Caiff carbon ei losgi wrth dyfu, prosesu a chludo’r bwyd a brynwch. Os yw’r bwyd hwnnw wedyn yn methu ei brif gyrchfan (eich bol) ac yn mynd i sach ddu ar y domen, mae’n pydru ac yn gollwng rhai nwyon ofnadwy iawn - yn enwedig Methan (un o’r nwyon tŷ gwydr mwyaf grymus a dinistriol)
Mae rheswm pam fod oglau mor ddrwg ar safleoedd tirlenwi, a bwyd yn pydru yw’r prif bechadur
Nid yw’n perthyn yno
Gallwch ailgylchu eich bwyd. Mae Cyngor Sir Penfro’n rhoi blwch bwyd llwyd i bob cartref (i’w ddefnyddio dan do) a bin bwyd gwyrdd (i’w adael oddi allan ar ddiwrnod biniau BOB WYTHNOS). Bydd y gwastraff bwyd yn pydru mewn biniau enfawr lle caiff y nwyon niweidiol eu casglu a’u llosgi’n ddiogel i gynhyrchu ynni ar gyfer y cartref… gwrtaith yw’r sylwedd sydd ar ôl i wella’r pridd sy’n tyfu rhagor o fwyd i ni ei fwynhau
Ydych chi’n ailgylchu eich gwastraff bwyd?
Ffeithiau am Wastraff Bwyd
▪ Mae’r DU yn taflu gwerth £13 biliwn punt o leiaf o fwyd bob blwyddyn y gellid bod wedi’i fwyta
▪ Ar gyfartaledd mae pobl yn taflu 74kg o wastraff bwyd yr un bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i 1077 croen banana
▪ Yr amcangyfrif yw bod pob aelwyd yn y DU yn taflu gwerth £700 o fwyd bob blwyddyn
▪ Byddwn yn taflu 1.4 miliwn o fananas heb eu cyffwrdd bob dydd… 1.3 miliwn iogwrt heb ei agor… 600,000 o wyau amrwd cyfan… 1.2 miliwn o selsig heb eu cyffwrdd… 20 miliwn tafell o fara
Gwnewch nodyn o’ch ateb a dal i ddilyn y Llwybr Eco Hyrwyddwr