Beth yw'r cynllun?
Mae'r Cynllun Cymorth Prynu yn galluogi disgyblion yn Ysgolion yr Awdurdod Addysg Lleol, sy'n derbyn gwersi fel rhan o'u cwricwlwm, i brynu offerynnau heb orfod talu TAW. Ar ben y gostyngiadau sydd ar gael gan nifer o gyflenwyr, gall hyn olygu arbedion o bron i 40% ar nifer o offerynnau i fyfyrwyr.
Cymeradwyir y drefn hon gan Dollau Cartref a Thramor Ei Mawrhydi.
Beth yw'r dewis?
Gellir prynu offeryn oddi wrth unrhyw gyflenydd sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW. Gellir cael cyngor proffesiynol oddi wrth Diwtor Offerynnol teithiol y disgybl.
Sut Mae'r Cynllun yn Gweithio
Wedi derbyn ffurflen archebu wedi'i llenwi, a siec wedi'i gwneud yn daladwy i Gyngor Sir Penfro ar gyfer y pris Cymorth Prynu, bydd y Gwasanaeth Cerdd yn cyflwyno archeb swyddogol gan y Cyngor Sir i’r cyflenydd.
Yna bydd yr offeryn yn cael ei gyflenwi i ysgol y plentyn ac yn cael ei roi i’r disgybl. Yna daw’r offeryn yn eiddo'r disgybl.
Faint o amser mae'n cymryd?
Gan amlaf, bydd yr offeryn yn cael ei gyflenwi i'r ysgol o fewn wythnos wedi i'r Gwasanaeth Cerdd dderbyn eich archeb. O bryd i'w gilydd gall gymryd mwy o amser na hynny, ond yn aml mae'r offeryn yn cyrraedd yr ysgol y diwrnod wedyn.
Beth yw'r rheolau?
Er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau a orfodir gan Dollau Cartref a Thramor Ei Mawrhydi, rhaid gweithredu'r rheolau canlynol:
Beth mae angen ichi ei wneud
Rydym yn sicr y byddwch yn gwerthfawrogi'r manteision a gaiff disgyblion trwy'r cynllun hwn - os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â:
Gwasanaeth Cerdd Cyngor Sir Penfro
Adran Addysg
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
Ffôn: 01437 775202/775076
E-bost: music.service@pembrokeshire.gov.uk <mailto:music.service@pembrokeshire.gov.uk>