wneud Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) sy’n diwallu ADY sydd gan fyfyriwr
- sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol myfyriwr
- cadw cofnodion o benderfyniadau am ADY a chynlluniau addysgol (e.e. Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUiau) neu gynlluniau cyfatebol)
- cynnal cyswllt â’r myfyriwr a darparu gwybodaeth ar ei gyfer am ADY a CDU y myfyriwr a’r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol
- hybu’r broses o gynnwys myfyriwr ag ADY yn y SAB a mynediad at gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol y SAB
- paratoi ac adolygu’r wybodaeth y mae’n ofynnol i’r corff llywodraethu ei chyhoeddi
- cynghori, goruchwylio a hyfforddi staff mewn perthynas â dulliau addysgu gwahaniaethol sy’n briodol i fyfyrwyr unigol ag ADY
- monitro effeithiolrwydd unrhyw Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol a wneir
Mae Deddf ADY a’r Tribiwnlys Addysg yn rhagnodi bod rhaid i CADY mewn ysgol feddu ar y cymwysterau a’r profiad canlynol:
- bod yn athro/athrawes ysgol; neu
- fod yn gydlynydd anghenion addysgol arbennig yn yr ysgol yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Lleoliadau’r Blynyddoedd Cynnar Nas Cynhelir (meithrinfeydd preifat):
Rhaid i awdurdod lleol ddynodi swyddog i fod yn gyfrifol am gydlynu swyddogaethau’r awdurdod mewn perthynas â phlant o dan oedran ysgol gorfodol (5 oed) nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir.
Caiff swyddog a ddynodwyd dan yr adran hon ei adnabod fel Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar. DOLEN I’R BLYNYDDOEDD CYNNAR ADRAN 5
Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA)
Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol ddynodi swyddog i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r bwrdd iechyd mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Y Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg – SACDA – yw’r enw ar y rôl hon.
Y SACDA ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw Luke Jones - luke.jones@wales.nhs.uk
Rhaid i’r SACDA fod yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig neu’n weithiwr iechyd proffesiynol arall.
Bydd y SACDA yn gyfrifol am:
- weithredu’n strategol i hybu ymwybyddiaeth am ADY ar lefel weithredol o fewn y Bwrdd Iechyd Lleol a hybu ffyrdd newydd o weithio;
- rhannu arfer gorau gyda phob SACDA arall i helpu i sicrhau dulliau safonedig ledled Cymru;
- hybu dull strategol cyson o fewn y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer adnabod ac asesu ADY, paratoi ac adolygu CDUiau, cynllunio a chyflwyno DDdY a monitro effaith hynny ar blant a phobl ifanc;
- rheoli a monitro cydymffurfiaeth â dyletswyddau’r Bwrdd Iechyd Lleol dan y Ddeddf, a mesur llwyddiant ymyriadau’r Bwrdd Iechyd Lleol.