Yr ateb syml yw ei fod yn estyn cefnogaeth o ran gwaith yr ysgol. Mae’n cyflwyno safbwynt sy’n wahanol i safbwynt y staff, a gall helpu’r ysgol i gynllunio i’r dyfodol ynghyd â chadw golwg ei bod yn gwneud yr hyn mae’n dweud ei bod yn ei wneud. Hefyd mae’n helpu i gloriannu effeithiolrwydd gweithgareddau’r ysgol. Yn gryno mae’n gweithredu fel cyfaill beirniadol.
Ond yr hyn nad yw Corff Llywodraethu yn ei wneud yw ymwneud â chynnal yr ysgol o ddydd i ddydd. Mae’n rhaid ichi ddeall yn bendant taw cyfrifoldeb y Pennaeth yw hyn. Er ei bod yn bosibl fod gan aelodau o’r CLl sgiliau y gallen nhw eu defnyddio i gefnogi’r ysgol e.e. o ran materion cyllid neu iechyd a diogelwch, mae’n holl bwysig nad yw’r llywodraethwyr yn dweud wrth y staff sut mae gwneud eu gwaith. Er ei bod yn debygol fod gennym ni oll syniad ynghylch beth sy’n gwneud athro neu athrawes dda, nid yw llywodraethwyr yn ymhél â barnu athrawon. Rôl y CLl yw sicrhau bod trefniadau ar waith i alluogi’r Pennaeth a’r uwch-staff i fonitro sut mae’r staff yn perfformio.
Yr ateb syml yw eu helpu i gyflawni eu cenhadaeth: sef rhoi’r addysg orau posibl i’w disgyblion. Gall corff llywodraethu wneud hyn drwy’r canlynol:
Hefyd mae rhai grymoedd a dyletswyddau penodol iawn. Dyma restr o rai o’r meysydd pwysicaf o ran cylch gwaith llywodraethwyr:
Yn ogystal, mewn Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, mae’r llywodraethwyr yn gyfrifol am addysg grefyddol, addoli ar y cyd, derbyn disgyblion, yr adeiladau a chyflogi’r staff.
Dylai fod yn gysur gwybod taw prin yw’r penderfyniadau y byddai’n rhaid i Gorff Llywodraethu eu gwneud heb gyngor y Pennaeth.
Mae’n bwysig iawn pwysleisio:
Mae pob Corff Llywodraethu wedi mabwysiadu Polisi Cwynion ar gyfer ei ysgol. Mae’n rhaid i bawb gydymffurfio â’r Polisi hwn, gan gamu ymlaen drwy Gamau 1 (lefel athro/athrawes) a 2 (lefel y Pennaeth), cyn y gall Corff Llywodraethu ymwneud â’r mater (Cam 3). Pan fo cwyn yn cyrraedd Cam 3 y broses, bydd angen i bwyllgor cwynion y Corff Llywodraethu gyfarfod i ystyried pryderon yr achwynydd.
Mae’n bwysig nodi na all Cyrff Llywodraethu na llywodraethwyr unigol fod yn gysylltiedig ag ymwneud â phryderon neu gwynion tan y cam priodol yn y Polisi Cwynion (Cam 3).
Er mwyn cyflwyno cwyn ffurfiol, dylai aelod o’r cyhoedd gysylltu â’r ysgol a gofyn am gael copi o’i Pholisi Cwynion, os nad yw ar gael ar wefan yr ysgol.