Hoffem eich cyflwyno i Penfro, sgwrsfot Sir Benfro
Yw’r wybodaeth a roddaf i Penfro’n ddiogel?
Rydym wedi creu Hysbysiad Preifatrwydd i wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw rheolaeth ar y modd y cesglir ac y cedwir eich gwybodaeth.
Felly pwy yw Penfro?
Rhyw fath o gynorthwyydd rhithwir y gallwch gyfathrebu ag ef drwy ein gwefan a’n gwasanaeth negeseuon Facebook Messenger yw Penfro. Gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, mae Penfro’n dysgu o’r cwestiynau y bydd pobl yn eu gofyn amlaf er mwyn datblygu ymatebion gwell a chyflymach.
Rhesymau dros roi cynnig ar Penfro
Byddwch yn amyneddgar â Penfro
Mae Penfro’n dysgu drwy’r amser, ac mae wedi’i raglenni â pheth gwybodaeth allweddol i ddechrau, ond y mwyaf y byddwch yn defnyddio Penfro y mwyaf o gyfleoedd sydd gan Penfro i ddysgu ac ateb eich cwestiynau’n well.
Er mwyn helpu Penfro, meddyliwch am sut y byddwch yn geirio’ch cwestiwn. Ceisiwch ddefnyddio geiriau allweddol yn eich cwestiwn pan allwch chi, er mwyn helpu Penfro i wneud chwiliad newydd.
Os na fydd Penfro’n gallu ateb eich cwestiwn, caiff ei basio’n uniongyrchol i Dîm ein Canolfan Gwasanaeth Cwsmer.
Bydd ein gwasanaeth Hysbysu yn sicrhau na fyddwch yn methu taliad, casgliad, na’r newyddion diweddaraf byth eto!
Hysbysiad | E-bost | Testun (SMS) |
Rhybuddion Cau Ysgolion | ||
e-Filiau'r Dreth Gyngor | ||
Statws Pont Cleddau | ||
Datganiadau i'r Wasg | ||
Negeseuon Atgoffa Gwastraff ac Ailgylchu | ||
Negeseuon Atgoffa Gwastraff Gardd | ||
Rhestr Tai Cartrefi Dewisedig | ||
Eiddo Ar Werth/I’w Osod | ||
Negeseuon Atgoffa’r Dreth Gyngor | ||
Rhybuddion Balans Isel ‘Arlwyo heb Arian’ |
I dderbyn hysbysiadau e-bost a neges destun, cwblhewch y camau isod:
Peidiwch ag anghofio gwirio eich rhif ffôn ac e-bost:-
* Ychwanegwch rif eich ffôn poced i ddeffro ein gwasanaeth hysbysu SMS.
Pwy fydd yn danfon yr e-bost?
Bydd yr e-bost yn cael ei ddanfon gan noreply@pembrokeshire.gov.uk felly ychwanegwch y cyfeiriad hwn i’ch rhestr o gyfeiriadau diogel
Oes modd i mi ymateb i’r e-bost?
Na, ni fyddwn yn derbyn ymatebion sy'n cael eu hanfon i’r cyfeiriad yma. Os byddwch angen cysylltu â ni, anfonwch neges i: enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Oes modd i mi beidio â derbyn yr hysbysiadau?
Oes. Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif a chlicio ar ‘Fy Ngwasanaethau’. Yna dewiswch ‘Fy Hysbysiadau’, gan ddiffodd yr hysbysiadau nad ydych am eu derbyn.
Oes rhaid talu am y gwasanaeth neges destun?
Na, mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i’n cwsmeriaid dderbyn negeseuon, er bydd y neges gychwynnol a ddanfonwch at ‘Hysbysu’ yn cael ei godi ar gyfradd safonol eich rhwydwaith.
Pwy fydd yn danfon yr e-bost?
Bydd yr e-bost yn cael ei ddanfon gan PembsCC.
