Yn ogystal â'r pleser a mwynhad y mae creu cerddoriaeth yn ei gynnig i blant ac oedolion, mae disgyblaeth chwarae offeryn cerddorol hefyd yn cynnig llu o fanteision:
Dangosodd arolygon rhyngwladol diweddar fod astudio cerddoriaeth nid yn unig yn gwella dysgu plentyn, ond ei fod hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig i'r safonau y mae plant yn eu cyflawni.
Mae cyflogwyr hefyd yn cydnabod fwyfwy yr effaith gadarnhaol a gaiff astudio cerddoriaeth ar allu eu gweithwyr i addasu eu hunain i ofynion amgylchedd sy'n newid yn gyson.
Dylai fod gan bob plentyn yr hawl i chwarae offeryn cerddorol, ac yng Ngwasanaeth Cerdd Sir Benfro rydym yn arbenigo mewn darparu ar gyfer anghenion cerddorol plant o'r adeg y dewisant eu hofferyn cyntaf i'r adeg pan symudant i goleg neu brifysgol neu ymlaen i yrfaoedd proffesiynol.
Trwy wersi unigol mewn ysgolion a'n dewis helaeth o gyfleoedd ensemble, ceisiwn feithrin y dalent y mae ein plant yn ei arddangos fel bod pob plentyn yn cyflawni ei botensial neu ei photensial llawn.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ar ddysgu sut i chwarae offeryn cerddorol mae croeso ichi gysylltu â ni.