Gwresogi eich Cartref
Cadw’n ddiogel wrth gadw’n gynnes
Er eich diogelwch eich hun mae angen i chi wneud yn siŵr bod eich system wresogi’n gweithio’n iawn. Gall systemau gwresogi fod yn beryglus iawn os nad ydynt yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol.
- Trefnwch fod eich cyfarpar coginio a gwresogi nwy/glo yn cael eu harchwilio’n flynyddol gan rywun sydd wedi ei gofrestru i archwilio diogelwch cyfarpar nwy neu gan beiriannydd HETAS
- Gosodwch larwm carbon monocsid sydd wedi cael ei gymeradwyo
- Peidiwch â chysgu mewn ystafell wely sydd â gwresogydd paraffin neu dân nwy heb ffliw.