Ar ôl ichi gofrestru ar gyfer cwrs byddwch yn cael cyfeir-rif sy'n gadael ichi dalu ar-lein
Neu
Dodwch fanylion eich cerdyn debyd/credyd ar y ffurflen gofrestru copi caled.
Yn ogystal â chostau/ffioedd y cwrs, fe ddisgwylir i'r myfyrwyr ddarparu eu gwerslyfrau a'u deunydd ysgrifennu eu hunain, yn ogystal ag unrhyw ddeunyddiau ar gyfer dosbarthiadau celfyddyd a chrefft. Os bydd deunyddiau'n cael eu darparu, yna disgwylir i'r myfyrwyr dalu amdanynt. Yn un neu ddau o'r meysydd pwnc, bydd y myfyrwyr yn gorfod talu am ddeunyddiau, wedi eu llungopïo, y byddant yn eu cadw. Mae'r myfyrwyr hefyd yn gyfrifol am dalu ffioedd arholi ac achredu. Mae rhagor o gyngor i'w gael gan diwtoriaid y cyrsiau.