Fe leolir Harbwr Dinbych-y-pysgod mewn safle canolig yn nhref hardd Sioraidd Dinbych-y-pysgod, sy’n cael ei hadwaen yn aml fel “Un o drysorau pennaf Sir Benfro”.
Tref hardd ei llun, a hi bellach yw un o'r cyrchfannau mwyaf poblogaidd i bobl sy'n ymweld â Sir Benfro. Prif atyniad y dref, yn bendant, yw dengarwch y traethau sy'n ei hamgylchynu.
Ymholiadau am angorfeydd
Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch yr angorfeydd sydd ar gael byddwch cystal â ffonio'r Harbwrfeistr ar 01834 842717 neu 07812 559482 neu anfon e-bost at: tenby.harbour@pembrokeshire.gov.uk
Angorfeydd ar gyfer ymwelwyr
Angorfeydd yn yr harbwr mewnol: Mae angorfeydd ar gyfer ymwelwyr ar gael trwy gydol tymor yr haf, ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu. Gellir archebu a chadw angorfeydd o 1 Ebrill ymlaen.
Mae amryw angorfeydd ar gael ar gyfer badau nad ydynt yn fwy na 21 troedfedd o hyd. Bydd angorfeydd yn cael eu harchebu a'u cadw fesul cyfnodau o un wythnos, o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn, hyd at bedair wythnos ar y mwyaf fesul tymor. Ni ellir neilltuo a chadw mwy na dwy wythnos yn ystod unrhyw fis penodol. Cyn i unrhyw gwch gael ei lansio, mae'n rhaid cael tystysgrif yswiriant atebolrwydd 3ydd parti am £3 miliwn, a rhaid rhoi copi ohonynt i staff yr harbwr.
Ar hyn o bryd mae cychod hwylio yn defnyddio prif wal y cei sydd hefyd yn gallu derbyn llongau mwy. Mae gyda ni ysgolion â ffendrau, rhyng-gysylltiadau trydan a dŵr ffres ar gael, ynghyd â chawodydd, toiledau, man cegin, lolfa a chyfleusterau ymolchi/golchi a sychu i bobl eu defnyddio.
Yn Harbwr Dinbych-y-pysgod y mae Clwb Hwylio Dinbych-y-pysgod ac un o adrannau diwyd Cadlanciau'r Môr.
Digwyddiadau - Bydd llawer o sefydliadau lleol fel y Ford Gron, y Rotari, y Llewod a'r RNLI yn manteisio ar leoliad Harbwr Dinbych-y-pysgod gan ei fod yn amffitheatr naturiol lle gellir cynnal digwyddiadau blynyddol.
Am y storfeydd wrth yr Harbwr sydd ar gael i'w gosod ar hyn o bryd, mae croeso ichi un o'r tim eiddo ar 01437 775874 neu anfon e-bost at: propertyymholiadau@sir-benfro.gov.uk
Swyddfa Harbwr Dinbych-y-pysgod,Prif Wal y Cei,Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro,SA70 8BY
Ffôn: 01834-842717 Symudol: 0781-2559482 (Chris Salisbury)
E-bost: tenby.harbour@pembrokeshire.gov.uk
Rhif argyfwng: 08456 015522
Materion gweithredol yr Angorfeydd a'r Harbwr: dylech ffonio 0781-2559483 neu anfon e-bost at tenby.harbour@pembrokeshire.gov.uk
Ymholiadau am Eiddo: Ynghylch Eiddo dylech ffonio 01437-775746 neu anfon e-bost at jonathan.hickin@pembrokeshire.gov.uk
Mewn argyfwng gallwch ddefnyddio'r ddau uchod