Mae ffioedd y cyrsiau wedi eu cymorthdalu ac maent yn berthnasol i ddysgwyr sy'n talu dros eu hunain yn unig. Dylai cyflogwyr neu brosiectau noddedig yr UE gysylltu â'r Cydlynydd Dysgu Gydol Oes yn y ganolfan ddysgu gymunedol, a fydd yn cytuno'r ffioedd priodol.
Ffi gyfan - I'w thalu gan y rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer y gostyngiadau sydd wedi eu rhestru isod
Ffi ratach - yn berthnasol gyda rhai cyrsiau ar gyfer: Pobl 65 oed a hŷn neu'r rhai dan 65, os ydynt yn derbyn pensiwn gwladol
Ffi ratach lai - yn berthnasol gyda rhai cyrsiau ar gyfer:
Mae'n rhaid cyflwyno tystiolaeth o'r hawl i ffioedd rhatach un ai'r amser y bydd rhywun yn talu ffi'r cwrs neu yn ystod eich dosbarth cyntaf. Os methir gwneud hyn, bydd rhaid talu'r ffi gyfan.
A oes costau ychwanegol?
Disgwylir i fyfyrwyr ddarparu eu gwerslyfrau, deunydd ysgrifennu ac unrhyw ddeunyddiau eraill sydd eu hangen eu hunain.
Lle bynnag y mae defnyddiau wedi eu darparu, mae'n rhaid i'r myfyrwyr dalu am y rhain. Gyda rhai pynciau, bydd rhaid i fyfyrwyr dalu am ddefnyddiau wedi'u llungopïo y maent yn eu cadw. Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol hefyd am dalu ffioedd arholiadau ac achrediad. Fe gewch wybod gan eich tiwtor am y materion hyn.
Ariannol Hyfyw - Gall y ffioedd a gyhoeddir ar gyfer cyrsiau gynyddu os na chyrhaeddir yr isafswm ar gyfer cofrestru bob tymor. Os nad yw dosbarth yn ariannol hyfyw, fe gewch y dewis i dalu ffi ychwanegol er mwyn i’r dosbarth parhau.
A yw'r taliadau yn anodd i chi?
Os yw unrhyw un yn cael anhawster talu'r ffi , mae croeso i chi drafod hyn gyda'r staff yn y ganolfan briodol. Bydd eich ymholiad yn cael ei drin yn hollol gyfrinachol. Gellir gwneud trefniadau i dalu ffioedd cwrs mewn rhandaliadau neu drwy archeb sefydlog dros gyfnod y cwrs.
Polisi ad-daliadau
Dyma bolisi Sir Benfro yn Dysgu ar gyfer ad-dalu ffioedd cyrsiau:
Os bydd Sir Benfro yn Dysgu yn canslo cwrs cyn iddo gychwyn, rhoddir ad-daliad llawn.
Bydd rhaid talu ffi weinyddol o £10 os bydd y cwsmer yn canslo cyn dechrau'r cwrs. Ni fydd ad-daliad wedi dechrau'r cwrs.
Trefn apelio: Mewn amgylchiadau eithriadol bydd modd apelio am ad-daliadau i Gydlynydd Dysgu Gydol Oes yr Ardal. Codir lleiafswm tâl o £25 am gofrestru a gweinyddu.