Cynllun Motability
Os ydych yn derbyn cyfradd uchaf cydran symudedd Lwfans Byw i’r Anabl, Cyfradd Uwch Cydran Symudedd Taliad Annibyniaeth Personol, Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel neu Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (gweler Budd-daliadau a Lwfansau) mae’n bosibl ei ddefnyddio i brynu neu i brydlesu car sydd wedi’i addasu’n arbennig at eich defnydd chi drwy’r Cynllun Motability.
Motability Operations, City Gate House, 22 Southwark Bridge Road, Llundain. SE1 9HB
Ffôn: 0300 456 4566 Ffôn Testun: 0300 037 0100
www.motability.co.uk
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn gallwch wneud eich trefniadau eich hun i gael car wedi ei addasu drwy gysylltu â gwerthwyr ceir lleol sy’n gwneud gwaith ‘motability’ – chwiliwch am gwmni sydd wedi’i achredu i wneud gwaith Motability (motability accredited) yn yr Yellow Pages Advice for disabled drivers
Gall gyrwyr anabl gael cyngor am yrru, asesiad o’u gallu, a chyngor am addasiadau i geir a/neu ddewis car gan y Fforwm Canolfannau Symudedd. Ffôn 0800 559 3636 www.mobility-centres.org.uk/
Mae Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru De Cymru yn cynnig asesiadau i yrwyr a theithwyr gyda’r nod o ddarparu atebion tymor hir i broblemau symudedd.
Ysbyty Rookwood, Fairwater Road, Llandaf, Caerdydd CF5 2YN
Ffôn: 029205 55130
www.wmdas.co.uk