Mae’r sawl sy’n cyfeillio yn gallu eich helpu i gymdeithasu a chadw’n fywiog trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau, hobïau a dysgu sgiliau newydd gyda chi. Mae nifer o sefydliadau yn cynnig gwasanaethau cyfeillio yn Sir Benfro:
Mind Sir Benfro – yn darparu nifer o grwpiau a gweithgareddau i rai sy’n profi effeithiau unigrwydd gan gynnwys gofalwyr. Ffôn: 01437 769982
Age Cymru – yn cynnig gwasanaethau cyfeillio a phecynnau cymdeithasu i bobl hŷn, yn ogystal â grwpiau cyfeillgarwch a gweithgareddau. Ffôn: 01437 769972
Y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol – yn cynnig gwasanaeth cyfeillio i bobl hŷn. Ffôn: 01437 807336
Cymdeithas Clefyd Alzheimer – yn cynnig gwasanaeth cyfeillio i bobl gyda dementia. Ffôn: 01646 692329
Mae Gwirfoddoli’n Cyfri – yn cydlynu ystod eang o grwpiau cyfeillgarwch a rhwydwaith cyfeillio. Ffôn: 01437 769422
Mae Cysylltiad â’r Henoed De Cymru yn helpu i leddfu unigrwydd bobl hŷn dros 75 oed sydd fel rheol yn gaeth i’w cartrefi ac yn byw ar eu pen eu hun. Mae’n bosibl i weithwyr iechyd proffesiynol a Gwasanaethau Cymdeithasol atgyfeirio rhywun, neu mae hunan-atgyfeirio hefyd yn bosibl. Bydd gyrwyr gwirfoddol yn casglu pobl hŷn o’u cartrefi unwaith y mis i ymweld â gwirfoddolwr sy’n darparu te prynhawn. Mae’r grwpiau yn cynnwys 6 o bobl hŷn i bob 3 gwirfoddolwr ac mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.
Ffôn: 01792 862702
Marion.Lowther@contact-the-elderly.org.uk
www.contact-the-elderly.org