Oes modd i mi ymateb i'r e-bost?
Na, ni fyddwn yn derbyn ymatebion sy'n cael eu hanfon i PembsCC.
Fyddwch chi'n defnyddio fy manylion ar gyfer unrhyw ddibenion eraill?
Na! Byddwn ond yn defnyddio’ch cyfeiriad e-bost ac/neu eich rhif ffôn symudol i anfon yr hysbysiadau yr ydych wedi’u dewis. Ni fyddwn byth yn rhoi eich manylion i eraill.
Pam fy mod i’n derbyn negeseuon testun ynglŷn â’m hadroddiad atgyweiriadau tai?
Fel rhan o’n gwelliannau i’r gwasanaeth, rydym am wneud yn siŵr ein bod ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi bob cam o’r ffordd. Drwy ddanfon neges destun gallwn roi gwybod i chi
Byddwn hefyd yn danfon neges ddiwrnod cyn eich apwyntiad er mwyn eich atgoffa y byddwn ni’n galw, a ffurflen adborth unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau fel y gallwch ddweud wrthym sut y gwnaethom
Sut mae defnyddio negeseuon testun i dderbyn gwybodaeth am fy nghasgliadau ysbwriel?
Tecstiwch BIN DAY i 07860064551 er mwyn derbyn gwybodaeth ynglŷn â’ch casgliad nesaf (byddwch yn derbyn dyddiad y casgliad nesaf yn ogystal â’r hyn sy’n cael ei gasglu)
Danfonwch CHRISTMAS WASTE COLLECTIONS i 07860064551 er mwyn gwirio os byddwch chi’n cael eich effeithio gan newidiadau i gasgliadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd (byddwch yn derbyn rhestr o newidiadau i ddyddiadau’r casgliadau, ond ni fydd rhestr o’r eitemau a gesglir)
Mae ein gwefan bellach yn gofyn eich bod wedi galluogi TLS yn eich porwr gwe. Os ydych yn cael problemau gyda’r wefan efallai bod angen i chi alluogi TLS.
Y ffordd orau o sicrhau galluogi TLS yw diweddaru eich porwr. Ar borwyr cyfredol yn gyffredinol mae’r gosodiad hwn wedi’i alluogi’n ddiofyn. Os ydych yn defnyddio Windows XP, bydd angen porwr yn lle Internet Explorer i ddefnyddio ein gwefan.
Os nad ydych yn sicr pa borwr sydd gennych, gallwch wirio ac archwilio gwahanol ddewisiadau yn https://whatbrowser.org/.
I weld a yw hyn wedi’i alluogi ar Internet Explorer:
· Dewiswch ‘Settings’, sy’n cael ei gynrychioli gyda chocsyn ar y dde uchaf.
· Dewiswch y tab ‘Advanced’.
· Rholiwch i lawr y rhestr ac fe welwch pa fersiynau o SSL a TLS sydd wedi’u galluogi.
RHYBUDD YMWADIAD
Mae Cyngor Sir Penfro’n ymdrechu i gynnal cywirdeb a dibynadwyedd y wefan hon. Fodd bynnag, nid yw’n gwneud unrhyw sylw ynghylch cywirdeb, dibynadwyedd, cyflawnder nac addasrwydd y wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau a graffeg gysylltiedig sydd ar y wefan hon at unrhyw ddiben. Ni fydd i Gyngor Sir Penfro, ei gyflogeion, ei gyflenwyr a phartïon eraill sy’n ymwneud â chreu a chyflwyno’r wefan hon fod yn atebol am unrhyw niwed, colled neu anghyfleuster uniongyrchol, anuniongyrchol, atodol, arbennig na chanlyniadol a achosir trwy ddibynnu ar gynnwys y wefan hon neu sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan hon.
