Gwasanaethau i Blant
Timau
Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a sut i gael i gysylltiad â ni.
Ein nod yw darparu cefnogaeth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn angen. Rydym ni yma i helpu a, lle bynnag y bo'n bosibl, rydym yn ceisio darparu gwasanaethau i alluogi plant a phobl ifanc i aros gyda'u teuluoedd. Y timau yw:
Tîm Asesu Gofal Plant - Mae'r tîm hwn yn delio ag atgyfeiriadau ac mae'n cynnal asesiadau ac ymchwiliadau amddiffyn plant.
Ffôn: 01437 764551
Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP
E-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Tîm Plant mewn Angen - Mae'r tîm hwn yn gweithio gyda phlant mewn angen a phlant sydd angen cael eu hamddiffyn, plant sy'n destun achos llys, a'r plant a'r bobl ifanc hynny sy'n derbyn gofal a heb gynllun parhad - fel arfer, plant a phobl ifanc sydd heb ddod i dderbyn gofal tan yn ddiweddar.
Ffôn: 01437 764551
Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, Stryd Argyle, Doc Penfro SA72 6HL
E-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Tîm Rhianta Corfforaethol - Mae'r tîm yma'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal ac sydd â chynllun parhad a phobl ifanc sy'n gadael gofal.
Ffôn: 01437 764551
Neuadd Sirol Aberdaugleddau, Hamilton Terrace, Aberdaugleddau SA73 3JW
E-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Tîm Ymyriadau Teuluol - Mae'r tîm hwn yn darparu adnodd cefnogaeth deuluol i blant mewn angen a phlant sydd angen cael eu hamddiffyn ac mae'n cynnal adnoddau cefnogi eraill megis Canolfan ar gyfer Cyswllt dan Oruchwyliaeth.
Ffôn: 01437 764551
Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, Stryd Argyle, Doc Penfro SA72 6HL
E-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd - Mae'r tîm hwn yn darparu gwasanaeth cymorth dwys i deuluoedd lle mae'r rhieni'n camddefnyddio sylweddau a hynny'n effeithio ar eu gallu i fagu'r plant ac ar berthynas o fewn y teulu.
Ffôn: 01437 764551
Canolfan Dechrau'n Deg, Pennar, Penfro SA62 6SW
E-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Tîm o amgylch y Teulu - Mae'r tîm yma'n darparu cymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd
Ffôn: 01437 764551
Canolfan Dechrau'n Deg, Pennar, Penfro SA72 6SW
E-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Tîm Lleoliadau Teuluol - Mae'r tîm hwn yn recriwtio ac yn cefnogi gofalwyr maeth, ac yn dod o hyd i leoliadau priodol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal
Ffôn: 01437 764551
The Elms, Golden Hill, Penfro SA71 4QB
E-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Tîm Plant ag Anableddau - Mae'r tîm yma'n darparu gwasanaeth asesu a rheoli gofal ar gyfer plant ag anableddau
Ffôn: 01437 764551
Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP
E-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Tŷ Holly - Uned Seibiant Byr ar gyfer plant ag anableddau
Cysylltiadau Defnyddiol
Dewis Cymru y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall