Ystyr gwenwyn bwyd yw tostrwydd oherwydd un ai bacteria, eu tocsinau neu barasitiaid sydd mewn bwyd neu ddŵr. Mae'r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys dolur rhydd, chwydu a bola tost.
Os bydd meddygon teulu yn gwybod bod amheuaeth neu gadarnhad o wenwyn bwyd, eu dyletswydd gyfreithiol yw rhoi gwybod i'n Hadran ni. Pan gawn ein hysbysu o wenwyn bwyd, boed hynny gan feddyg neu gan y sawl sy'n dioddef, byddwn yn rhoi cyfweliad i'r sawl sy'n dioddef er mwyn ceisio darganfod achos y tostrwydd, canfod unrhyw rai eraill a allai fod mewn perygl o ddal y tostrwydd, fel aelodau o'r teulu, neu gyda phlant bach a allai fynychu meithrinfeydd, unrhyw blant eraill a allai fod wedi bod yn agored i ddal y tostrwydd, a chanfod unrhyw bobl sy'n trin bwyd a allai fod yn dioddef gan wenwyn bwyd er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael dod i'r gwaith hyd nes byddant wedi gwella ac wedi bod heb symptomau am y cyfnod gofynnol (48 o oriau gyda'r rhan fwyaf o fathau o wenwyn bwyd). Mae'n debygol y bydd rhaid i swyddogion o'r tîm gysylltu gyda chyflogwyr mewn amgylchiadau fel hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'u hymrwymiadau yn hyn o beth.
Bydd yr ymchwiliad yn ceisio darganfod yr hyn yr oeddent wedi ei fwyta, pryd a lle y gwnaethant ei fwyta. Mae llawer o bobl yn tybio eu bod yn dost oherwydd y peth diwethaf y maent wedi ei fwyta. Y gwir yw y gallai fod yn rhywbeth wedi ei fwyta llawer o ddyddiau cyn hynny. Os ydych yn drwgdybio eich bod dioddef gan wenwyn bwyd, byddwch gystal â chysylltu â'r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd cyn gynted ag y bo modd.
O bryd i'w gilydd gallai'r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd fod wrthi'n ymchwilio i achosion o wenwyn bwyd cysylltiedig â mangreoedd neu ddigwyddiadau yn Sir Benfro. Y rheswm dros ymchwilio i achosion, fel uchod, yw canfod ffynhonnell ac achos yr achos, atal y tostrwydd rhag ymledu rhagor, darganfod pwy sydd wedi dioddef neu bwy sy'n agored eto i ddal y tostrwydd, a sicrhau nad yw dioddefwyr sy'n trin bwyd yn cael dod i'r gwaith er mwyn atal rhagor o berygl o ymledu rhagor.
Cynhelir ymchwiliadau i achosion o wenwyn bwyd trwy gynnull tîm amlddisgyblaethol o Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a gweithwyr eraill yr Awdurdod Lleol, ynghyd â gweithwyr proffesiynol meddygol, fel Ymgynghorwyr Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Microbiolegwyr, Epidemiolegwyr, ac ati.
Os oes modd cysylltu achosion gyda mangreoedd neu bobl sydd wedi rhoi bwyd ar y farchnad nad yw'n ddiogel ac wedi peri achos, gallai'r Awdurdod ddilyn camau ffurfiol yn erbyn y busnesau neu'r bobl hynny, e.e. trwy eu herlyn.