Gwasanaethau Cymunedol
Gwasanaethau Cymunedol
Llyfrgelloedd Sir Benfro
Ymuno â’r llyfrgell
Drwy ymuno â’r llyfrgell cewch fenthyca llyfrau, DVDs a llyfrau llafar, neu ddefnyddio cyfrifiadur y llyfrgell. Gallwch ymuno’n bersonol yn eich llyfrgell leol (drwy ddod ag un eitem gyda chi sy’n dangos eich enw a’ch cyfeiriad presennol) neu ymuno ar-lein
Llyfrgelloedd
Mae yna lyfrgelloedd yn:
- Hwlffordd
- Crymych
- Abergwaun
- Aberdaugleddau
- Arberth
- Trefdraeth
- Neyland
- Penfro
- Doc Penfro
- Saundersfoot
- Tyddewi
- Dinbych-y-pysgod
Faniau Llyfrgell
Mae’r faniau llyfrgell symudol yn ymweld â chymunedau ledled y sir unwaith bob pedair wythnos. Mae lifft yn y fan i rai sydd â phroblemau symudedd.
Os nad ydych yn gallu cyrraedd llyfrgell, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i’r Gwasanaeth Cyfaill neu Deulu neu’r Gwasanaeth Llyfrgell yn y Cartref.
Cyfrifiaduron
Gallwch gael mynediad i’r rhyngrwyd am ddim am hyd at un awr y diwrnod ym mhob un o’n llyfrgelloedd.
Yn eich llyfrgell leol gallwch:
- Syrffio’r rhyngrwyd
- Anfon a derbyn negeseuon e-bost
- Defnyddio meddalwedd Microsoft Office (Word, PowerPoint, Excel)
- Sganio lluniau, delweddau a thestun
- Defnyddio meddalwedd arbennig ar gyfer rhai sydd â nam ar eu golwg
Catalog y Llyfrgell
Mae’r holl eitemau sy’n cael eu cadw yn Llyfrgelloedd Sir Benfro’n cael eu rhestru yng nghatalog y llyfrgell. Gallwch chwilio am eitem benodol ac edrych pa eitemau sydd ar gael ac ym mha lyfrgelloedd y maent yn cael eu cadw.
Os oes gennych gyfrif llyfrgell gallwch hefyd:
- Neilltuo eitemau ar-lein
- Adnewyddu eich benthyciadau ar-lein
- Lawrlwytho Llyfrau Llafar am ddim
- Lawrlwytho E-lyfrau am ddim