TELERAU AC AMODAU DEFNYDDIO
Mae Cyngor Sir Penfro’n caniatáu mynediad at y wefan hon a’i defnyddio’n amodol ar y telerau ac amodau canlynol:
Ymwelwyr â'n gwefan
Pan fyddwch chi'n mynd at www.pembrokeshire.gov.uk byddwn yn casglu gwybodaeth safonol cofnodydd y rhyngrwyd a manylion ynghylch eich patrymau ymddygiad pan ydych yn defnyddio ein gwefan. Byddwn yn gwneud hyn er mwyn cael gwybod pethau fel faint o ymwelwyr sydd wedi bwrw golwg ar amryw rannau o'n safle. Byddwn yn casglu'r wybodaeth hon mewn modd sy'n golygu na fyddwch chi'n cael eich enwi. Ni fyddwn yn ceisio cael gwybod pwy yw'r bobl hynny sy'n ymweld â'n safle. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata y byddwn yn eu casglu oddi ar y safle hwn, ag unrhyw wybodaeth sy'n enwi unigolion o unrhyw ffynhonnell. Os byddwn ni'n dymuno casglu gwybodaeth bersonol-adnabyddadwy trwy gyfrwng ein gwefan, yna byddwn yn rhoi gwybod ichi am hyn. Byddwn yn egluro hynny'n bendant pan fyddwn ni'n casglu gwybodaeth bersonol a byddwn hefyd yn egluro beth y bwriadwn ei wneud â hi.
Cyngor Sir Penfro yn defnyddio cwcis
Ffeiliau testun bychan yw cwcis sy'n cael eu dodi ar y teclyn y byddwn yn ei ddefnyddio i gyrchu'r wefan. Maent yn cael eu defnyddio gan lawer o bobl er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal ag er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer perchnogion y safle.
Fe allwch ddileu ac atal pob cwci oddi ar ein safleoedd ni, ond bydd hyn yn golygu na fydd rhannau o'r safle yn gweithio.
Cwcis Angenrheidiol
1. Mae'r tabl isod yn esbonio'r cwcis rydym yn defnyddio a phaham
Cwci | Enw | Pwrpas |
---|---|---|
ASP.NET_SessionId | Mae'r cwci hwn yn hanfodol ac fe gaiff ei ddileu pan fyddwch chi'n cau eich porydd. | |
COMS System Rheoli Cynnwys |
COMS_COOKIE |
Fe’i defnyddir i gynorthwyo’r cyngor i gyfrif nifer yr ymwelwyr â phob rhan o’r safle ac i weld a yw pobl yn dychwelyd i’r safle ai peidio. Fe’i defnyddir i gynorthwyo i gynllunio’r safle ac i ganolbwyntio o ddifrif ar y meysydd sy’n boblogaidd. |
COMS_POLL Gwerthoedd: "PollID" - cyfeir-rifau'r polau piniwn y gwnaethoch chi bleidleisio ynddynt "Haskeys" - baner sy'n dangos bod y cwmni yn ddilys. Nid yw'n cofnodi sut y byddwch yn pleidleisio ar unrhyw fater |
Fe'i defnyddir i gofnodi eich bod chi, neu rywun sy'n defnyddio eich teclyn, wedi pleidleisio mewn pôl piniwn ar-lein ar y wefan. Yna caiff ei wirio pan fyddwch chi'n cyrchu’r wefan ac ni fydd y safle'n cynnig y cyfle ichi bleidleisio eto. Mae'r cwci hwn yn cael ei ddileu ar ôl 30 diwrnod. Nid yw'n cofnodi sut y byddwch yn pleidleisio ar unrhyw fater. |
|
COOKIEASSENT | Er mwyn cofnodi os yw defnyddiwr wedi rhoi’r hawl i roi cwcis ar waith trwy wefan Cyngor Sir Penfro. | |
pcc_styleContrast pcc_styleSize |
Defnyddir rhain i newid cyferbyniad i gyferbyiad uchel neu gyferbyniad tawelach; neu maint y testyn am resymau hygyrchedd. | |
Google Analytics | _utma _utmb _utmc _utmz |
Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth ynghylch sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i’n cynorthwyo i wella’r safle. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf anhysbys, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o ble mae’r ymwelwyr wedi dod at y safle hwn a’r tudalennau y gwnaethant fwrw golwg arnynt. |
Tribal: System Gwybodaeth Teulu | PESearchCookie | Defnyddir i storio Dynodyddion y Darparwyr sy’n cael eu dychwelyd yn sgil chwiliadau ac fe gânt dewis ar gyfer eu cynnwys mewn Basged / Argraffu. Ni phennir unrhyw derfyn. |
PECompareCookie | Defnyddir i storio Dynodyddion y Darparwyr at ddibenion ymarferoldeb cymharu. Ni phennir unrhyw derfyn. | |
PELanguageCookie | Mae'n storio'r iaith a ddewisir gan y defnyddiwr. Mae'n terfynu ar ôl 12 awr. | |
PETestCookie | Defnyddir i roi prawf ar a yw'r cwcis wedi eu galluogi yn y porydd. Cânt eu creu a'u dileu ar unwaith. | |
WebOpac System Llyfgelloedd |
CardId (Dynodydd Cerdyn) Pin (Rhif Adnabod) Name (Enw) Institution (Sefydliad) SITE (SAFLE) |
Defnyddir y cwci hwn i fewngofnodi'n awtomatig pan fydd y sesiwn WebOpac yn dechrau. |
Arolwg ar fodlonrwydd cwsmeriaid | Socitm_include_me[x] Socitm_exclude_me[x] Socitm_include_alt[x] |
Defnyddir y cwcis hyn i sicrhau na fydd cwsmeriaid yn cael eu gwahodd i gymryd rhan sawl gwaith yn yr un arolwg. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddata sy'n bersonol-adnabyddadwy. Os byddwch chi'n gwrthod y cwcis hyn, ni fyddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. |
Mae'r rhan fwyaf o boryddion Gwe yn gadael i'r cwcis gael eu rheoli i ryw raddau trwy osodiadau'r porydd. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am cwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi cael eu gosod a sut i'w rheoli a'u dileu, ewch at www.allaboutcookies.org (agor ffenestr newydd)
Os ydych chi'n dewis peidio â chael eich llwybro gan Google Analytics ledled yr holl wefannau ewch at http://tools.google.com/dlpage/gaoptout (agor ffenestr newydd)
Cwcis YouTube
Byddwn yn mewnblannu fideos oddi ar ein sianel YouTube swyddogol, gan ddefnyddio modd uwch-breifatrwydd YouTube. Fe all y modd hwn osod cwcis ar y teclyn y byddwch yn ei ddefnyddio i gyrchu ein gwefannau unwaith y byddwch chi'n clicio ar chwaraewr fideos YouTube. Fodd bynnag ni fydd YouTube yn storio gwybodaeth cwcis sy'n bersonol-adnabyddadwy, ar gyfer chwarae'n ôl fideos gan ddefnyddio'r modd uwch-breifatrwydd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch at dudalen gwybodaeth mewnblannu fideos YouTube
2. Pobl sy'n ffonio ein Canolfan Galw
Pan fyddwch chi'n ffonio Canolfan Gyswllt Cyngor Sir Penfro byddwn yn gofyn ichi roi gwybodaeth hanfodol inni. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth yn fwy effeithlon ac effeithiol.
Sylwer: bydd y galwadau i'n Canolfan Gyswllt yn cael eu recordio ar gyfer dibenion hyfforddiant.
3. Dolenni â gwefannau eraill
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys y dolenni, o fewn y safle hwn, â gwefannau eraill. Rydym yn eich cynghori i ddarllen y datganiadau preifatrwydd sydd ar y gwefannau eraill y byddwch chi'n bwrw golwg arnynt.
4. Newidiadau yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd. Cafodd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Medi 2018.