Gwaith mewn Gofal Cymdeithasol
Byw a Gweithio yn Sir Benfro
Mae Sir Benfro yn sir unigryw a phrydferth sydd wedi’i lleoli ar arfordir de orllewin Cymru. Heblaw am y 124,000 o bobl sy’n byw ac yn gweithio yma rydym hefyd yn croesawu oddeutu 2.3 miliwn o ymwelwyr sy’n aros bob blwyddyn. Yma yng Nghyngor Sir Penfro rydym yn gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da a dwyn gwerth i’n cwsmeriaid.
Ein nod yw sicrhau bod Sir Benfro yn llewyrchus a’i bod yn dal i fod yn ffyniannus ac yn arbennig.
Mae ein timau'n canolbwyntio ar geisio gwelliant parhaus yn ansawdd y gofal a’r cymorth ac ar amddiffyn y plant, pobl ifanc ac oedolion mwyaf agored i niwed yn ein sir ac rydym yn falch o’n cyflawniadau.
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein pobl yn cael eu cefnogi a’u datblygu’n llawn i gyflawni eu cyfrifoldebau, gan gyflawni’r deilliannau gorau ar gyfer y rhai yn ein gofal.
Cawn ein harwain yn ein gwaith gan ddeddfwriaeth ar lefel y DU a Chymru, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Deddf ddiweddar yng Nghymru ar gyfer gwella llesiant pobl a gofalwyr y mae arnynt angen gofal a chymorth yw hon, a daeth i rym ar 6 Ebrill 2016.
Mae’n ofynnol i ni drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal a sicrhau bod pobl yn cael cynnig gwasanaethau yn Gymraeg i’r un safon ag yn Saesneg heb orfod gofyn amdanynt – y ‘Cynnig Gweithredol’ yw’r enw ar hyn. Mae staff yn cael cymorth i ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Rhesymau dros ymuno â ni:
- Gall eich cymudiad beunyddiol ddod yn bleser gyda ffyrdd tawel, profiad gyrru golygfaol ac ychydig iawn o dagfeydd traffig
- Cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith – beth am ymweld â’r traeth ar eich ffordd adref?
- Mae tai’n dal i fod yn weddol fforddiadwy
- Mae gennym gysylltedd gwych
- Un o’r cyfraddau troseddu isaf yn y DU – rydym yn cael ein cydnabod yn un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio
- Mae gennym ysgolion Cymraeg a Saesneg a Choleg Addysg Bellach
Mae hyn oll ynghyd â gweithio hyblyg, gwyliau a buddion hael (gan gynnwys darpariaeth adleoli) yn helpu i greu pecyn cyflawn.
Hefyd, mae mwy i Sir Benfro na’r golygfeydd syfrdanol a’r llwybr arfordirol byd-enwog: mae gennym sîn gerddorol a chelfyddydol fywiog, digonedd o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar y dŵr a’r tir, efallai archwilio pentrefi cyfareddol a threfi diddorol neu ddarganfod hanes a diwylliant rhyfeddol yr ardal.
Sir Benfro yn creu penawdau!
'Dinbych-y-pysgod wedi'i enwi fel yr ail le gorau i fyw yn y DU ar ôl COVID-19!'- WalesOnline
'Gadewch i ni symud i arfordir gogledd Sir Benfro: lle i ddianc rhag pryderon y bydysawd' - The Guardian
'Tyddewi, Sir Benfro – Lleoedd Gorau i Fyw yn y DU 2019. Gyda naws gyfeillgar a chydwybod gymdeithasol groesawgar, mae'r fan boblogaidd fach hon yn safle perffaith ar gyfer mwynhau gogoneddau gorllewin gwyllt Cymru'- The Times
'Arberth, Sir Benfro – Lleoedd Gorau i Fyw yn y DU 2020. Mae'r cyfuniad o groeso cynnes a stryd fawr o safon uchel yn golygu mai’r dref farchnad hon yn Sir Benfro yw ein lleoliad buddugol yng Nghymru' - The Times