Os byddwch yn dal i wneud rhywfaint o ymarfer corff, rydych hefyd yn fwy tebygol o gadw'ch annibyniaeth am fwy o amser. Gall ymarfer corff eich gwneud yn gryfach a'ch helpu i deimlo'n fwy hyderus ac yn fwy awyddus i wneud pethau.
Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, beth am ymweld â'ch canolfan hamdden leol er mwyn manteisio ar gynllun nofio am ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru i bobl 60+ a chyfarfod y staff proffesiynol, cyfeillgar a fydd yn fodlon trafod eich gofynion neu eich pryderon a chynnig cyngor priodol.
Cofiwch, cyn dechrau unrhyw ymarfer corff newydd, mae'n syniad da cael gair â'ch meddyg teulu.