Hoffem eich cyflwyno i Penfro, sgwrsfot Sir Benfro
Yw’r wybodaeth a roddaf i Penfro’n ddiogel?
Rydym wedi creu Hysbysiad Preifatrwydd i wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw rheolaeth ar y modd y cesglir ac y cedwir eich gwybodaeth.
Felly pwy yw Penfro?
Rhyw fath o gynorthwyydd rhithwir y gallwch gyfathrebu ag ef drwy ein gwefan a’n gwasanaeth negeseuon Facebook Messenger yw Penfro. Gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, mae Penfro’n dysgu o’r cwestiynau y bydd pobl yn eu gofyn amlaf er mwyn datblygu ymatebion gwell a chyflymach.
Rhesymau dros roi cynnig ar Penfro
Byddwch yn amyneddgar â Penfro
Mae Penfro’n dysgu drwy’r amser, ac mae wedi’i raglenni â pheth gwybodaeth allweddol i ddechrau, ond y mwyaf y byddwch yn defnyddio Penfro y mwyaf o gyfleoedd sydd gan Penfro i ddysgu ac ateb eich cwestiynau’n well.
Er mwyn helpu Penfro, meddyliwch am sut y byddwch yn geirio’ch cwestiwn. Ceisiwch ddefnyddio geiriau allweddol yn eich cwestiwn pan allwch chi, er mwyn helpu Penfro i wneud chwiliad newydd.
Os na fydd Penfro’n gallu ateb eich cwestiwn, caiff ei basio’n uniongyrchol i Dîm ein Canolfan Gwasanaeth Cwsmer.